Gweminar: “Beth sy’n gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal: Tystiolaeth adolygu systematig”
Dydd Mawrth, 15 Tachwedd, 16:00-17:00 GMT+1
Presenter: Dr Rhiannon Evans , DECIPHer, Prifysgol Caerdydd
Amser: 16:00-17:00 GMT+1
Dyddiad: 15/11/23
Lleoliad: ZOOM, Ar-lein
Crynodeb
Mae lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn parhau’n bryder mawr. Hyd yma, nid yw wedi bod yn glir pa raglenni a allai fynd i’r afael â’r canlyniadau hyn yn effeithiol, neu atal hunanladdiad, yn y DU. Gwnaethom gynnal adolygiad systematig o dystiolaeth ryngwladol er mwyn deall pa raglenni sy’n gweithio, sut maent yn gweithio, a beth allai fod yr heriau i gyflwyno ac ennyn diddordeb. Gwnaethom nodi cyfanswm o 64 o raglenni, a adroddwyd ar draws 124 o astudiaethau. Roedd y rhan fwyaf o’r rhaglenni yn dod o UDA, a chawsant eu gwerthuso yno.
Yn gyffredinol, dangosodd rhaglenni rai effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl yn y tymor byrrach, ond nid yn y tymor hwy. Nid oedd digon o ddata ar les a hunanladdiad. Roedd y rhwystrau rhag cyflawni yn cynnwys: diffyg adnoddau; ymdrech darparu a chyfranogiad; perthnasoedd rhyngbroffesiynol anodd; a rhaglenni nad oedd yn ymatebol i anghenion gofalwyr na phobl ifanc. Gwnaethom gynnal saith ymgynghoriad â rhanddeiliaid gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i fyfyrio ar ganfyddiadau’r adolygiad. Roeddent yn argymell y dylai rhaglenni ganolbwyntio ar ddarparu mentora gan unigolion eraill sydd â phrofiad o ofal a chefnogi newidiadau i’r system drwy gyflwyno modelau ymarfer sydd wedi’u llywio gan ymlyniad a/neu drawma. Dylai rhaglenni hefyd anelu at hyrwyddo lles ac atal canlyniadau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad.
Bywgraffiad
Mae Dr Rhiannon Evans yn Ddarllenydd yn y Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd yng nghanolfan ymchwil DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddulliau ar gyfer datblygu a gwerthuso rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn rhaglenni i gefnogi iechyd meddwl a lles, ac atal hunanladdiad, ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.