Mae’r Adolygiad Annibynnol o Ofal Cymdeithasol Plant yn Lloegr yn prysur fynd rhagddo erbyn hyn. Mae’r Adolygiad, a lansiwyd ym mis Mawrth 2021, yn ystyried beth sy’n gweithio’n dda a beth y mae angen ei newid yn system gofal cymdeithasol plant yn Lloegr er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae Leicestershire Cares wedi bod yn cyfrannu’n rhagweithiol at yr Adolygiad ers iddo gael ei lansio, gan ymateb i’r cais am gyngor, rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu â’r Cadeirydd, Josh MacAlister, a chodi ymwybyddiaeth o’r Adolygiad ymhlith ein pobl ifanc a’n partneriaid.

Care Review meeting screenshot 1.png

Fis diwethaf, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Drive Forward i ysgrifennu llythyr at Josh MacAlister yn mynegi pryder nad oedd digon o bobl ifanc na gweithwyr proffesiynol yn ymwybodol o’r Adolygiad na sut y gallent fwydo i mewn iddo. Mewn ymateb, cawsom wahoddiad i gyfarfod rhithwir gyda Josh a Dan o dîm yr Adolygiad Gofal, a gwnaethom gymryd rhan yn y cyfarfod ynghyd â Drive Forward a rhai o bobl ifanc y sefydliad.

Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn, gyda thîm yr Adolygiad yn gwrando’n ofalus ar ein sylwadau a’n pryderon, ac yn ymateb yn adeiladol i bob un ohonynt. Eglurodd tîm yr Adolygiad sut roedd wedi ymgysylltu â phobl â phrofiad o fod mewn gofal a gweithwyr proffesiynol hyd yma, a’r cynlluniau ar gyfer yr wythnosau nesaf.

Roedd y cyfarfod hefyd yn gyfle i ni roi adborth uniongyrchol ar Achos dros Newid yr Adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n crynhoi ei ganfyddiadau hyd yma, yn dilyn gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac adolygiad o’r dystiolaeth bresennol.

Wrth siarad â’n pobl ifanc, gwelsom fod pryderon llawer o’n cyfranogwyr wedi’u hadlewyrchu yn yr Achos dros Newid, ac yn pwysleisio eu pwyntiau allweddol ynghylch yr angen am newid yn y system ofal:

Mae cyfathrebu’n allweddol: Mae angen i bobl ifanc wybod mwy am eu hawliau, cael eu cynnwys wrth i benderfyniadau gael eu gwneud a theimlo bod rhywun yn gwrando arnynt (nid dim ond eu gofalwyr). Yn allweddol i hyn mae sicrhau bod gweithwyr yn rhoi adborth pan fydd pobl ifanc yn codi materion, a bod pobl ifanc yn gweld newidiadau yn digwydd o ganlyniad i hyn – fel arall, ni fyddant yn gweld diben ymgysylltu. Hefyd, mae angen i weithwyr proffesiynol egluro opsiynau a chanlyniadau yn llawn, nid dim ond delio â materion sy’n wynebu pobl ifanc ar y pryd.

Mae angen i rieni â phrofiad o fod mewn gofal gael mwy o gefnogaeth: Mae pobl ifanc yn teimlo bod eu hunaniaeth fel unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn golygu y creffir arnynt yn fwy na phobl ifanc eraill, yn enwedig pan fydd ganddynt eu plant eu hunain. Maent yn teimlo bod y system yn rhagfarnllyd yn eu herbyn a bod gweithwyr yn defnyddio eu gorffennol, yn hytrach na’r hyn y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, fel rhesymau dros symud plant.

Nid oes digon o gariad yn y system ofal: Mae profiad pobl ifanc o “ofal” go iawn yn dal i fod yn seiliedig ar un neu ddau weithiwr sydd wir yn pryderu am bobl ifanc a’u dyfodol. Nid yw gofal a chariad go iawn wedi’u hymgorffori yn y system – yn lle hynny, mae’r ffocws ar reoli risg a biwrocratiaeth. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed pan fydd gweithwyr unigol yn pryderu ac yn awyddus i helpu, y gall eu rheolwyr/y “rheolau” eu hatal rhag gwneud hynny.

Mae arnom angen dull trawsadrannol o gefnogi pobl â phrofiad o fod mewn gofal: Nid cyfrifoldeb gwasanaethau cymdeithasol na’r Adran Addysg yn unig yw pobl ifanc mewn gofal – mae angen dull trawslywodraethol, a thrawsadrannol er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo ym mhob agwedd ar fywyd.

Yn dilyn y cyfarfod, cyflwynodd Leicestershire Cares ei ymateb i’r Achos dros Newid, gan dynnu sylw at adborth pobl ifanc a’n dull Power to Change, sef dull rydym yn teimlo ei fod yn cynnig model cadarn ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc agored i niwed mewn ffordd gydgysylltiedig, ystwyth a chyfannol sy’n seiliedig ar weithio mewn partneriaeth a dealltwriaeth gadarn o’r ardal a’r cyd-destun lleol. Wrth i’r Adolygiad Gofal fynd rhagddo, rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda thîm yr Adolygiad a’i gadeirydd, a byddwn yn annog ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y digwyddiadau Cau’r Bwlch a fydd yn ystyried materion allweddol yn fanylach.

Cyhoeddwyd y postiad hwn yn wreiddiol gan Leicestershire Cares.