Gan Fiona Sherwood-Johnson a Kathryn Mackay
Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins
Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?
Mae’r astudiaeth hon yn ystyried sut gellir datblygu’r sylfaen o wybodaeth ar gyfer polisi ac ymarfer diogelu oedolion trwy gynnal deialogau cydweithredol rhwng llunwyr polisi, gweithwyr proffesiynol, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, ymchwilwyr, addysgwyr a myfyrwyr. Mae’r erthygl yn cychwyn o’r persbectif, er gwaethaf ei bwysigrwydd amlwg, bod y sylfaen wybodaeth ar gyfer diogelu oedolion yn gyfyngedig, a bod barn defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wedi’u tangynrychioli mewn ymchwil.
Sut buon nhw’n astudio hyn?
Roedd yr astudiaeth wedi’i lleoli yn yr Alban lle bu ymdrech bendant, lawn cymaint ag yng Nghymru, yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn fwy ymatebol i ddymuniadau a barn dinasyddion, gyda newidiadau polisi pwysig yn cael eu gwneud er mwyn hyrwyddo dewis a phersbectif hawliau dynol ar ymarfer.
Beth oedd eu canfyddiadau?
Mae’r awduron yn tynnu ar eu profiadau o ymgymryd ag ystod o brosiectau ymchwil ym maes diogelu oedolion, a’u hymdrechion i hyrwyddo cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Gan fyfyrio ar y prosiectau hyn, maent yn nodi dwy thema yn seiliedig ar ddulliau gwerthuso (yn syml, cwestiynau am yr hyn sy’n gweithio ) a dulliau archwiliadol (cwestiynau â ffocws ehangach).
Yn achos dulliau gwerthuso, mae’r papur yn tynnu sylw at bwysigrwydd achosi dim niwed (pellach). Wrth ymchwilio i ddiogelu oedolion, bydd llawer o’r defnyddwyr gwasanaeth (a’r gofalwyr) dan sylw wedi profi gwahanol fathau o gamdriniaeth neu esgeulustod. Mae deall sut gall gwasanaethau ymateb i hyn yn effeithiol yn bwysig, ond nid ar gost achosi niwed pellach, er enghraifft o drawma sy’n deillio o ailedrych ar brofiadau anodd. Rhaid ystyried cydsyniad gwybodus yn ogystal. Bydd gan rai oedolion sy’n ymwneud â gwasanaethau diogelu ddementia neu anawsterau dysgu. Mae dysgu o’u profiadau yn hanfodol, ond nid yw sicrhau cydsyniad gwybodus o reidrwydd yn syml. Gall rhai prosesau cadw’r porth, lle mae gweithwyr proffesiynol yn helpu i gysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar ran yr ymchwilwyr, yn anfwriadol eithrio rhai pobl a grwpiau penodol. Un neges allweddol yw bod defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn tueddu i beidio â deall bod prosesau diogelu oedolion yn hollol wahanol i weithgareddau proffesiynol eraill. Yn achos dulliau archwilio, canfu’r awduron fod gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn gynnar yn helpu i lywio eu cwestiynau ymchwil a’u gwneud yn fwy perthnasol, yn ogystal ag arwain at ddefnyddio dulliau mwy creadigol.
Beth yw’r goblygiadau?
Mae’r papur yn tynnu sylw at gymhlethdodau a chyfyngiadau llawer o’r ymchwil mewn meysydd fel diogelu oedolion, sydd wrth natur yn aml yn ochelgar ac yn archwiliadol. Ac eto mae llunwyr polisi ac weithiau ymarferwyr yn aml yn chwilio am ymchwil sy’n darparu atebion clir, efallai hyd yn oed atebion syml, i broblemau sy’n eithriadol cymhleth a dyrys. Anaml y mae ymchwil yn darparu negeseuon ‘sut i’ ar gyfer ymarfer, ac mae risg y bydd canfyddiadau amhenodol a rhywfaint ar hap yn cael eu trosi’n rhywbeth mwy cadarn a phendant unwaith y cânt eu lledaenu i bolisi ac ymarfer.
Ysgrifennwyd yr adolygiad gan