Llyfr newydd ar brofiadau go iawn pobl anabl a sut mae eu lleisiau’n cael eu hanwybyddu
Ym 1989, es i i Sweden gyda grŵp o bobl ifanc anabl i weld pa wersi y gellid eu dysgu o ddull Sweden o gefnogi pobl ag anableddau.
Deuddeg ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Don, un o’r bobl hynny nad yw mor ifanc erbyn hyn, wedi ysgrifennu’r llyfr pwerus hwn sy’n ymwneud â’i brofiadau o geisio cael rhywun i wrando arno a chael y system ofal i ddiwallu ei anghenion.
Wrth wraidd y llyfr mae casgliad o astudiaethau achos sy’n dangos sut mae rhai pobl anabl yn byw mewn ofn, heb y wybodaeth a’r gofal sydd eu hangen arnyn nhw i fyw bywyd hapus. Mae’r astudiaethau achos yn rhoi syniad pwerus o’r driniaeth ofnadwy ac annymunol y mae rhai pobl anabl yn ei chael gan weithwyr cymdeithasol a’r system gofal cymdeithasol i oedolion. Maen nhw’n dangos methiant y diwydiant gwaith cymdeithasol i gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau a’r diffyg moesau ac empathi oedd gan rai gweithwyr cymdeithasol.
Efallai na fyddwch chi’n cytuno â holl arsylwadau Don neu sylwadau’r bobl anabl eraill y gwnaeth gyfweld â nhw. Er hynny, dylai pawb sy’n gyfrifol am ddatblygu a rhoi gofal ddarllen y llyfr er mwyn eu hatgoffa o bwysigrwydd ymgorffori llais a phrofiadau go iawn pobl anabl yn systemig yn y broses o reoli a gwerthuso’r system ofal. Mae’r llyfr hefyd yn amlinellu ffyrdd y gellid arbed arian a sut y gellid defnyddio cyllidebau’n fwy effeithiol.
“Mae’r llyfr yn ein hatgoffa o sut y gall pobl gael eu gadael ar eu hôl a’u hanwybyddu a’r ffaith nad yw deddfwriaeth bob amser yn arwain at newid diwylliannol yn y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu.”
Gellir archebu’r llyfr yma.
Cyhoeddwyd y blog hwn yn wreiddiol gan Leicestershire Cares.