Cyflwyniad

Fel rhan o’r prosiect Joining Up Joining In a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Blagrave fe wnaethom gynnal arolwg mewn partneriaeth â’n hymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o ofal. Hyd yn hyn ar y prosiect, mae pedwar o bobl ifanc wedi cael hyfforddiant gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith i ddod yn ymchwilwyr cymheiriaid ac archwilio’r materion y mae pobl ifanc â phrofiad o ofal lleol yn eu hwynebu. Yr arolwg hwn oedd eu gweithgaredd ymchwil cyntaf, yr oedd y grŵp am ei gynnal o ystyried momentwm awdurdodau lleol ledled y wlad yn pleidleisio i gydnabod profiad gofal fel nodwedd warchodedig. Dyluniodd y bobl ifanc yr arolwg, gan ei hyrwyddo i’w rhwydweithiau, dadansoddi’r canfyddiadau ac ysgrifennu adrannau’r adroddiad hwn sy’n cyflwyno canfyddiadau’r arolwg.

Cefndir

Fel y gwyddom, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yw un o’r grwpiau mwyaf agored i niwed ar draws ein cymdeithas. Bydd pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn aml yn dod ar draws canlyniadau anghymesur o negyddol sy’n ymwneud ag amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys addysg, cyflogaeth a’u cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. Yn fwyaf diweddar, cydnabuwyd bod tua 50% o boblogaeth carchardai o dan 21 oed wedi treulio peth amser yn y system ofal. Yn 2018-19 dim ond 13% o ddisgyblion a oedd yn derbyn gofal yn barhaus am 12 mis neu fwy a aeth i addysg uwch o gymharu â 43% o’r holl ddisgyblion eraill. Yn 2019, dangosodd yr Adran Addysg erbyn 19-21 oed, nad yw 38% o bobl ifanc â phrofiad o ofal mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant o gymharu ag 11.6% o’r holl bobl ifanc eraill. Roedd yr adolygiad annibynnol diweddar o ofal cymdeithasol plant yn cydnabod pwysigrwydd amddiffyn pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan wneud profiad gofal yn nodwedd warchodedig. Mae’r syniad o newid polisi wedi creu momentwm ar draws y sector gofal, gyda chefnogaeth ymgyrch genedlaethol Terry Galloway i awdurdodau lleol fabwysiadu’r polisi. Hyd heddiw, mae cyfanswm o 57 o awdurdodau lleol wedi cytuno i’r newid a nod ein hymchwilwyr cymheiriaid yw i’r nifer hwn barhau i dyfu, yn enwedig yn lleol ar draws Caerlŷr, Swydd Gaerlŷr a Rutland sydd eto i gytuno i’r newid hwn. .

Canfyddiadau

Cyflwynir canfyddiadau’r arolwg o dan y themâu allweddol a nodwyd yn yr ymatebion: cefnogaeth i “brofiad gofal” fel nodwedd warchodedig, profiadau personol, stigma a gwahaniaethu, effaith bod mewn gofal, a diffyg cymorth.

Mae cefnogaeth gref dros wneud profiad gofal yn nodwedd warchodedig.

O’r 32 o ymatebion a dderbyniwyd i’r arolwg, roedd 68.8% yn cytuno’n gryf y dylai bod â phrofiad o ofal fod yn nodwedd warchodedig, 25% yn cytuno, 3.1% yn niwtral a 3.1% yn credu na ddylai bod â phrofiad o ofal fod yn nodwedd warchodedig. Roedd diffyg cymorth parhaus a dealltwriaeth o bobl ifanc â phrofiad o ofal yn sail i farn llawer o bobl. Roedd cydnabyddiaeth glir hefyd o sut y gallem ddathlu llwyddiant pobl ifanc â phrofiad o ofal yn fwy amlwg. Felly, gallai dynodi profiad o ofal yn nodwedd warchodedig helpu i wella a chyflawni rhagor o ganlyniadau cadarnhaol.

Profiadau personol

Roedd ymatebwyr i’r arolwg yn teimlo y credir yn aml fod pob person ifanc sydd â phrofiad o ofal wedi cael yr un profiadau neu brofiadau sy’n gorgyffwrdd o fewn y system, ac nid yw hyn bron bob amser yn wir. Mae hyn yn rhoi’r rhai sy’n gadael y system mewn sefyllfa anodd o orfod nodi a dod o hyd i atebion ar gyfer yr anawsterau y gallent fod wedi’u datblygu oherwydd trawma plentyndod a bod o fewn y system ofal, gan fod yna ymagwedd “yr un dull i bawb” at gymorth ar hyn o bryd. Wrth wneud profiad gofal yn nodwedd warchodedig, rhaid iddo gydnabod bod pob person sy’n gadael y system rhianta corfforaethol yn unigolyn a dylid cynnig cymorth iddo o ganlyniad. Byddai hyn yn cael gwared ar rai rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth fynd i weithleoedd a dod yn annibynnol. Byddai hyn yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar wasanaethau gadael gofal i wneud y broses bontio yn rhwyddach gan helpu’r rhai sy’n gadael gofal i ddod o hyd i gyflogaeth sefydlog ar ôl gofal.

“Mae’n gadael pobl ifanc/y rhai sy’n gadael mewn sefyllfa unigryw ac, fel arfer, fwy niweidiol o safbwynt meddyliol, ariannol ac addysgol, i restru ond rhai,”

Cyfranogwr

Stigma a Gwahaniaethu

The survey findings indicated that care experienced young people do not want to be stigmatised as it is not the person’s fault that they ended up in care; these are factors that are completely out of their control. Having care experience as a protected characteristic is important as it allows individuals to be aware of the disadvantages and experiences young people in care face, which may therefore raise more awareness and allow for more opportunities to arise for care experienced young people, with less stigma and discrimination directed towards them. The advantage of a protected characteristic would allow the opportunity for care experienced people to have the option to make others aware that they are care experienced, in the same way that disability, sex, age and other protected characteristics do.Roedd canfyddiadau’r arolwg yn dangos nad yw pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal am gael eu stigmateiddio gan nad bai’r person yw ei fod wedi cael ei hun mewn gofal; mae’r rhain yn ffactorau sydd y tu allan i’w rheolaeth yn llwyr. Mae gwneud profiad gofal yn nodwedd warchodedig yn bwysig gan ei fod yn galluogi unigolion i fod yn ymwybodol o’r anfanteision a’r profiadau y mae pobl ifanc mewn gofal yn eu hwynebu, a all godi mwy o ymwybyddiaeth a chreu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gyda llai o stigma a gwahaniaethu tuag atynt. Byddai mantais nodwedd warchodedig yn rhoi’r cyfle i bobl sydd â phrofiad o ofal gael y dewis i wneud eraill yn ymwybodol bod ganddynt brofiad o ofal, yn yr un modd ag anabledd, rhyw, oedran a nodweddion gwarchodedig eraill.

“Nid bai’r person yw ei fod wedi cael ei hun mewn gofal. Mae’n debyg ei fod wedi goresgyn llawer
o heriau, ac yn fwy na’r person cyffredin, felly dylid ei amddiffyn”.

Cyfranogwr

Effaith bod mewn gofal sy’n ymwneud â thrawma a’r profiad o gael eich gwthio i’r cyrion

Mae’r thema hon yn bwysig gan ei bod yn tynnu sylw at yr anawsterau systemig y mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn eu hwynebu trwy fod yn rhan o’r ddemograffeg honno. Teimlai’r ymatebwyr fod hyn wedyn yn ‘diystyru’ yr unigolyn fel rhywun disylw ac yn caniatáu i weithwyr proffesiynol ffurfio rhagdybiaethau a rhwystro cyfleoedd i’r bobl ifanc hyn heb eu derbyn am eu personoliaethau a’u rhinweddau unigol. Gall senario nodweddiadol gynnwys person ifanc â phrofiad o ofal yn gwneud cais am swydd ac yn cael ei dderbyn, ond mae’r trawma y mae wedi’i brofi yn ei adael ag anhwylder gorbryder. Mae hyn yn peri i’r cyflogwr amau ​​ei alluoedd (yn aml oherwydd stigma), ac o ganlyniad, mae’r person ifanc yn colli allan ar y cyfle hwn am swydd. Mae’n bwysig sylwi a chydnabod pa mor gyffredin yw’r sefyllfaoedd hyn y mae pobl ifanc â phrofiad o ofal yn dod ar eu traws, oherwydd eu bod yn perthyn i grŵp ymylol. Trwy gydnabod yr anfanteision hyn, gall systemau ddechrau deall profiadau pobl ifanc, gan weithio felly ar greu a gweithredu strategaethau i dargedu’r anfanteision hyn.

Mae’n bwysig deall bod pob profiad yn unigryw i’r unigolyn a gall barn pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ar y thema hon fod yn wahanol. Un argymhelliad allweddol fyddai i bob system a sefydliad sy’n cynnwys pobl ifanc, er enghraifft iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, gorfodi’r gyfraith a sefydliadau preifat, gael hyfforddiant sy’n eu haddysgu i ddeall profiadau ac anghenion penodol pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Byddai hyn o fudd i bobl ifanc trwy greu dealltwriaeth ehangach trwy fynd i’r afael â stereoteipiau, gan greu mwy o gyfleoedd o bosibl.

“Mae’r grŵp hwn o bobl ifanc yn wynebu allgáu a gwahaniaethu systemig ym mhob agwedd ar fywyd.”

Cyfranogwr

Diffyg cymorth

Mae’r canfyddiadau’n amlygu mai rhwydwaith cymorth cyfyngedig sydd gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac y byddant yn aml yn cael trafferth dod o hyd i gyfleoedd sy’n eu cynorthwyo i symud ymlaen o’r brwydrau yn eu bywyd. Mae’n bwysig bod gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal rwydwaith cymorth y gellir ymddiried ynddo sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar eu cyfer a’u hanghenion i ddarparu sefydlogrwydd a sylfaen gref ar gyfer llwyddiant yn eu bywydau yn y dyfodol. Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn aml yn agored i deimladau o unigrwydd a bod yn fregus oherwydd bod ganddynt ddim ond rhwydwaith cyfyngedig i droi ato am gymorth. Mae’n bwysig i bobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu cefnogi i wireddu eu breuddwydion a bod y cymorth hwn yn dod gan bobl y mae ganddynt berthnasoedd da â nhw ac nid yn unig y rhai sydd ar gael i’r person ifanc.

Gellir cyflawni hyn trwy gynnal trafodaethau parhaus â’r person ifanc i gynnal syniad da o ddiddordebau a llwybrau gyrfa posibl. Gallai hyn helpu i ddarparu modelau rôl neu unigolion sydd â diddordebau a rennir gan ddarparu’r sylfeini ar gyfer bondiau. Gall fod yn fuddiol hefyd i bobl ifanc gymryd rhan mewn therapi o ryw fath i’w cynorthwyo i weithio trwy drawma plentyndod gan alluogi pobl ifanc i ymddiried yn haws, yn hytrach na bod yn rhwystr i’r rhai sy’n aml yn ceisio helpu.

“Mae pobl sy’n gadael gofal yn wynebu heriau ychwanegol, gan fod rhaid iddynt fyw’n annibynnol o oedran ifanc gyda rhwydwaith cymorth cyfyngedig yn aml.”

Cyfranogwr

Ein gofynion

Ein prif ofynion o ganlyniad i ganfyddiadau ein harolwg yw:

  • Cyngor Dinas Caerlŷr, Cyngor Swydd Gaerlŷr a Chyngor Rutland i gydnabod “profiad gofal” fel nodwedd warchodedig.

Yn sail i hyn mae cyfres o gamau gweithredu a newidiadau y dylai’r awdurdodau lleol eu rhoi ar waith i wella cymorth i bobl ifanc â phrofiad o ofal yng Nghaerlŷr a Swydd Gaerlŷr:

Hybu llwyddiant:

  • Creu system mentora cymheiriaid gan ddefnyddio modelau rôl cadarnhaol sydd wedi gadael y system ofal gyda’r nod o ysbrydoli ac annog pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i fynd ymlaen i lwyddiant yn y dyfodol.
  • Cynyddu ymgysylltiad pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal â hobïau a grwpiau cymdeithasol i fagu hyder a ffurfio rhwydweithiau cyfoedion

Cyflogaeth

  • Gwella cysylltiadau â busnesau lleol i ddarparu mwy o gyfleoedd gwirfoddoli neu weithio i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ennill profiad o fywyd gwaith.
  • Dod o hyd i ragor o brentisiaethau â thâl sydd wedi’u neilltuo ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ar draws amrywiaeth o sectorau.

Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal:

  • Ymgysylltu ymhellach â busnesau lleol a’r sector cyhoeddus i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am y cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n symud i gyflogaeth.
  • Darparu cyfleoedd hyfforddi ehangach i staff o fewn y system addysg a allai fod yn uniongyrchol gyfrifol am bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Bydd ymchwilwyr cymheiriaid ar Joining Up, Joining In yn gweithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled y ddinas a’r sir i rannu canfyddiadau’r ymchwil hwn a gofyn i’r ddau awdurdod lleol weithredu ar ein gofynion.

I gael rhagor o wybodaeth am Leicestershire Cares a’n gwaith, ewch i www.leicestershirecares.co.uk neu chwiliwch @LeicsCares ar X neu Instagram neu cysylltwch â mi yn uniongyrchol aidan@leicestershirecares.co.uk

Powering Up Project (Care experience) | Leicestershire Cares

Joining Up Joining In | Leicestershire Cares

Joining Up Joining In | Leicestershire Cares

Leaving Care Update Q1 2023/24 | Leicestershire Cares