Sylwer: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
24 Ionawr 2024
09:30 – 16:00
Ar-lein
Mae’r hyfforddiant hwn yn canolbwyntio’n benodol ar gyd-destun Cymru a bydd yn caniatáu i gyfranogwyr ystyried y materion ar gyfer eu rôl a’u sefydliad. Diben yr hyfforddiant yw rhoi hyder a gwybodaeth hanfodol i gyfranogwyr ar sut i ddiogelu’r plant a’r bobl ifanc yn eu hamgylchedd. Mae’n addas fel sesiwn gloywi i’r rhai sydd eisoes wedi ymgymryd â hyfforddiant diogelu sylfaenol neu sy’n ystyried rôl Unigolyn Dynodedig.
Nid yw ExChange Cymru yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.