O fod mewn sefydliad i sefyll ar fy nhraed fy hun
Fe ddechreuais astudio yn y brifysgol pan oeddwn yn 23 oed ar ôl treulio 10 mlynedd mewn cartrefi gofal ac ysbytai seiciatrig. Drwy gydol y blynyddoedd hynny, un o’r pethau a oedd wastad yn rhoi gobaith i mi oedd fy mreuddwyd i fynd i’r brifysgol. Ers pan oeddwn i’n ifanc, roeddwn i’n dychmygu mynd i’r brifysgol fel ffordd o ddianc, ffordd o gael rhyddid, a chreu bywyd gwahanol i’r un a oedd wastad wedi bod yn gyfarwydd i mi. Drwy gydol fy mlynyddoedd mewn gwahanol sefydliadau, fe wnes i ryngweithio gryn dipyn â gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys iechyd meddwl, meddygon, therapyddion, swyddogion heddlu, gweithwyr cymorth. Wrth ryngweithio â’r bobl hyn, nid oedden nhw’n deall fy mhrofiadau gan amlaf. Roedden nhw’n fy meirniadu, yn meddwl eu bod yn gwybod beth oedd orau i mi, ac yn cydymdeimlo â mi os nad oedden nhw’n deall. Ni wnaeth yr holl brofiadau hyn fy helpu pan oeddwn yn creu fy hunaniaeth ac yn datblygu fel person, yn enwedig gan fy mod i’n ifanc. Drwy’r holl therapi a’r ymyriadau, yr adegau hynny pan fyddai gweithwyr proffesiynol yn rhyngweithio â mi ac fy nhrin fel bod dynol sydd wedi bod bwysicaf i fy nghynnydd. Fydden nhw ddim yn teimlo trueni drosta i nac yn ceisio fy rheoli i. Yn lle hynny, bydden nhw’n siarad â mi fel person am bethau arferol.
Beth ydw i’n ei olygu o ran cael fy nhrin fel bod dynol?
“Cael sgyrsiau arferol am bethau fel cŵn neu raglenni teledu, neu wneud gweithgareddau celf gyda mi. Yn hytrach na chael cyfarfodydd amserlenni i drafod fy nghynnydd, fel cyfarfodydd am blant sydd o dan ofal (LAC), rowndiau ward, sesiynau therapi neu archwiliadau rheoledig. Maen nhw’n fy nhrin i fel un o’r bobl ifanc y byddwn i’n eu gweld ar y teledu yn cael bywyd arferol. A dyna beth wnaeth yr holl wahaniaeth a gwneud i mi deimlo fel bod dynol”
Person ifanc â phrofiad o ofal
Datblygu fy rhwydwaith ac agor fy myd
Fy ofn mwyaf cyn dechrau yn y brifysgol oedd y byddwn yn treulio’r rhan fwyaf o’m hamser ar fy mhen fy hun, gan mai dyma’r profiad roeddwn i wedi dod i arfer ag ef drwy gydol fy amser o dan ofal ac mewn ysbytai. Fe welais i gryn dipyn o wrthdaro rhwng cyfoedion a llawer o egni negyddol yn y cartrefi gofal a’r ysbytai yr oeddwn i ynddyn nhw. Felly, fe wnes i dreulio blynyddoedd yn ynysu fy hun a pheidio â gwneud unrhyw ffrindiau. Roeddwn i’n meddwl y byddai’r brifysgol yr un fath oherwydd doeddwn i erioed wedi cael y cyfle i gymdeithasu’n iawn, heb sôn am y ffaith y byddai fy mhrofiadau i yn wahanol i rai pawb arall. Fodd bynnag, buan iawn y gwnes i sylweddoli fy mod am gael profiad gwahanol iawn i’r hyn yr oeddwn wedi’i ddisgwyl.
Rwy’n cofio dweud wrtha i fy hun mai fi sydd â’r pŵer dros yr holl ofnau hyn, ac y bydden nhw’n cael eu gwireddu oni bai mod i’n cymryd camau i newid hyn. Rwy’n cofio mai fy niwrnod cyntaf yn llety’r brifysgol oedd yr adeg hollbwysig honno. Dywedodd fy nghyd-letywr wrtha i eu bod wedi cwrdd â rhywun yn yr un llety â ni sydd hefyd yn astudio seicoleg, ac y dylwn anfon neges atyn nhw ar Instagram. Er na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl ddwywaith am wneud hyn yn ôl pob tebyg, roedd yn gam enfawr i mi oherwydd fy ngorbryder, fy mhrofiadau blaenorol a’r ffaith mod i mor fewnblyg. Ond wedyn nes i feddwl, beth os ydw i a’r person arall yn bryderus ynghylch cwrdd â phobl eraill, mae perygl y gallwn i wastraffu’r cyfle. Felly, fe anfonais i neges, er mod i fod ar bigau drain yn llwyr wedi i mi wneud hynny. Ac o ganlyniad i gwrdd â’r ffrind hwn, fe wnaeth hynny ddechrau cadwyn o brofiadau a roddodd y cyfle i mi gwrdd â’r bobl sydd nid yn unig yn hanfodol i’m taith yn y brifysgol ond sydd hefyd am fod yn ffrindiau oes i mi yn ôl pob tebyg.
“Roeddwn i’n meddwl y byddai’r brifysgol yn debyg…. Fodd bynnag, buan iawn y daeth i’r amlwg i mi fod hyn am fod yn dra gwahanol”.
person ifanc â phrofiad o ofal
Dod o hyd i sefydlogrwydd a gwydnwch yn fy nghymuned
Ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, ar ôl dod i arfer â fy mywyd newydd, roeddwn yn fwy awyddus i lywio fy nyfodol o ganlyniad i’r teimladau cadarnhaol o annibyniaeth yr oeddwn wedi bod yn dyheu amdanyn nhw cyhyd. Fe gysylltais â’m gweithiwr gadael gofal i ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli, ac fe wnaeth fy rhoi mewn cysylltiad â Leicestershire Cares.
Roeddwn i’n meddwl y byddwn yn gwirfoddoli i Leicestershire Cares, ond buan iawn y sylweddolais i mai dim ond gwasanaeth arall ydoedd o bosibl, fel y rhai yr oeddwn wedi’u profi eisoes. Y gwir amdani oedd mod i am roi’r math hwn o wasanaeth y tu ôl i mi er mwyn creu fy mywyd fy hun a bod yn annibynnol. Fodd bynnag, fe benderfynais i roi cyfle iddo a gwelais fod Leicestershire Cares yn fwy o gymuned gefnogol yn hytrach na gwasanaeth arferol. Rhoddodd y cyfle i mi hefyd ddangos fy mhersonoliaeth a’r hyn yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol. Mae helpu pobl o gefndiroedd difreintiedig, creu newid systemig, ac ymladd dros gymdeithas sy’n cyflawni tegwch yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon. Fe wnaethon nhw gynnig cyfleoedd i mi integreiddio yn fy nghymuned leol. Fe ddechreuais i wirfoddoli mewn sefydliad lleol a wnaeth fy helpu i deimlo’n fwy annibynnol. Fe lwyddodd hefyd i fy helpu i ddatblygu gwell ymdeimlad o bwy ydw i, a hynny mewn cyd-destun nad oeddwn erioed wedi bod eisiau dychwelyd iddo o ganlyniad i’r profiadau a gefais yn ystod fy mhlentyndod.
“Daeth i’r amlwg i mi fod Leicestershire Cares yn fwy o gymuned gefnogol na gwasanaeth arferol… roedd hefyd yn rhoi lle i mi fynegi fy mhersonoliaeth a beth faswn yn hoffi ei wneud yn y dyfodol”
person ifanc â phrofiad o ofal
Datblygu fy nyfodol
Gyda chymorth Leicestershire Cares, cefais y cyfle i wirfoddoli mewn clwb ieuenctid lleol, ac fe wnaeth hyn fy helpu’n aruthrol i feithrin sgiliau ar gyfer fy nyfodol. Dros y 2 flynedd diwethaf, rydw i wedi ymrwymo i grŵp wythnosol sydd wedi fy ngalluogi i roi hwb i fy hyder mewn amgylchedd gwaith. Pan ddechreuais i am y tro cyntaf, roeddwn i’n bryderus a doeddwn i ddim yn gwybod a fyddwn i’n gallu gwneud fy swydd yn dda, er ei bod yn swydd yr oeddwn i am adeiladu fy ngyrfa o’i chwmpas. Ond fe wnaeth fy helpu i gael llawer o brofiadau gwahanol a gwneud i mi sylweddoli mai dyma beth rydw i fod i’w wneud. Drwy fy rôl gyffredinol yn y clwb ieuenctid a’r cyfleoedd y mae wedi’u rhoi i mi gydweithio â rhannau eraill o’r gymuned, fe wnes i fagu llawer mwy o hyder a gwydnwch. Rhoddodd y cyfle i mi droi fy nghynllun ar ben ei waered a bod yn arsylwr ac yn rhywun cefnogol i eraill, yn hytrach na’r un sy’n derbyn gwasanaethau. Yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, fe wnes i hefyd ddod yn ymchwilydd cymheiriaid yn Leicestershire Cares ac mae hyn wedi fy helpu i ennill yr hyder i fynegi’r hyn sy’n agos at fy nghalon a gweithio tuag at wella systemau sydd wedi fy siomi ar fy nhaith i. Roeddwn i’n arfer bod â llawer o stigmas amdana i fy hyn o ran bod â phrofiad o ofal a chael anawsterau iechyd meddwl, ac roeddwn i’n meddwl na allwn i ddilyn yr yrfa yr oeddwn i am ei dilyn gan na fyddai neb yn fy nghymryd o ddifrif oherwydd fy mhrofiadau. Felly, roeddwn i am gadw hynny’n gudd yn ystod fy nhaith er mwyn adeiladu fy nyfodol. Fodd bynnag, mae bod yn ymchwilydd cymheiriaid wedi dangos i mi mai bod yn agored am fy mhrofiadau yw un o’r ffyrdd mwyaf pwerus y gallaf helpu eraill a chreu’r newidiadau systemig sydd eu hangen ar gymdeithas. Mae hyn wedi digwydd i mi drwy gael swydd ôl-raddedig gyda sefydliad sy’n ymwybodol iawn o fy mhrofiadau ond sy’n gwerthfawrogi’r sgiliau rwyf wedi gweithio’n galed i’w datblygu drwy wirfoddoli, a fy ngradd yn y brifysgol.
“Bod yn agored am fy mhrofiadau yw un o’r ffyrdd mwyaf pwerus y gallaf helpu eraill a chreu’r newidiadau systemig sydd eu hangen ar gymdeithas”.
person ifanc â phrofiad o ofal
Fy nghyngor
“Pe byddwn yn gallu dweud unrhyw beth wrth unrhyw berson ifanc sydd â phrofiad o ofal neu sy’n mynd trwy unrhyw galedi, mi faswn yn dweud “byddwch yn garedig i chi eich hun, peidiwch â chymharu eich hun ag eraill, a byddwch yn hyderus y bydd pethau’n dod i drefn maes o law”. Mae gan bawb eu llinell amser a’u taith eu hunain, hyd yn oed pobl nad ydyn nhw’n gorfod delio â’r pethau rydyn ni’n gorfod eu gwneud, ac mae’n iawn peidio â chael ateb i bob problem. Dyw’r profiadau rydyn ni wedi’u cael ddim yn deg ac nid oes bai arnon ni amdanyn nhw. Ac mae’n wir, mae’n rhaid i ni weithio 10 gwaith yn galetach i fod ar sylfaen gyfartal gan fod pobl wedi ein siomi neu rydyn ni wedi gorfod delio â stwff na fyddwn i’n dymuno i unrhyw un arall orfod eu hwynebu. Ond mae hynny’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei gyflawni hyd yn oed yn fwy gwerth chweil. Nid yw’n hawdd ond mae’n rhaid i chi obeithio y bydd pethau’n dod i drefn. Ceisiwch ofyn am help, bachwch ar unrhyw gyfle y gallwch, a cheisiwch beidio â gorfeddwl pethau, er mor anodd yw hynny. Cyn belled â’ch bod chi’n gweithio tuag at gael bywyd sy’n eich gwneud chi’n hapus ac sydd orau i chi, anwybyddwch bawb arall”.
person ifanc â phrofiad o ofal
Fel tîm yn Leicestershire Cares, hoffem longyfarch y person ifanc hwn ar ei lwyddiannau niferus. Mae wedi cyflawni cymaint a, gyda lwc, wedi rhoi gobaith i bobl ifanc eraill sy’n profi amgylchiadau tebyg o fewn y system ofal.
I gael rhagor o wybodaeth am ein prosiect a’n gwaith gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, cysylltwch ag aidan@leicestershirecares.co.uk
Cafodd y blog hwn ei gyhoeddi’n wreiddiol gan Leicestershire Cares sydd wedi cydsynio iddo gael ei rannu ar ExChange: Teulu a Chymuned
https://www.leicestershirecares.co.uk/about-charity/case-studies/my-journey