Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Gyfnewidfa Cymru. Mae rhestrau o ddigwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Dydd Mercher 1 Mai 202
09:00 – 16:00
Venue Cymru, Promenâd, Llandudno, LL30 1BB
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi’r gynhadledd gyntaf o’i math gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, ‘Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050’.
Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio ar gyfer penaethiaid ac uwch arweinwyr o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfle i arweinwyr addysgol o bob lleoliad ddathlu eu llwyddiannau wrth ddatblygu’r Gymraeg yn eu sefydliadau ac archwilio’r camau nesaf i wireddu’r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn cynnwys:
- Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin
- Dr Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr, Mentrau Iaith
- Angharad Lloyd Beynon, Rheolwr Polisi, Rhanddeiliaid a Phartneriaethau (Cenhedloedd), Grŵp City and Guilds
- Catrin Davis, Pennaeth Prentisiaethau, Urdd Gobaith Cymru
- Yr Athro Mererid Hopwood, Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth
Rhad ac am ddim, cofrestru’n hanfodol.
Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.