Adolygiad Erthygl: Ymarfer yn seiliedig ar gryfderau mewn gwaith cymdeithasol gydag oedolion

Price A, Ahuja L, Bramwell C, Briscoe S, Shaw L, Nunns M et al. (2020) Research evidence on different strengths-based approaches within adult social work: a systematic review. Southampton: Adroddiad Pwnc Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Chyflenwi NIHR. 

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?  

Mae’r astudiaeth yn crynhoi’r ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi ar effeithiolrwydd a gweithredu dulliau’n seiliedig ar gryfderau mewn gwaith cymdeithasol gydag oedolion yn y DU. Mae’r dulliau hyn yn gyfarwydd mewn gwasanaethau plant ac wedi derbyn cefnogaeth mewn deddfwriaeth yn ddiweddar ar gyfer gofal oedolion ond ychydig sy’n wybyddus am eu heffeithiolrwydd a chredir eu bod yn anodd eu rhoi ar waith.

Sut aethon nhw ati i’w astudio?

Cynhaliwyd adolygiad systematig – sef y dull mwyaf cadarn o grynhoi ymchwil sy’n bodoli eisoes. Edrychon nhw ar gyfnodolion academaidd, heb gyfyngiadau dyddiad nac iaith, a chynnal rhywfaint o chwilio cyfyngedig mewn llenyddiaeth ‘lwyd’ fel adroddiadau polisi, er eu bod yn cydnabod y gallent fod wedi colli rhai o’r rhain. Roedden nhw’n chwilio am astudiaethau o’r DU yn unig, sy’n ddealladwy o ystyried eu bod am i’r ymchwil fod yn berthnasol iawn i wasanaethau yn y DU, ond heb os bydd rhai astudiaethau rhyngwladol a allai fod yn berthnasol ac yn bwysig wedi’u colli. Roedd pymtheg astudiaeth yn cwrdd â’r meini prawf i’w cynnwys yn yr adolygiad, ac aseswyd bod chwech o’r rhain o ansawdd da.

Beth oedd eu canfyddiadau?

Roedd saith astudiaeth o Wneud Diogelu’n Bersonol – dull gweithredu wedi’i bersonoli sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, a’i nod yw bod diogelu’n cael ei wneud gyda, ac nid i

bobl. Roedd yr wyth astudiaeth arall yn cwmpasu amrywiol ddullau: Cydlynu Ardal Leol, Therapi’n Canolbwyntio ar Ddatrysiadau, Cynadledda Grwp Teulu, Datblygu Cymunedol ar Sail Asedau, Dull yn seiliedig ar Gryfderau ac yn Seiliedig ar Berthynas, dullau’n seiliedig ar Asedau, a Chyfweliadau Ysgogiadol.  Doedd dim un o’r astudiaethau’n caniatáu i’r ymchwilwyr ateb y cwestiwn ynghylch effeithiolrwydd.

Ar gyfer Gwneud Diogelu’n Bersonol, yr ystyriaethau o ran gweithredu oedd:

  1. Ystyriwyd ei fod yn feichus ar ymarferwyr i ddechrau ond bod manteision dros y tymor hir – e.e. gwell personoli a lleihau atgyfeiriadau a’r baich ar yr amrywiol wasanaethau sy’n gysylltiedig â diogelu yn y dyfodol. Roedd angen newid sylweddol o ran ymarfer. Roedd angen addasu’r model i leoliadau penodol, oedd weithiau’n achosi problemau o ran gweithredu.
  2. Roedd y dull hwn yn galw am newidiadau o ran diwylliant sefydliadau, gan symud oddi wrth arferion hŷn fel bod yn wrth-risg a pheidio â chynnwys pobl mewn sgyrsiau am yr hyn y maen nhw’n dymuno ei gael gan ddiogelu. Mae Gwneud Diogelu’n Bersonol yn golygu symud o waith cymdeithasol sy’n cael ei arwain gan broses i waith sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Roedd yr awdurdodau lleol llai, mwy allblyg, yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus yn rhoi hyn ar waith. 
  3. Roedd gwybodaeth, sgiliau, creadigrwydd a hyder y darparwyr gwasanaeth yn bwysig ar gyfer cyflwyno Gwneud Diogelu’n Bersonol. Roedd parodrwydd ymarferwyr i gofleidio’r model yn gwneud gwahaniaeth. 
  4. Roedd angen arweinyddiaeth gref ar gyfer gweithredu’n llwyddiannus – cynllunio cadarn, ymgysylltu â staff ar draws ffiniau gwasanaethau a chynnwys pobl sy’n derbyn gwasanaethau yn weithredol.

Beth yw’r goblygiadau?

Mae angen i ni gael mwy o dystiolaeth, sy’n gasgliad cyffredin iawn mewn adolygiadau systematig! Ar gyfer y pwnc hwn, mae gwir angen astudiaethau cymharol, i edrych a yw dullau sy’n seiliedig yn ymwybodol ar gryfderau mewn gwirionedd yn arwain at y gwahaniaethau cadarnhaol y bydden nhw’n honni eu bod yn eu gwneud, o’u cymharu ag ymarfer arferol. Mae’r pwyntiau ynglŷn â sut y gweithredwyd Gwneud Diogelu’n Bersonol yn ddefnyddiol i wasanaethau sydd am gyflwyno newidiadau mewn ymarfer.


Adolygiadau Erthyglau

Yn ExChange rydym yn gwybod nad oes gan ymarferwyr prysur yr amser i ddod o hyd i’r ymchwil ddiweddaraf a’i darllen.  Mae dod o hyd i erthyglau diddorol a pherthnasol, gwerthuso ansawdd yr ymchwil a gwneud synnwyr o’r goblygiadau i ymarfer i gyd yn waith llafurus – ac mae’r rhan fwyaf o weithwyr yn brysur yn delio â heriau gweithio gyda phobl. 

Er mwyn eich helpu chi, rydym yn lansio rhan newydd o’n gwefan – Article Reviews rheolaidd. Yn Article Reviews, bydd academyddion o CASCADE yn nodi erthygl ddiweddar bwysig, yn crynhoi ei chanfyddiadau ac yn rhoi rhywfaint o feddwl beirniadol am yr ymchwil a’i goblygiadau. 

Gobeithiwn y bydd y crynodebau hyn yn ddefnyddiol – efallai y bydd rhai yn ateb cwestiynau pwysig, efallai y bydd eraill yn herio’ch meddwl neu’n cynnig ffyrdd newydd o feddwl am fater neu broblem. 

Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yr Adolygiadau yn eich helpu i benderfynu a ydych chi am ddarllen yr erthygl ei hun ai peidio – rydyn ni’n mynd i ddewis Adroddiadau ac erthyglau sydd ar gael am ddim pryd bynnag y bo modd, a rhoi dolenni. 

Gobeithiwn y bydd ein Hadolygiadau yn darparu cyflwyniadau diddorol, arbenigol i ymchwil gyfredol bwysig a fydd yn eich helpu i ddarganfod y dystiolaeth ddiweddaraf ym maes gofal cymdeithasol oedolion a phlant. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych a ydych wedi ei chael yn ddefnyddiol a sut gallem ni wella’r gwasanaeth.  

Adolygiad Erthygl: Child Protection Social Work in COVID-19: Reflections on Home Visits and Digital Intimacy

gan Sarah Pink, Harry Ferguson a Laura Kelly – Anthropology in Action, 27(3), 2020, tt. 27-30.  

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio? 

Gwasanaeth cyhoeddus yw gwaith cymdeithasol, ond yn aml iawn mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud eu gwaith yn breifat (Bostock et al, 2018). Yn llawer o’i ymchwil pwysicaf hyd yma, mae’r Athro Henry Ferguson wedi defnyddio dulliau arsylwi i archwilio’r hyn mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud yn ystod ymweliadau cartref a’r ffordd y cytunir ar sut i symud mewn gofod personol agos wrth weithio. Yn yr erthygl hon, mae Ferguson a chydweithwyr yn ystyried effaith Covid-19 ar y math hwn o waith, a sut mae gweithwyr cymdeithasol wedi addasu eu hymarfer gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu digidol a rhithwir.  

Sut aethon nhw ati i’w astudio? 

I wneud hyn, siaradodd yr awduron â gweithwyr cymdeithasol oedd eisoes yn rhan o’u hastudiaethau am y ffordd mae eu gwaith wedi newid o ganlyniad i’r pandemig a’r cyfnodau clo a phellter cymdeithasol. Fel y noda’r awduron, doedd “dim templed yn bodoli ar gyfer symud gwaith cymdeithasol ar-lein mewn cyd-destun gweithio gartref” (t. 28) ac felly roedd yn rhaid i bob awdurdod lleol, ac i raddau pob ymarferydd unigol, ddatblygu eu ffyrdd newydd eu hunain o weithio.  

Beth oedd eu canfyddiadau? 

I rai gweithwyr, roedd gorfod gweithio’n bell o’r plant a’u teuluoedd yn golygu eu bod yn methu â gwneud y pethau y bydden nhw’n eu gwneud fel arfer. Er enghraifft, soniodd un gweithiwr cymdeithasol am sut y byddai’n creu cyswllt â babanod drwy eu cyffwrdd, a disgrifiodd un arall sut y byddai’n defnyddio synnwyr arogli i helpu i farnu a oedd plentyn yn cael ei olchi’n ddigon rheolaidd. Mae cyfathrebu rhithwir yn caniatáu i chi edrych a chlywed, ond nid cyffwrdd nac arogli. Ar y llaw arall, disgrifiodd gweithiwr arall bod rhai plant yn ei chael hi’n haws cyfathrebu â nhw’n ddigidol, naill ai ar alwad fideo neu drwy negeseuon testun.  

Beth yw’r goblygiadau? 

Er nad yw’n bosibl disgrifio aflonyddwch a niwed parhaus y pandemig fel rhywbeth positif, serch hynny, gallai rhai pethau cadarnhaol ddeillio ohono. Mae awduron yr erthygl hon yn awgrymu, hyd yn oed ar ôl y pandemig, y gallai dull hybrid sy’n cyfuno ymweliadau cartref wyneb yn wyneb â rhai mathau o gyfathrebu rhithwir fod yn fwy dymunol ac yn fwy defnyddiol i rai plant a theuluoedd na’r naill ddull neu’r llall yn unig.  


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr David Wilkins

Adolygiad Erthygl: What the Public Think about Social Services: A Report from Scotland

gan Trish McCulloch and Stephen Webb, British Journal of Social Work, 50(4), 2020, tt. 1146 – 1166. 

Ysgrifenwyd yr adoloygiad gan Dr David Wilkins

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?

Mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, barn a fynegir yn aml ymhlith gweithwyr cymdeithasol yw nad yw’r cyhoedd ar y cyfan yn eu hoffi – neu o leiaf nad ydyn nhw’n hoffi’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynrychioli. Ond pa mor gywir yw’r farn hon?

Sut aethon nhw ati i’w astudio?

Yn yr erthygl hon, mae’r awduron yn adrodd ar ganfyddiadau arolwg o 2,505 o oedolion yn yr Alban, a ddewiswyd i gynrychioli poblogaeth ehangach yr Alban. Cynhaliwyd yr arolwg yn 2016/17, ac roedd yn cynnwys 43 cwestiwn, wedi’u trefnu mewn chwe thema – i) argraffiadau a chanfyddiadau o wasanaethau cymdeithasol, ii) dealltwriaeth o wasanaethau cymdeithasol, iii) materion sy’n gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol, iv) profiad o wasanaethau cymdeithasol, v) ymddiriedaeth, gwerth a hyder mewn gweithwyr cymdeithasol a vi) dylanwadau ar ganfyddiadau. 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Roedd gan hanner yr ymatebwyr farn gadarnhaol am y gwasanaethau cymdeithasol, ac roedd gan draean farn negyddol. Darllenwyr papur newydd The Guardian oedd â’r farn fwyaf cadarnhaol, a darllenwyr The Daily Express oedd a’r farn fwyaf negyddol (gwnewch beth a fynnoch o hynny). Y canlyniadau mwyaf cadarnhaol yn gyffredinol oedd bod ‘gwasanaethau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed’ a bod ‘gwasanaethau cymdeithasol yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl yr Alban’. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr hefyd fod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth dda o’r gwasanaethau cymdeithasol, gan deimlo’n gyffredinol bod gweithwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl hŷn ac yn gweithio i gadw plant yn ddiogel. Cytunodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y gellid ymddiried mewn gweithwyr cymdeithasol proffesiynol i wneud eu gwaith yn dda. Mae’n rhesymol gofyn faint o’r ymatebwyr hyn fyddai wedi cael profiad personol o’r gwasanaethau cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau plant – ac eto mae’r awduron yn nodi, er bod cyswllt uniongyrchol wedi dylanwadu ar ganfyddiadau o wasanaethau cymdeithasol, yn gyffredinol nid oedd “unrhyw beth penodol yn y canlyniadau i awgrymu bod mynediad ynddo’i hun yn rhagfynegydd cyson o ganfyddiad”(t. 1159). 

Beth yw’r goblygiadau?

Dylai’r canfyddiadau hyn helpu i herio’r gred bod gan y cyhoedd farn negyddol yn bennaf neu yn llwyr am waith cymdeithasol. Fel y dengys yr arolwg hwn, yn yr Alban o leiaf, nid yw hyn yn wir. Mae’n fwy rhesymol disgrifio’r canfyddiadau fel rhai cymysg, sy’n tueddu at y cadarnhaol. 

Mae’r hyn y byddai arolwg tebyg yng Nghymru yn ei ganfod yn dal i fod yn gwestiwn agored. 


Ysgrifenwyd yr adoloygiad gan

Dr David Wilkins