‘Plant sy’n gwrthdaro â’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw’ Astudiaeth newydd sy’n trin a thrafod trais a cham-drin plentyn i riant yng Nghymru.
Nod yr astudiaeth hon yw cael gwybodaeth am brofiadau rhieni a gofalwyr o wrthdaro, trais a chamdriniaeth gan blant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, a’u deall. Prin iawn yw ein dealltwriaeth gyfredol o’r math hwn o drais teuluol. Mae hyn yn golygu bod teuluoedd yn ei chael hi’n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae angen ymchwilio ymhellach i brofiadau rhieni a gofalwyr o wrthdaro, trais a chamdriniaeth gan blant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, er mwyn i ni allu dod o hyd i ffyrdd o helpu a chefnogi’r teuluoedd hyn.
Prin yw’r gwaith ymchwil sydd wedi cael ei wneud yng Nghymru. Nod fy mhrosiect yw lleihau’r bwlch hwn trwy ddeall profiadau rhieni a gofalwyr o drais a cham-drin plentyn i riant. Mae fy ymchwil wedi cael ei ddylanwadu’n gryf gan weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi’r teuluoedd hyn, a rhieni a gofalwyr sy’n profi’r math hwn o drais teuluol. Nid yw pob gofalwr yn cael ei gynrychioli yn yr ymchwil cyfredol. Rydw i’n gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn dod â lleisiau’r holl rieni a gofalwyr sy’n profi trais a cham-drin plentyn i riant ynghyd. Bydd hyn yn ein galluogi i ehangu ac amrywio’r sylfaen dystiolaeth i fodloni anghenion rhieni a gofalwyr, a’u helpu nhw.
Beth fydd o dan sylw yn yr astudiaeth?
Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu recriwtio trwy wasanaethau, y cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau, gwefannau a fforymau perthnasol. Rydw i’n bwriadu cynnal cyfweliadau ag oddeutu 20 o rieni a gofalwyr sy’n profi gwrthdaro, trais neu gamdriniaeth gan blentyn y maen nhw’n gofalu amdano. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan hefyd yn cael eu gwahodd i wneud darn o waith creadigol cyn y cyfweliad, a all eu helpu i rannu eu stori – gallan nhw greu gludwaith, tynnu llun, creu llinell amser neu rywbeth arall. Does dim rhaid i rieni wneud darn o waith creadigol os nad ydyn nhw’n dymuno.
Hoffwn i wahodd y rhai sy’n cymryd rhan i helpu i wirio’r ffordd rydw i’n dehongli’r data. Hoffwn i hefyd gynnal digwyddiad cyfnewid gwybodaeth tua diwedd yr astudiaeth. Bydd hyn yn tynnu sylw at leisiau rhieni sy’n profi trais a chamdriniaeth gan blant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, a hynny er mwyn cael effaith gadarnhaol ar newid polisïau ac ymarfer.
Mae’r astudiaeth yn rhan o fy ymchwil PhD. Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sy’n ariannu’r astudiaeth. Rydw i’n eirioli dros bob math o ofalwr sy’n profi gwrthdaro, trais neu gamdriniaeth gan eu plentyn yn fy ngwaith ymchwil. Roeddwn i’n arfer gweithio’n eiriolwr trais domestig ac rydw i wedi gweithio ym maes trais a cham-drin teuluol ers 15 mlynedd. Carreg sylfaen fy ngwaith ymchwil yw egwyddorion sy’n ystyriol o drawma ac mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Anfonwch e-bost os ydych chi’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth, neu gallwch chi sganio’r côd QR isod.

Bethan Pell
Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd