Gan: Cooper, K., Stewart, K.

Child Ind Res (2020)

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan: David Westlake

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Mae’n hysbys bod ystod eang o ddeilliannau gwaeth i blant sy’n byw mewn cartrefi incwm is, ac mae sawl ymyriad wedi ceisio mynd i’r afael â hyn. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod i ba raddau mae modd esbonio hyn yn sgîl diffyg arian yn unig, neu a yw anfanteision cysylltiedig megis cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol is, neu straen a achosir gan anawsterau ariannol, yn esbonio mwy ar y sefyllfa.  Mae’r gwahaniaeth hwn yn bwysig oherwydd, fel mae’r awduron yn nodi, gallai llunwyr polisi newid incwm teuluoedd yn gymharol rwydd, o bosib, trwy addasu treth a budd-daliadau, neu mewn ffyrdd eraill.  Os yw arian yn ffactor allweddol ynddo’i hun, dylai hynny gael effaith gadarnhaol.  

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Yn y papur hwn, aeth yr ymchwilwyr ati’n systematig i adolygu astudiaethau y gellid disgwyl iddynt ddarparu mewnwelediad achosol. Roedd hynny’n golygu eu bod yn cynnwys astudiaethau arbrofol a lled-arbrofol, megis Treialon a Reolir ar Hap (RCTs), a rhai mathau eraill o ymchwil feintiol. Mae adolygu cronfa fawr o ymchwil yn ddull da o ddatgelu rhywfaint o’r cymhlethdod, ac roedd gan yr astudiaeth amserlen eang yn mynd yn ôl i 1988. Y prif ddeilliannau i blant oedd o ddiddordeb oedd eu datblygiad gwybyddol a’u cyflawniad yn yr ysgol; datblygiad cymdeithasol, ymddygiadol ac emosiynol; a iechyd corfforol. Wedi’r broses ddethol, cyrhaeddodd pum deg pedwar o astudiaethau yr adolygiad.

Beth oedd eu canfyddiadau?

Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod incwm ei hun yn ffactor achosol mewn deilliannau i blant, yn hytrach na bod yn rhywbeth sy’n gysylltiedig â mathau eraill o anfantais yn unig.  Gwelwyd yr effaith hon yn y rhan fwyaf o’r astudiaethau a gynhwyswyd, ac roedd y dystiolaeth ar ei chryfaf mewn perthynas â datblygiad gwybyddol ac addysgol, ond hefyd yn rhagfynegi dangosyddion cymdeithasol, ymddygiadol ac emosiynol yn gadarnhaol. Roedd darlun mwy cymysg mewn perthynas â deilliannau iechyd i blant. Yn ddiddorol, nododd yr astudiaeth hefyd rai ffactorau cyfryngu posibl, gan gynnwys “Effeithiau cadarnhaol cyson arwyddocaol [yn cysylltu incwm a] iechyd meddwl mamau, rhianta ac amgylchedd y cartref”. Mae hyn yn peri i’r awduron ddod i’r casgliad bod cefnogaeth i’r syniad bod arian yn helpu teuluoedd i brynu pethau sy’n hyrwyddo lles plant (e.e. bwyd iach, deunyddiau dysgu), a’r ddamcaniaeth bod llai o straen ariannol i rieni yn creu amgylcheddau emosiynol gwell i blant. Mae’r ail syniad hwn, y cyfeirir ato yn y llenyddiaeth fel y ‘model straen teuluol’, yn awgrymu y gallai fod gan rieni sy’n llai pryderus am arian y gallu meddyliol ac emosiynol i dreulio mwy o amser o ansawdd gyda’u plant.

Beth yw’r goblygiadau?

Fel llawer o adolygiadau yn y maes hwn, mae hwn wedi’i gyfyngu gan swm a natur yr astudiaethau y mae’n eu cynnwys. Cymharol ychydig o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant, ac roedd bron hanner y rheiny’n dod o UDA. Mae hynny’n golygu y bydd ein dealltwriaeth o’r maes hwn yn elwa o fwy o ymchwil i rôl adnoddau ariannol ac astudiaethau o wahanol wledydd a lleoliadau. Mae’r cyd-destun cenedlaethol hyd yn oed yn bwysicach i’r maes hwn nag eraill, oherwydd bod gwledydd yn amrywio’n sylweddol o ran lefelau lles a chymorth y wladwriaeth sydd ar gael – sydd, wrth gwrs, yn effeithio’n uniongyrchol ar gyllid teuluoedd. 

Mae’r astudiaeth hon yn gwneud cyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o incwm isel a deilliannau i les plant, ac mae’n cyd-fynd â chorff ehangach o ymchwil ar rôl anghydraddoldebau a gwasanaethau i blant a theuluoedd. Mae’n awgrymu y gallai ymyriadau sy’n seiliedig ar gymorth materol ac ariannol i deuluoedd fod mewn sefyllfa dda i wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â’ngwerthusiad ein hunain o Gyllidebau Datganoledig mewn tri awdurdod lleol a gyhoeddwyd y llynedd.

Mae’r astudiaeth hon yn gwneud cyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o incwm isel a deilliannau i les plant, ac mae’n cyd-fynd â chorff ehangach o ymchwil ar rôl anghydraddoldebau a gwasanaethau i blant a theuluoedd. Mae’n awgrymu y gallai ymyriadau sy’n seiliedig ar gymorth materol ac ariannol i deuluoedd fod mewn sefyllfa dda i wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â’ngwerthusiad ein hunain o Gyllidebau Datganoledig mewn tri awdurdod lleol a gyhoeddwyd y llynedd.


Ysgrifennwyd yr adolygiad

David Westlake