Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022-2023. Hwn yw’r cyntaf o ddau adroddiad, o leiaf. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o ba mor dda y mae’r ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu agweddau allweddol ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod ADY cyfatebol. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi cefnogi ysgolion.

Argymhellion i ysgolion:

A1. Wella ansawdd y wybodaeth a ddarperir i rieni, er enghraifft, a datgan yn glir beth mae’r ysgol yn ei hystyried yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol 

A2. Sicrhau bod gan Gydlynwyr ADY ddigon o amser ac adnoddau i gyflawni eu dyletswyddau

A3. Sicrhau bod dysgu proffesiynol staff ysgol yn cynnwys ffocws digonol ar addysgu o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion ag ADY

Dylai awdurdodau lleol:

A4. Sicrhau bod yr holl ysgolion yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 

A5. Darparu gwybodaeth glir, gywir a chyfoes i randdeiliaid, yn enwedig o ran:

  • beth mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn ei olygu yn ei ysgolion
  • y CDUau hynny a fydd yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol a’r rhai a fydd yn cael eu cynnal gan ysgolion 

A6. Parhau i sicrhau ansawdd ac adolygu arfer a darpariaeth ddysgu ychwanegol i sicrhau bod cyllid a dysgu proffesiynol yn cefnogi cyflwyno’n effeithiol ar gyfer:

  • arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • cynlluniau datblygu unigol
  • gwasanaethau, adnoddau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg 

A7. Datblygu a chyhoeddi eu strategaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag ADY

Dylai Llywodraeth Cymru:

A8. Sicrhau bod gan bob lleoliad ddealltwriaeth glir o’r diffiniadau cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a’r Cod ADY, a darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo dealltwriaeth 

A9. Gwerthuso effaith cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i awdurdodau lleol yn llawn

A10. Sicrhau bod arweiniad a chyllid yn y dyfodol yn cael ei ddarparu mewn modd amserol i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio’n ddigonol