Dydd Mercher 23 Hydref 2024
Y Brifysgol Agored, Milton Keynes, y DU

Rhannu prosesau a dulliau ymchwil at ddibenion grymuso plant a phobl ifanc

Er mwyn dathlu pen-blwydd y Ganolfan Ymchwil Plant (CRC) yn ugain oed, byddwn ni’n cynnal cynhadledd undydd yn y Brifysgol Agored yn Milton Keynes. Yn y gynhadledd hon, byddwn ni’n rhoi ystyriaeth i gyfeiriad a datblygiad ymchwil gyfranogol ar blant a phobl ifanc, yn ogystal ag ymchwil gyfranogol sy’n cael ei gwneud dan arweiniad plant a phobl ifanc ac ar y cyd â nhw. Bydd y digwyddiad hwn sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn rhoi’r cyfle inni ystyried yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, a’r heriau o’n blaenau. 

Sefydlwyd y Ganolfan Ymchwil Plant i hyrwyddo a chefnogi ymchwil gan blant a phobl ifanc, a dyma un o’r canolfannau cyntaf yn y DU i wneud hynny, ond erbyn hyn, rydyn ni’n rhan o rwydwaith sydd wedi’i hen sefydlu, sy’n cynnwys eiriolwyr a chynghreiriaid o’r un anian ledled y DU. Yn hyn o beth, dyma wahoddiad i wneud cyflwyniadau llafar neu gyflwyno poster sy’n amlygu ymchwil ar blant a phobl ifanc, yn ogystal ag ymchwil sy’n cael ei gwneud dan arweiniad plant a phobl ifanc ac ar y cyd â nhw, a hynny ar sail y ddwy thema a ganlyn.

  • Dulliau ac ymarfer ymchwil gyfranogol
  • Rheoli perthnasoedd pŵer ac annog grymuso

Os hoffech chi gyflwyno eich ymchwil (naill ai ar ffurf poster neu gyflwyniad byr ar lafar), cyflwynwch grynodeb gan ddefnyddio’r ffurflen cyflwyno crynodeb ar-lein. Mae angen cyflwyno crynodebau erbyn 5pm ddydd Gwener, 5 Gorffennaf 2024.

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.