Pan fydd teulu’n gwahanu, gall fod yn gyfnod heriol i bawb. Mae’n rhaid cael sgyrsiau anodd ac weithiau mae angen cymorth ar deuluoedd i’w helpu i ymdopi.

Pan fydd cefnogaeth yn gweithio’n dda, mae hyn yn well i bawb yn y teulu. Os gallwn ni ddeall profiad teuluoedd sydd wedi gwahanu, gallwn ni wella’r gwasanaethau i gefnogi teuluoedd eraill yn y dyfodol.

Rydyn ni’n cynnal ymchwil i brofiadau teuluoedd sydd wedi gwahanu mewn dwy ardal: un yng Nghymru ac un yn Lloegr. Prifysgol Bryste sy’n arwain y prosiect ac mae’n cael ei ariannu gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield. Bydd yn cael ei gynnal o fis Mai i fis Rhagfyr 2021 a defnyddir y canfyddiadau i hysbysu argymhellion i wella’r cymorth i deuluoedd sy’n gwahanu yn y dyfodol.

Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd wedi cael eu heffeithio yn sgîl y broses o deuluoedd yn gwahanu yn ystod y 18 mis diwethaf sy’n byw yng Ngogledd Cymru a Bournemouth. Mae gennym ddiddordeb mewn siarad â mamau, tadau, a phlant, ond hefyd unrhyw un arall yn y teulu fel neiniau a theidiau, neu ewythrod a modrybedd. Hoffen ni siarad â phobl sydd wedi defnyddio’r system llysoedd teulu, ond hefyd â phobl a ddefnyddiodd ffyrdd eraill o wneud eu trefniadau gwahanu.

Os byddwch chi’n cymryd rhan, byddwn yn eich gwahodd i ddweud wrthon ni am eich teulu a’r penderfyniadau a wnaethoch chi i wahanu, a’ch profiadau yn sgîl unrhyw gefnogaeth a gawsoch chi gan ffrindiau, aelodau o’r teulu neu weithwyr proffesiynol. Os hoffech chi ofyn cwestiynau inni, gallwch chi anfon ebost aton ni i patches-project@bristol.ac.uk neu ein ffonio ar 07977 273329 a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ar ein gwefan https://patches.blogs.bristol.ac.uk/.