Gan: Marte Tonning Otterlei and Ingunn Studsrød
Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins
Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?
Roedd yr astudiaeth hon yn ystyried sut mae gweithwyr lles plant yn siarad â rhieni am y penderfyniad i gychwyn achos gofal, a sut mae gweithwyr yn ymdopi gyda’r sgyrsiau anodd hyn.
Sut buon nhw’n astudio hyn?
Cwblhawyd cyfweliadau gyda deuddeg o weithwyr lles plant profiadol o Norwy. Gofynnwyd i’r gweithwyr feddwl am eu cyfarfodydd gyda rhieni lle’r oedden nhw wedi eu hysbysu am y penderfyniad i geisio gorchymyn gofal ar gyfer y plentyn. Beth oedd eu canfyddiadau?
Roedd dweud wrth rieni am y penderfyniad i geisio gorchymyn gofal yn cael ei ystyried yn ‘weithred greulon, oedd yn eu dibrisio’. Roedd y gweithwyr yn gwybod y byddai’n achosi poen emosiynol sylweddol i rieni. O ganlyniad, roedden nhw’n osgoi siarad am fethiannau’n rhiant, heb sôn fawr am y rhesymau pam fod angen y gorchymyn gofal, a chadw’r cyfarfodydd yn fyr. Roedd gweithwyr yn ei chael yn anodd bod yn uniongyrchol ac yn drylwyr, heb fod yn annynol. Un strategaeth oedd darparu gwybodaeth heb wahodd sgwrs. Roedd llawer o weithwyr, ond nid pob un, yn teimlo’n gyfrifol am ofalu am rieni a phlant yn ystod ac ar ôl y cyfarfodydd. Ond roedd gweithwyr yn aml yn canfod bod y rhieni’n teimlo gormod o ddicter i dderbyn eu cynigion o gymorth, neu awgrymiadau ynghylch pwy arall a allai eu cefnogi. Nododd y gweithwyr hefyd mai diogelwch y plentyn oedd eu prif flaenoriaeth, nid lles y rhiant.
Soniodd llawer o’r gweithwyr bod y cyfarfodydd hyn yn hynod flinedig, ac yn eu draenio’n emosiynol. Soniodd rhai eu bod yn ofni’r rhieni, yn enwedig os oedd ganddyn nhw hanes o drais. Roedd gweithwyr yn teimlo’n anobeithiol, yn ddig, yn rhwystredig, yn bryderus ac yn ddryslyd. Disgrifiodd rhai gweithwyr eu bod fel bradwr i’r teulu.
Beth yw’r goblygiadau?
O’r astudiaeth ei hun, y goblygiadau yw bod angen i weithwyr baratoi’n dda ar gyfer y cyfarfodydd hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod beth sydd angen ei ddweud, a sut. Efallai fod rhai o’r strategaethau ymdopi a ddefnyddiwyd, fel peidio â sôn fawr am yr angen am y gorchymyn gofal, yn ‘gweithio’ yn y tymor byr i ddiogelu’r rhiant (a’r gweithiwr) rhag poen emosiynol, ond yn y tymor hir maen nhw’n annhebygol o helpu’r rhiant i ddeall beth sy’n digwydd. Un ffordd bwysig o ymdopi â’r dasg a pharatoi ar ei chyfer yw ceisio cefnogaeth a chyngor gan gydweithwyr a goruchwylwyr cyn ac ar ôl y cyfarfod.Yn ehangach, mae’r astudiaeth yn amlygu pa mor anodd y gall rôl y gweithiwr lles plant neu ddiogelu plant fod – a’r graddau y mae llawer o weithwyr yn teimlo nad ydyn nhw’n barod ar gyfer rhai o’r tasgau pwysicaf yn y swydd. Oherwydd natur y cyfarfodydd hyn, rydym ni’n aml yn ddibynnol, fel yn yr astudiaeth hon, ar hunan-adrodd dilynol o’r hyn a ddigwyddodd. Mae’n anodd gwybod sut y gallem ni arsylwi a dysgu o’r cyfarfodydd hyn yn fwy uniongyrchol, a beth sy’n eu gwneud yn fwy neu’n llai effeithiol. Byddai clywed mwy am safbwynt y rhiant yn un ffordd o greu dealltwriaeth fwy cyfannol.
Ysgrifennwyd yr adolygiad