Dydd Iau 18 Ionawr 2024
09:30 – 16:00
Ar-lein

Bydd y cwrs hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o orbryder ac yn helpu i gael atebion ymarferol i gefnogi pobl ifanc.

Roedd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn cynyddu cyn y pandemig ac yn ystod y cyfnod clo, ac wedi hynny mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc ac oedolion yn profi rhyw fath o orbryder.

Bydd cyfranogwyr yn dod yn gyfarwydd â Theori Polyvagal, gwaith Dr Stephen Podges a thrawma, gwaith Dr Bessel van der Volk a sut mae trawma yn effeithio ar PTSD ac OCD.  Bydd iechyd yn cael ei ystyried a sut y gall orbryder gynyddu lefelau cortisol, lefelau siwgr y gwaed a diabetes a chlefyd y galon.  Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar y cynnydd mewn orbryder, yn archwilio rhesymau cyn y pandemig, yn ystod y pandemig ac ar ôl y pandemig dros y cynnydd.

Nid yw ExChange Cymru yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.