Cyflwyniad

Mae asesiadau personol mewn Darllen a Rhifedd yn asesiadau ar-lein sydd wedi’u cynllunio i helpu i gefnogi plant i ddatblygu sgiliau darllen a rhifedd. Cânt eu defnyddio mewn ysgolion fel un o ystod o ddulliau i gefnogi cynnydd fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae asesiadau personol blynyddol yn orfodol ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir. Mae’r asesiadau’n cynnwys: Rhifedd a gymerir mewn dwy ran – Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu); Darllen yn Gymraeg a Saesneg (gweler y nodyn ar amseriad cyflwyno asesiadau personol isod, a gwybodaeth bellach am bob asesiad a’r gofynion gorfodol ym mhrif adran yr adroddiad hwn). 

Mae’r asesiadau hyn yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau darllen a rhifedd disgyblion unigol a dealltwriaeth o gryfderau a meysydd i’w gwella yn y sgiliau hyn. Ar ôl cwblhau asesiadau, mae ysgolion yn cael adborth ar sgiliau, cynnydd, ac ystod o adroddiadau i helpu i gynllunio addysgu a dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn glir mai pwrpas yr asesiadau yw cefnogi cynnydd mewn dysgu, ac nad yw canlyniadau’r asesiad i’w defnyddio at ddibenion atebolrwydd ar unrhyw lefel.

Gall data dienw o asesiadau personol hefyd gynnig rhywfaint o wybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd ar lefel genedlaethol, gan ddangos newidiadau mewn cyrhaeddiad dros amser a gwahaniaethau rhwng grwpiau demograffig. 

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio’r adroddiad hwn ar y cyfle cyntaf i helpu i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Dyma’r flwyddyn gyntaf y mae data lefel genedlaethol ar gael fel cyfres amser ar gyfer pob pwnc asesu. Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data dienw o asesiadau personol a gynhaliwyd rhwng 2018/19 (cyflwynwyd yr asesiad cyntaf) a 2022/23. Nid yw cyhoeddi’r adroddiad hwn yn golygu unrhyw newid i ysgolion; bydd plant yn parhau i gael eu hasesu’n bersonol yn yr un ffordd a chaiff yr asesiadau eu defnyddio ochr yn ochr â mathau eraill o asesiadau a ddyluniwyd gan ysgolion yn unol â fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddatganiadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer data asesu personol ar lefel genedlaethol. Pwnc yr adroddiad byr hwn yw newidiadau mewn cyrhaeddiad dros amser. Bydd datganiad mwy cynhwysfawr ar ddata 2018/19 i 2022/23, i’w gyhoeddi ddiwedd gwanwyn 2024, yn dangos gwahaniaethau demograffig, er enghraifft rhwng disgyblion gwrywaidd a benywaidd, a’r bwlch rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion. Wedi hynny, bydd datganiadau blynyddol yn cael eu cyhoeddi a fydd, yn y pen draw, yn dangos tueddiadau ac yn darparu gwybodaeth bwysig ar ddatblygiad disgyblion yn y sgiliau hyn dros amser, ar lefel genedlaethol. 

Bydd y datganiadau’n rhan o ystod ehangach o wybodaeth ar lefel genedlaethol ar gyflawniad dysgwyr, gan ategu, er enghraifft, y wybodaeth a dynnwyd o’n rhaglen ehangach o asesiadau monitro cenedlaethol ar sail sampl, a fydd yn cwmpasu ehangder Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr asesiadau ar sail sampl yn ceisio asesu sampl o ysgolion yn unig bob blwyddyn, gan sicrhau bod y beichiau ar y system yn cael eu lleihau wrth gyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol o sut mae Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi datblygiad dysgwyr. Disgrifir y rhaglen hon yn fanylach yng Nghynllun Gwerthuso Cwricwlwm i Gymru.

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys nac adnoddau allanol.