Tlodi plant: adroddiad terfynol ar y cynllun gweithredu pwyslais ar Incwm

Adroddiad yn crynhoi beth a wnaed i helpu i wneud y gorau o incwm teuluoedd sy’n byw mewn tlodi rhwng 2020 a 2021.

Rhagair gan y Gweinidog

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi plant a hawliau plant wrth wraidd popeth y mae yn ei wneud.

Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar ein economi, ein cymdeithas a’n cymunedau. Mae wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli a’u gwaethygu, a’r rhai sy’n teimlo hyn fwyaf yw’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Mae’r cyfnod hwn yn gyfnod lle mae gwneud popeth sy’n ymarferol bosibl i liniaru effeithiau tlodi cyn bwysiced ag erioed. Dengys ein data diweddaraf bod 31% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai).

Yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, ymrwymodd y Prif Weinidog i ailwampio rhaglenni sydd eisoes yn cael eu cyllido, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar fywydau plant sy’n byw mewn tlodi. Arweiniodd hyn at ddatblygu Tlodi Plant: Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm.

Roedd y cynllun hwnnw yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu ymarferol a fyddai’n helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru i wneud y gorau o’u hincwm, gan roi cefnogaeth iddynt i feithrin cadernid ariannol.

Mae effaith y Cynllun hwn yn cael ei asesu fel bod y gwersi a ddysgwyd yn helpu i lywio gwaith yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn parhau i gymryd y camau gweithredu mwyaf effeithiol i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i fod yn feiddgar, yn uchelgeisiol ac yn flaengar wrth i ni geisio gwneud Cymru’n wlad sy’n rhydd o dlodi plant.

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol