Cyfnod dan sylw:

2022

Dyddiad rhyddhau:

5 Rhagfyr 2023

Diweddarwyd ddiwethaf:

5 Rhagfyr 2023


Roedd PISA 2022 yn cynnwys 81 o systemau addysg, gan gynnwys Cymru. Yng Nghymru, cwblhaodd 2,568 o ddysgwyr 15 oed o 89 o ysgolion asesiad 2 awr ar gyfrifiadur a holiadur dysgwyr.

Nid oedd y sampl ar gyfer Cymru, ac ar gyfer llawer o wledydd eraill, yn bodloni rhai o safonau PISA. Cynhaliwyd Dadansoddiadau Tuedd Diffyg Ymateb i amcangyfrif faint o duedd oedd yn bodoli yn sampl Cymru, a’r sampl o wledydd eraill nad oeddent yn bodloni safonau PISA. I bob pwrpas, gostyngwyd y duedd bosibl yng nghanlyniadau PISA Cymru yn ystadegol fel rhan o’r broses ddadansoddi trwy ddefnyddio pwysoliadau wedi’u haddasu. Fodd bynnag, mewn rhai o’r systemau addysg lle na chyflawnwyd y safonau PISA, gallai addasiadau o’r fath fod yn llai effeithiol ac felly gall rhai canlyniadau fod ychydig yn uwch nag y bydden nhw fel arall. O ystyried efallai na fydd y samplau mewn mannau eraill yn y DU, mewn sawl gwlad OECD, ac mewn gwledydd cymharol eraill, yn gwbl gynrychioliadol o boblogaethau’r gwledydd hynny, mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn, yn enwedig wrth gymharu canlyniadau Cymru â rhai gwledydd eraill, a gyda sgoriau cyfartalog yr OECD a adroddir trwy gydol yr adroddiad hwn.

Prif bwyntiau

Mathemateg

  • Sgôr mathemateg cyfartalog PISA ar gyfer Cymru yn 2022 oedd 466. Roedd y sgôr hwn yn sylweddol is na sgôr cyfartalog yr OECD o 472.
  • Cyflawnodd dysgwyr mewn 42 o’r systemau addysg a gymerodd ran sgôr mathemateg cyfartalog a oedd yn sylweddol is na Chymru, o gymharu â 26 a gyflawnodd sgôr mathemateg cyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na Chymru.
  • Roedd sgôr Cymru o 466 yn sylweddol is na’r 487 a gyflawnwyd yn 2018. Roedd cyfartaledd tuedd yr OECD hefyd yn sylweddol is yn 2022 nag yn 2018.

Darllen

  • Sgôr darllen cyfartalog PISA ar gyfer Cymru yn 2022 oedd 466. Roedd hyn yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 476.
  • Cyflawnodd dysgwyr mewn 45 o’r systemau addysg a gymerodd ran sgôr darllen cyfartalog a oedd yn sylweddol is na Chymru, o gymharu â 27 a gyflawnodd sgôr darllen cyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na Chymru.
  • Roedd sgôr darllen cyfartalog Cymru yn sylweddol is na’r sgôr cyfartalog yn 2018 (483). Roedd cyfartaledd tuedd yr OECD hefyd yn sylweddol is yn 2022 (477) nag yn 2018 (488).

Gwyddoniaeth

  • Sgôr gwyddoniaeth cyfartalog PISA ar gyfer Cymru yn 2022 oedd 473. Roedd hyn yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 485.
  • Gwnaeth 43 o’r systemau addysg a gymerodd ran sgorio’n sylweddol is na Chymru mewn gwyddoniaeth, a gwnaeth 30 sgorio’n sylweddol uwch.
  • Roedd sgôr gwyddoniaeth cyfartalog cyffredinol Cymru ar gyfer 2022 yn wahanol iawn i’r sgôr o 488 a gyflawnwyd yn 2018. Nid oedd cyfartaledd tuedd yr OECD yn sylweddol is yn 2022 nag yn 2018.

Nodyn

Mae’r ffigurau uchod yn seiliedig ar gymharu Cymru â gwledydd eraill a gymerodd ran, gan gynnwys gwledydd y DU. Mae hyn yn gyson â’r adroddiad cenedlaethol a gynhyrchwyd gan Brifysgol Rhydychen.

Rhagor o Wybodaeth

Mae adroddiad rhyngwladol PISA 2022, a gwybodaeth ychwanegol, i’w gweld ar wefan yr OECD.

Adroddiadau

Cyswllt

Glyn Wells

Ebost: school.stats@gov.wales

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh.


Y cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh.

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys nac adnoddau allanol.