Ers COVID-19, nid yw cyfraddau presenoldeb yng Nghymru wedi gwella, ac mae cyhoeddi’r ystadegau ar absenoldeb o Ysgolion Uwchradd 2022/23 yn ein hatgoffa’n llwyr o’r effaith barhaus ar blant a phobl ifanc.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu Parentkind i gynnal ymchwil ymhlith rhieni a gofalwyr yng Nghymru sydd â phlentyn sy’n wynebu problemau o ran eu presenoldeb. Gwnaed hyn er mwyn ceisio deall yn well y rhesymau dros eu habsenoldeb, y cymorth sy’n cael ei gynnig iddyn nhw, a pha gymorth fyddai o fudd i’w teuluoedd.

I gyd, fe gymerodd 2,616 o rieni ran yn yr arolwg, gyda 654 ohonyn nhw’n rhieni i blentyn sydd wedi bod yn absennol o’r ysgol am fwy nag 20 diwrnod mewn blwyddyn ysgol (ac eithrio pan gafodd ysgolion eu cau o achos i’r pandemig) – sef ein diffiniad o bresenoldeb gwael.

Yn sgîl y pandemig, mae aelodau o staff mewn ysgolion ac eraill wedi buddsoddi amser ac ymdrech i wneud llawer o waith caled i ailgysylltu a chefnogi dysgwyr, ac mae hynny’n parhau i ddigwydd ar hyd a lled Cymru.

Ymhlith rhai o’r camau a gymerwyd hyd yn hyn y mae’r canlynol:

  • Yn y cynllun Adnewyddu a Diwygio, amlinellir ymrwymiad y cynllun i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr yn sgîl y pandemig, gan osod iechyd a lles corfforol a meddyliol y dysgwyr wrth galon ei ddull gweithredu, ynghyd â buddsoddi bron i £500 miliwn yn 2020–21 a 2021–22.
  • Yn 2022–23, roedd cyllid ychwanegol yn cynnwys £3.5 miliwn er mwyn cefnogi presenoldeb mewn ysgolion, gyda ffocws penodol ar annog dysgwyr sydd wedi’u hymddieithrio o ddysgu yn sgîl y pandemig neu a oedd mewn perygl o gael eu hymddieithrio.
  • Mae’r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau wedi recriwtio dros 1,800 aelod o staff ar sail cyfwerth ag amser llawn a’i gadw, a hynny er mwyn rhoi hwb i’r capasiti a’r gallu i gefnogi dysgwyr, gan gynnig hyblygrwydd i ysgolion o ran y ffordd y caiff y cyllid ei ddefnyddio at ddibenion mynd i’r afael â heriau ac anghenion neilltuol.
  • Eleni, gwnaed buddsoddiad o £2.5 miliwn yn y gwasanaeth lles mewn addysg, a hynny er mwyn hwyluso’r capasiti ychwanegol y mae galw mawr amdano.
  • Mae adroddiad Parentkind ar bresenoldeb, a fydd yn nodi’r hyn fydd yn sbarduno trafodaeth yn genedlaethol ymhlith rhieni am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, yn cynnig cyfle hollbwysig i rieni gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu atebion i’r broblem.