Bellach, mae MI (Cyfweld Ysgogiadol) yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn gwasanaethau plant, gan chwarae rhan allweddol mewn ymyriadau megis Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teulu, y model Diogelu Teuluol a Thimau Cefnogi Teuluoedd Dwys. Yn y sesiwn hon roedd Steve Rollnick (cyd-grëwr Cyfweld Ysgogiadol) yn siarad â Donald Forrester, David Wilkins a Charlie Whittaker am eu llyfr sydd ar ddod ar y pwnc hwn. Roedd y trafodaeth yn cwmpasu’r cyfraniad y gall MI ei wneud at waith plant a theuluoedd a sut i ymateb i broblemau neu heriau allweddol megis sut i gael sgyrsiau anodd a chymhwyso egwyddorion MI yng nghyd-destun amddiffyn plant – a ble bynnag arall mae’r sgwrs yn mynd! Bydd cyfleoedd i’r rhai sy’n mynychu ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a chymryd rhan yn y drafodaeth.