Does Household Income Affect children’s Outcomes? A Systematic Review of the Evidence

Gan: Cooper, K., Stewart, K.

Child Ind Res (2020)

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan: David Westlake

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Mae’n hysbys bod ystod eang o ddeilliannau gwaeth i blant sy’n byw mewn cartrefi incwm is, ac mae sawl ymyriad wedi ceisio mynd i’r afael â hyn. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod i ba raddau mae modd esbonio hyn yn sgîl diffyg arian yn unig, neu a yw anfanteision cysylltiedig megis cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol is, neu straen a achosir gan anawsterau ariannol, yn esbonio mwy ar y sefyllfa.  Mae’r gwahaniaeth hwn yn bwysig oherwydd, fel mae’r awduron yn nodi, gallai llunwyr polisi newid incwm teuluoedd yn gymharol rwydd, o bosib, trwy addasu treth a budd-daliadau, neu mewn ffyrdd eraill.  Os yw arian yn ffactor allweddol ynddo’i hun, dylai hynny gael effaith gadarnhaol.  

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Yn y papur hwn, aeth yr ymchwilwyr ati’n systematig i adolygu astudiaethau y gellid disgwyl iddynt ddarparu mewnwelediad achosol. Roedd hynny’n golygu eu bod yn cynnwys astudiaethau arbrofol a lled-arbrofol, megis Treialon a Reolir ar Hap (RCTs), a rhai mathau eraill o ymchwil feintiol. Mae adolygu cronfa fawr o ymchwil yn ddull da o ddatgelu rhywfaint o’r cymhlethdod, ac roedd gan yr astudiaeth amserlen eang yn mynd yn ôl i 1988. Y prif ddeilliannau i blant oedd o ddiddordeb oedd eu datblygiad gwybyddol a’u cyflawniad yn yr ysgol; datblygiad cymdeithasol, ymddygiadol ac emosiynol; a iechyd corfforol. Wedi’r broses ddethol, cyrhaeddodd pum deg pedwar o astudiaethau yr adolygiad.

Beth oedd eu canfyddiadau?

Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod incwm ei hun yn ffactor achosol mewn deilliannau i blant, yn hytrach na bod yn rhywbeth sy’n gysylltiedig â mathau eraill o anfantais yn unig.  Gwelwyd yr effaith hon yn y rhan fwyaf o’r astudiaethau a gynhwyswyd, ac roedd y dystiolaeth ar ei chryfaf mewn perthynas â datblygiad gwybyddol ac addysgol, ond hefyd yn rhagfynegi dangosyddion cymdeithasol, ymddygiadol ac emosiynol yn gadarnhaol. Roedd darlun mwy cymysg mewn perthynas â deilliannau iechyd i blant. Yn ddiddorol, nododd yr astudiaeth hefyd rai ffactorau cyfryngu posibl, gan gynnwys “Effeithiau cadarnhaol cyson arwyddocaol [yn cysylltu incwm a] iechyd meddwl mamau, rhianta ac amgylchedd y cartref”. Mae hyn yn peri i’r awduron ddod i’r casgliad bod cefnogaeth i’r syniad bod arian yn helpu teuluoedd i brynu pethau sy’n hyrwyddo lles plant (e.e. bwyd iach, deunyddiau dysgu), a’r ddamcaniaeth bod llai o straen ariannol i rieni yn creu amgylcheddau emosiynol gwell i blant. Mae’r ail syniad hwn, y cyfeirir ato yn y llenyddiaeth fel y ‘model straen teuluol’, yn awgrymu y gallai fod gan rieni sy’n llai pryderus am arian y gallu meddyliol ac emosiynol i dreulio mwy o amser o ansawdd gyda’u plant.

Beth yw’r goblygiadau?

Fel llawer o adolygiadau yn y maes hwn, mae hwn wedi’i gyfyngu gan swm a natur yr astudiaethau y mae’n eu cynnwys. Cymharol ychydig o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant, ac roedd bron hanner y rheiny’n dod o UDA. Mae hynny’n golygu y bydd ein dealltwriaeth o’r maes hwn yn elwa o fwy o ymchwil i rôl adnoddau ariannol ac astudiaethau o wahanol wledydd a lleoliadau. Mae’r cyd-destun cenedlaethol hyd yn oed yn bwysicach i’r maes hwn nag eraill, oherwydd bod gwledydd yn amrywio’n sylweddol o ran lefelau lles a chymorth y wladwriaeth sydd ar gael – sydd, wrth gwrs, yn effeithio’n uniongyrchol ar gyllid teuluoedd. 

Mae’r astudiaeth hon yn gwneud cyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o incwm isel a deilliannau i les plant, ac mae’n cyd-fynd â chorff ehangach o ymchwil ar rôl anghydraddoldebau a gwasanaethau i blant a theuluoedd. Mae’n awgrymu y gallai ymyriadau sy’n seiliedig ar gymorth materol ac ariannol i deuluoedd fod mewn sefyllfa dda i wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â’ngwerthusiad ein hunain o Gyllidebau Datganoledig mewn tri awdurdod lleol a gyhoeddwyd y llynedd.

Mae’r astudiaeth hon yn gwneud cyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o incwm isel a deilliannau i les plant, ac mae’n cyd-fynd â chorff ehangach o ymchwil ar rôl anghydraddoldebau a gwasanaethau i blant a theuluoedd. Mae’n awgrymu y gallai ymyriadau sy’n seiliedig ar gymorth materol ac ariannol i deuluoedd fod mewn sefyllfa dda i wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â’ngwerthusiad ein hunain o Gyllidebau Datganoledig mewn tri awdurdod lleol a gyhoeddwyd y llynedd.


Ysgrifennwyd yr adolygiad

David Westlake

Breaking bad news: Child welfare workers’ informing parents of care order proceedings.

Gan: Marte Tonning Otterlei and Ingunn Studsrød 

Child and Family Social Work 

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Roedd yr astudiaeth hon yn ystyried sut mae gweithwyr lles plant yn siarad â rhieni am y penderfyniad i gychwyn achos gofal, a sut mae gweithwyr yn ymdopi gyda’r sgyrsiau anodd hyn.

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Cwblhawyd cyfweliadau gyda deuddeg o weithwyr lles plant profiadol o Norwy. Gofynnwyd i’r gweithwyr feddwl am eu cyfarfodydd gyda rhieni lle’r oedden nhw wedi eu hysbysu am y penderfyniad i geisio gorchymyn gofal ar gyfer y plentyn.   Beth oedd eu canfyddiadau?

Roedd dweud wrth rieni am y penderfyniad i geisio gorchymyn gofal yn cael ei ystyried yn ‘weithred greulon, oedd yn eu dibrisio’. Roedd y gweithwyr yn gwybod y byddai’n achosi poen emosiynol sylweddol i rieni. O ganlyniad, roedden nhw’n osgoi siarad am fethiannau’n rhiant, heb sôn fawr am y rhesymau pam fod angen y gorchymyn gofal, a chadw’r cyfarfodydd yn fyr. Roedd gweithwyr yn ei chael yn anodd bod yn uniongyrchol ac yn drylwyr, heb fod yn annynol. Un strategaeth oedd darparu gwybodaeth heb wahodd sgwrs. Roedd llawer o weithwyr, ond nid pob un, yn teimlo’n gyfrifol am ofalu am rieni a phlant yn ystod ac ar ôl y cyfarfodydd. Ond roedd gweithwyr yn aml yn canfod bod y rhieni’n teimlo gormod o ddicter i dderbyn eu cynigion o gymorth, neu awgrymiadau ynghylch pwy arall a allai eu cefnogi. Nododd y gweithwyr hefyd mai diogelwch y plentyn oedd eu prif flaenoriaeth, nid lles y rhiant. 

Soniodd llawer o’r gweithwyr bod y cyfarfodydd hyn yn hynod flinedig, ac yn eu draenio’n emosiynol. Soniodd rhai eu bod yn ofni’r rhieni, yn enwedig os oedd ganddyn nhw hanes o drais. Roedd gweithwyr yn teimlo’n anobeithiol, yn ddig, yn rhwystredig, yn bryderus ac yn ddryslyd. Disgrifiodd rhai gweithwyr eu bod fel bradwr i’r teulu. 

Beth yw’r goblygiadau?

O’r astudiaeth ei hun, y goblygiadau yw bod angen i weithwyr baratoi’n dda ar gyfer y cyfarfodydd hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod beth sydd angen ei ddweud, a sut. Efallai fod rhai o’r strategaethau ymdopi a ddefnyddiwyd, fel peidio â sôn fawr am yr angen am y gorchymyn gofal, yn ‘gweithio’ yn y tymor byr i ddiogelu’r rhiant (a’r gweithiwr) rhag poen emosiynol, ond yn y tymor hir maen nhw’n annhebygol o helpu’r rhiant i ddeall beth sy’n digwydd. Un ffordd bwysig o ymdopi â’r dasg a pharatoi ar ei chyfer yw ceisio cefnogaeth a chyngor gan gydweithwyr a goruchwylwyr cyn ac ar ôl y cyfarfod.  

Yn ehangach, mae’r astudiaeth yn amlygu pa mor anodd y gall rôl y gweithiwr lles plant neu ddiogelu plant fod – a’r graddau y mae llawer o weithwyr yn teimlo nad ydyn nhw’n barod ar gyfer rhai o’r tasgau pwysicaf yn y swydd. Oherwydd natur y cyfarfodydd hyn, rydym ni’n aml yn ddibynnol, fel yn yr astudiaeth hon, ar hunan-adrodd dilynol o’r hyn a ddigwyddodd. Mae’n anodd gwybod sut y gallem ni arsylwi a dysgu o’r cyfarfodydd hyn yn fwy uniongyrchol, a beth sy’n eu gwneud yn fwy neu’n llai effeithiol. Byddai clywed mwy am safbwynt y rhiant yn un ffordd o greu dealltwriaeth fwy cyfannol. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad

Llun of Dr David Wilkins

Dr David Wilkins

A Paradigm Framework for Social Work Theory for Early 21st Century Practice

Gan Caroline McGregor  

British Journal of Social Work, 49(8), tt. 2112-2129.

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Beth yw pwnc y papur hwn? 

Mae’r papur trafod hwn yn ystyried a yw fframweithiau damcaniaethol ar gyfer gwaith cymdeithasol yn yr 20fed ganrif yn ddefnyddiol o hyd ar gyfer gwaith cymdeithasol yn yr 21ain ganrif.  

Sut aeth yr awdur ati i astudio’r pwnc? 

Adolygodd yr awdur waith sawl academydd nodedig ym maes gwaith cymdeithasol, gan gynnwys David Howe a Robert Mullaly. 

Beth oedd y canfyddiadau?

O ystyried yr 21ain ganrif, mae’n rhaid i theori gwaith cymdeithasol gydnabod a phwysleisio pwysigrwydd cyd-destunau lleol o dan amgylchiadau byd-eang, symud i ffwrdd o oruchafiaeth syniadau ‘Gorllewinol’, adnabod yr hyn sy’n gyffredin rhwng gwaith cymdeithasol sy’n cael ei ymarfer yn fyd-eang o dan amgylchiadau gwahanol, a chydnabod pwysigrwydd myfyrio’n feirniadol. Yn benodol, mae’r erthygl yn amlinellu fframwaith sylfaen er mwyn deall mathau gwahanol o ddamcaniaethau, gan awgrymu bod modd  eu deall ar hyd sawl continwwm, gan gynnwys fframweithiau sy’n drawsnewidiol, yn ddiwygiadol, yn unigolyddol ac yn gyfunolaidd eu natur (gweler y ffigur).  

Nod mae’r ffigur dim ond ar gael yn yr Saesneg*

Beth yw’r goblygiadau? 

Mae angen fframweithiau damcaniaethol ar gyfer proffesiwn gwaith cymdeithasol yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol, a hynny er mwyn creu sylfaen i allu gofyn cwestiynau, adnabod heriau a hwyluso deialog rhwng defnyddwyr y gwasanaethau, yr ymarferwyr, yr addysgwyr a’r sawl sy’n llunio polisïau. Gwrthddywediad yw gwaith cymdeithasol nad yw’n ddamcaniaethol.  


Ysgrifennwyd yr adolygiad

Llun of Dr David Wilkins

Dr David Wilkins

‘Maybe a maverick, maybe a parent, but definitely not an honorary nurse’: Social worker perspectives on the role and nature of social work in mental health care.

Gan Tucker, L. a Webber, M.

British Journal of Social Work 51, 545–563.

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Professor Jonathan Scourfield

Pam fod y pwnc o ddiddordeb?

Beth yw rôl benodol gweithwyr cymdeithasol mewn system iechyd meddwl amlddisgyblaethol ond dan arweiniad meddygol? Yn rhyfeddol o bosib, dywed awduron y papur mai ychydig yn unig o ymchwil sydd wedi’i chynnal ar safbwyntiau gweithiwr cymdeithasol eu hunain ar eu rôl – mae mwy o ymchwil wedi’i chynnal ar farn gweithiwr proffesiynol eraill am weithwyr cymdeithasol ac ar rôl y Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy. Aethon nhw ati i lenwi’r bwlch.

Beth wnaeth yr ymchwilwyr?

Cynhaliwyd cyfweliadau gyda saith o weithwyr cymdeithasol Gwyn benywaidd Prydeinig o sawl lleoliad mewn un ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr. Roedd y GIG yn cyflogi pedair o’r cyfweleion ac awdurdodau lleol yn cyflogi tair. 

Yr hyn a ganfuwyd?

Roedd y farn am rôl gwaith cymdeithasol iechyd meddwl yn tueddu i gyfeirio at ‘gyd-destun a bwriadau ymarfer’ yn hytrach nag at ‘dasgau a chyfrifoldebau’. Nid oedd y cyfweleion yn ystyried adferiad a chynhwysiant cymdeithasol yn greiddiol i’w hymarfer – yn hytrach roedd y nodau hyn yn gyfrifoldeb pobl eraill, fel gweithwyr cymorth. Ystyriwyd bod gweithio gyda risg a chymhlethdod teuluol yn ganolog i waith iechyd meddwl yn gyffredinol, yn hytrach na gwaith cymdeithasol yn unig. Nid oedd gwaith cymunedol yn cael ei ystyried yn waith cymdeithasol bob dydd, ond yn rhywbeth achlysurol. Hyd yn oed wedyn, ystyriwyd ei fod yn golygu gweithio gyda gwasanaethau statudol a gwirfoddol (eraill), yn hytrach nag unrhyw beth ehangach. 

Roedd gwahaniaeth clir rhwng barn y rheini a gyflogwyd gan yr awdurdod lleol a’r rheini oedd yn gweithio yn y GIG am eu cyfrifoldebau statudol, a doedd gweithwyr y GIG ddim yn ystyried cyfraith gofal cymdeithasol yn rhan o’u swydd.

Roedd y cyfweleion yn gweld eu hunain yn helpu i bontio’r rhaniad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gyda golwg fwy cyfannol ac ymdeimlad o’r darlun ehangach i ddefnyddwyr gwasanaeth, yn hytrach na ffocws meddygol mwy cul, gan helpu mewn modd hyblyg mewn ymateb i anghenion ehangach nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol ar unwaith ag iechyd meddwl. 

Pam mae hyn yn bwysig?

Astudiaeth gyda sampl bach,  demograffig benodol mewn un ymddiriedaeth GIG oedd hon. Fodd bynnag, mae’n codi rhai ystyriaethau diddorol. Mae’n awgrymu mai bach iawn o effaith mae polisi cenedlaethol mewn perthynas â rol gwaith cymdeithasol iechyd meddwl wedi’i gael o bosibl. Doedd y cyfweleion ddim wedi clywed, neu prin yn ymwybodol o’r Datganiad Strategol gan y Coleg Gwaith Cymdeithasol. Mae angen mwy o waith ar lefel genedlaethol ym mhob un o genhedloedd y DU i ddiffinio rôl unigryw gweithwyr cymdeithasol iechyd meddwl o fewn system iechyd meddwl amlddisgyblaethol.


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Llun o Jonathan Scourfield

Professor Jonathan Scourfield

Perceived Impact on Client Outcomes: The Perspectives of Practicing Supervisors and Supervisees

Gan Katrina Rast, Daniel Herman, Tony Rousmaniere, Jason Whipple and Joshua Swift 

SAGE Open 

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Mae’r astudiaeth hon yn ystyried dau gwestiwn – (i) beth yw effaith ganfyddedig goruchwyliaeth ar ganlyniadau i gleientiaid a (ii) pa mor bwysig yw hi i oruchwylwyr a’r rhai sy’n cael eu goruchwylio bod goruchwyliaeth yn effeithio ar ganlyniadau i gleientiaid? Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn perthynas â hyfforddiant seicotherapi a goruchwyliaeth glinigol.

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Defnyddiodd yr astudiaeth arolwg i ymchwilio i farn goruchwylwyr (n = 189) a’r rhai oedd yn cael eu goruchwylio (n = 185). Gofynnodd yr arolwg gwestiynau am effaith goruchwyliaeth ar gleientiaid a phwysigrwydd goruchwyliaeth yn cael effaith ar gleientiaid. Roedd y mwyafrif o’r cwestiynau yn disgwyl ymateb oedd yn debyg i arddull Likert, gyda graddfa 5 pwynt (o 1 = ddim yn cytuno, i 5 = cytuno’n llwyr). 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Roedd goruchwylwyr a’r rhai oedd yn cael eu goruchwylio fel ei gilydd yn gadarnhaol ynghylch effaith goruchwyliaeth ar ganlyniadau i gleientiaid, gyda’r sgorau cyfartalog cyffredinol o 3.65 a 3.54 yn y drefn honno (allan o 5). Mewn perthynas â phwysigrwydd goruchwyliaeth yn cael effaith ar ganlyniadau cleientiaid, roedd y rhai oedd yn cael eu goruchwylio yn fwy cadarnhaol na goruchwylwyr, gyda sgoriau cyfartalog cyffredinol o 4.06 a 3.87 yn y drefn honno (ditto). Cytunodd goruchwylwyr a’r rhai oedd yn cael eu goruchwylio fod goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth mewn perthynas ag effaith cwnsela / seicotherapi ar gleientiaid ac y gallai helpu i leihau dirywiad cleientiaid (problemau’n gwaethygu). 

Dywedodd goruchwylwyr hefyd fod goruchwyliaeth yn helpu gyda thwf personol a phroffesiynol y rhai oedd yn cael eu goruchwylio ganddynt, er enghraifft trwy helpu i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol. Dywedodd goruchwylwyr hefyd eu bod yn helpu y rhai oedd yn cael eu goruchwylio trwy eu cefnogi i ddatblygu perthnasoedd cydweithredol â’u cleientiaid. Dywedodd y rhai oedd yn cael eu goruchwylio fod goruchwyliaeth yn helpu trwy wneud iddynt deimlo eu bod wedi cael eu dilysu a’u cefnogi’n dda, a thrwy ddarparu syniadau, gweithgareddau, technegau a strategaethau iddynt roi cynnig ar eu cleientiaid. 

Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ym marn ymatebwyr mewn perthynas â rhyw, oedran, math o gymhwyster gradd, y math o therapi a gynigiwyd, hyd profiad, nifer y cleientiaid na’r defnydd o fesurau canlyniadau. 

Beth yw’r goblygiadau?

Mae goruchwylwyr a’r rhai sy’n cael eu goruchwylio mewn lleoliadau cwnsela / seicotherapi yn cytuno y gall ac y dylai goruchwyliaeth wneud gwahaniaeth i gleientiaid ac yn teimlo bod hwn yn nod pwysig ar gyfer goruchwyliaeth. Fodd bynnag, nid yw’r cysylltiad hwn rhwng goruchwyliaeth a chanlyniadau cleientiaid wedi’i sefydlu’n empirig eto (mewn cwnsela/seicotherapi, neu mewn gwaith cymdeithasol). Nid yw’r dystiolaeth orau sydd gennym ar hyn o bryd yn cefnogi’r honiad bod goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl sy’n cael eu cwnsela, neu’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gwaith cymdeithasol, er gwaethaf y safbwyntiau a adroddir yma. Mewn dwy o’r astudiaethau ynghylch goruchwyliaeth cwnsela a ddyluniwyd orau, roedd maint yr amrywiant yng nghanlyniadau cleientiaid a eglurwyd gan oruchwyliaeth yn amrywio rhwng 16% a 0.01%. I grynhoi, mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod goruchwylwyr a’r rhai sy’n cael eu goruchwylio yn credu bod goruchwyliaeth yn effeithio ar ganlyniadau cleientiaid, ond nid oes tystiolaeth na chonsensws i egluro sut mae hyn yn digwydd, nac i ba raddau. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Photo of Dr David Wilkins

Dr David Wilkins

Meithrin Llesiant: Lens a Rennir

Daeth ymarferwyr gofal cymdeithasol ynghyd i ddysgu am raglen beilot Meithrin Llesiant, a’r gwaith ymchwil gwerthusol mae CASCADE yn ei gynnal.  Colin Turner, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Maethu oedd y cyntaf i gyflwyno a siaradodd am raglen ariannu Llywodraeth Cymru. 

Llun o logo Meithrin Llesiant

Cyflwynwyd y peilot Meithrin Llesiant gan y Rhwydwaith Maethu mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf o 2017 i 2019.  Y nod oedd canolbwyntio ar wella canlyniadau llesiant ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.  Diffiniwyd hynny fel diwallu pum angen sylfaenol plant: cymdeithasol, corfforol, emosiynol, diwylliannol a dysgu.  

Gan fod plant sydd â phrofiad o ofal ar hyn o bryd yn profi deilliannau cyffredinol waelach o gymharu â’u cymheiriaid mewn meysydd megis iechyd meddwl, troseddoldeb ac addysg – roedd y rhaglen hon yn cael ei gweld fel modd i helpu i fynd i’r afael â hyn.  Roedd hyn i ddigwydd trwy waith amlasiantaeth, rhannu gwybodaeth ac arbenigedd, a grymuso pawb ym mywyd y plentyn i gael eu paratoi’n well i ddiwallu anghenion y plentyn.  Y gobaith oedd y byddai gweithio trwy lens a rennir yn creu lleoliadau sefydlog, fel bod plant â phrofiad o ofal yn cyflawni eu potensial. 

Pwynt allweddol a godwyd gan Colin oedd bod y rhaglen yn hwyluso gofalwyr maeth fel gweithwyr proffesiynol ar y cyd ym mywyd y plentyn.  Roedd hyn yn arwyddocaol – o ystyried y blynyddoedd posibl o brofiad sydd gan lawer o ofalwyr maeth i’w gynnig, gan mai nhw yw’r prif roddwr gofal ac yn treulio’r cyfnod mwyaf o amser gydag unrhyw un plentyn â phrofiad o ofal, o gymharu â gweithwyr proffesiynol eraill.  Syniad allweddol ym maes Meithrin Llesiant yw’r cysyniad o statws cyfartal i’r holl gydweithwyr proffesiynol, lle mae gan bawb rywbeth i’w gyfrannu, ac yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn cyflawni gwell deilliannau i’r plentyn.  

Sut mae’r rhaglen yn gweithio?

Cyflwynwyd fideo’r Rhwydwaith Maethu gan Colin, yn esbonio tri ‘llinyn’ craidd y rhaglen:

  • Pum dosbarth meistr. Mynychwyd y rhain gan ofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr proffesiynol o fyd iechyd a’r gwasanaethau troseddu ieuenctid.  Roedd hwn yn gyfle dysgu cyfartal i bawb, yn lle i ddeall rolau ei gilydd a rhannu arbenigedd.  Seiliwyd y dosbarthiadau meistr ar ddeg egwyddor addysgeg gymdeithasol, megis:
    • mae’n rhaid diwallu holl anghenion y plentyn, h.y. mae’n hanfodol deall ac ymateb i’r plentyn/person ifanc cyfan i wella ei (l)lesiant.
    • Mae annog dyhead ac uchelgais yn hanfodol wrth ddatblygu agweddau cadarnhaol
  • Arloeswyr. Cafodd gofalwyr maeth profiadol eu hyfforddi fel Arloeswyr i helpu i raeadru’r negeseuon sy’n cael eu dysgu trwy’r rhaglen.  Bu’r Arloeswyr yn siarad mewn digwyddiadau, yn ymweld ag ysgolion, ac yn rhedeg desg gymorth ar gyfer y cydweithwyr proffesiynol yn swyddfeydd tîm maethu’r awdurdod lleol.  Roedd y grŵp Arloeswyr hefyd yn cynnwys pobl â phrofiad o ofal, oedd yn gallu dod â’u profiadau personol at y bwrdd.  
  • Cynllunio Gwasanaeth.  Roedd hyn yn edrych ar weithredu’r rhaglen trwy newid gwasanaeth, dan arweiniad staff awdurdodau lleol mewn rolau strategol megis penaethiaid Gwasanaethau Plant a phrif swyddogion Addysg.   Lluniodd grŵp cynllunio strategol gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr gynlluniau gweithredu, gan greu amrywiol feysydd gwaith.  Soniodd rhai o’r swyddogion yn y fideo am obeithion i greu bywydau mwy llwyddiannus ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, gan roi iddyn nhw’r hyder i ddatblygu sgiliau i’r dyfodol, trwy wella eu llesiant emosiynol, a thrwy ofalwyr maeth sy’n cael gwell gwybodaeth a chefnogaeth.  

Yr ymchwil

Dr Alyson Rees oedd y nesaf i siarad, gan gyflwyno rhai o ganfyddiadau’r ymchwil gwerthusol.   

Cafwyd llawer o adborth cadarnhaol am y dosbarthiadau meistr, a theimlai’r bobl eu bod yn cael eu calonogi gan y cysyniad o gael asiantaethau lluosog gyda’i gilydd yn yr un ystafell i siarad am blant sy’n derbyn gofal a maethu.  Gwnaeth rhai o’r cydweithwyr proffesiynol sylwadau bod gofalwyr maeth yn allweddol ym mywyd y plentyn, ac felly’n hanfodol i’r dosbarthiadau meistr.  Roedd clywed naratif personol gan bobl ifanc â phrofiad o ofal a gofalwyr maeth yn bwynt dysgu pwerus i rai.  Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai nad oeddent yn ymwneud yn unig â phlant â phrofiad o ofal, fel athrawon – gyda rhai yn gwneud sylwadau ei fod wedi ehangu eu barn a chael effaith ar eu dull gweithredu.  Un o’r problemau, fodd bynnag, oedd lefel isel o bresenoldeb gan weithwyr cymdeithasol plant yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol. 

Ymatebodd yr Arloeswyr eu bod yn teimlo’n hyderus i gefnogi eraill gyda’r hyfforddiant unigryw a gawsant, ac yn teimlo’n fwy abl i eiriol ar ran y plentyn.  Ar adeg y gwerthusiad, doedd rôl yr Arloeswyr ddim wedi’i gweithredu’n llawn, gan ei bod wedi cymryd amser i’w sefydlu.  Argymhellodd yr astudiaeth fod modd estyn y nodwedd arloesol hon o’r rhaglen i ragor o ardaloedd yng Nghymru a’i gwerthuso ymhellach.  

Cafodd plant eu cynnwys yn yr astudiaeth drwy ddefnyddio blychau tywod a deunyddiau lluniadu i rannu teimladau am bobl yn eu bywydau, a beth oedd yn cyfrannu at eu llesiant.  Ymhlith yr ymatebion roedd: cyfeillgarwch, bwyd, rhai athrawon roedden nhw’n eu hystyried yn ‘garedig’ ac yn ‘barod i helpu’, a gweithwyr cymdeithasol oedd yn treulio amser gyda nhw ac yn gwrando arnyn nhw yn hytrach na ‘llenwi ffurflenni’ yn unig.  

Y drafodaeth

Daeth y mynychwyr ynghyd mewn grwpiau i drafod eu hymateb i’r cyflwyniadau, a soniodd rhai am eu profiad personol o fod yn rhan o’r rhaglen.  

Soniodd un ymarferydd am anhawster sicrhau bod rhai asiantaethau yn ‘prynu i mewn’, gan archwilio rheswm posibl am lefel isel o bresenoldeb gan rai.  Cafwyd bod rhai gweithwyr iechyd proffesiynol ddim yn deall pam roedd angen iddyn nhw fod yn bresennol mewn cyd-destun maethu, ac felly roedd yn anodd sicrhau eu cefnogaeth.  Dywedson nhw ei fod weithiau’n help i nabod un person ar y brig, sy’n ymrwymo i’r rhaglen ac yn deall yn llawn beth yw’r manteision, er mwyn iddyn nhw fedru rhaeadru hynny i lawr trwy eu gwasanaeth a hwyluso cyfraniad mwy.  

Soniodd gweithiwr cymdeithasol y bydden nhw wrth eu bodd yn gwneud mwy o waith uniongyrchol gyda’r plant, yn treulio mwy o amser o safon gyda nhw, ond bod llawer o’r math yma o waith yn cael ei anfon allan at dimau ymylol y gwasanaeth, oherwydd problemau capasiti.  Mae gweithiwr cymdeithasol y plentyn, felly, yn cael ei weld fel rhywun sy’n ‘llenwi ffurflenni’ yn unig.  Gall y problemau capasiti hyn, sy’n gyfarwydd iawn, atal y gweithwyr cymdeithasol rhag dod i’r dosbarthiadau meistr yn ogystal.  Ymateb un cynrychiolydd oedd bod angen i rai newidiadau fod yn genedlaethol, gan mai dim ond hyn a hyn y gellir ei wneud yn rhanbarthol i roi sylw i’r materion hyn.  

Cododd gweithiwr cymdeithasol arall y pwynt, er bod gofalwyr maeth yn bwysig ym mywyd y plentyn, eu bod yn dal heb y lefel o arbenigedd a fyddai gan weithiwr cymdeithasol dros gyfnod o lai o flynyddoedd, trwy weithio’n feunyddiol gyda llwyth achosion o blant sydd â phrofiad o ofal.  

I mi, fodd bynnag, roedd y pwynt hwn yn ategu’r syniad bod pawb yn gallu cyfrannu rhywbeth – mae gan bawb o’r cydweithwyr proffesiynol brofiadau gwahanol a gwybodaeth sydd ddim gan y lleill, ond y gallen nhw ddysgu oddi wrtho,  Mae’r rhaglen yn gyfle i gyfoethogi a grymuso pawb sy’n rhan ohoni trwy rwydweithio, gydag effaith gadarnhaol ar y plentyn sy’n derbyn gofal – ac mae hynny’n un nod cyffredin y gall yr holl gyfranogwyr fod yn unedig yn ei gylch a gweithio drosto gyda’i gilydd. 

I ddysgu mwy gallwch chi wylio’r Fideo a darllen y Cyflwyniadau

Ffyrdd Creadigol o Gynnwys Plant a Phobl Ifanc mewn Ymchwil ac Arfer

Ffyrdd Creadigol o Gynnwys Plant a Phobl Ifanc mewn Ymchwil ac Arfer

Hydref 2018

Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno cefndir technegau gweledol, cyfranogol a chreadigol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn prosiectau ymchwil ac yn ymarferol. Bydd y gweithdy’n cyflwyno a thrafod amrywiaeth o astudiaethau mewn cyd-destunau gwahanol ac yn cynnig gweithgareddau ymarferol i roi cynnig ar ddulliau gwahanol o gynhyrchu ffurfiau gweledol ar ddata, a chynnal cyfweliadau canfod ffeithiau. Caiff cyfleoedd a chyfyngiadau dulliau cyfranogol eu hystyried a bydd y gweithdy’n cyflwyno nifer o dechnegau o gynhyrchu data creadigol, gan gynnwys darlunio, collage, blwch tywod, sticeri emosiwn, ffotograffau ffeithiau ac arteffactau. Bydd y gweithdy’n eich gwahodd i archwilio pa mor ddefnyddiol yw dulliau creadigol a sut y gallech eu defnyddio yn eich gwaith eich hun gyda phlant a phobl ifanc.

Gweithdai

Mae ein gweithdai’n dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau ynghyd i ddatblygu ymarfer a gwybodaeth.

Cefnogi Rhieni mewn gofal ac wrth ei adael #NegeseuoniRieniCorfforaethol

Ers Ionawr 2021 mae Dr Louise Roberts, Dr Dawn Mannay a Rachael Vaughan wedi bod yn gweithio ar brosiect Effaith a ariennir gan ESRC i herio stigma, gwahaniaethu, a chanlyniadau gwael i rieni ifanc mewn gofal ac sydd yn ei adael. Fel rhan o’r prosiect hwn, maent wedi tynnu ar ymchwil Dr Louise Roberts, gan weithio gyda rhieni â phrofiad o ofal a sefydliad partner Voices From Care Cymru, NYAS Cymru a TGP Cymru i gynhyrchu siarter arferion gorau ac adnoddau ehangach.  

Bydd y dudalen hon yn gartref i’r holl adnoddau a gynhyrchir fel rhan o’r prosiect hwn i godi ymwybyddiaeth a gobeithio creu newid ystyrlon i rieni sydd mewn gofal ac yn ei adael. Byddwn hefyd yn rhannu enghreifftiau o arferion gorau o bob rhan o Gymru a’r DU

Cefnogi Rhieni mewn gofal ac wrth ei adael: #NegeseuoniRieniCorfforaethol

Llyfr Mynediad Agored

Policy Press | The Children of Looked After Children – Outcomes, Experiences and Ensuring Meaningful Support to Young Parents In and Leaving Care : Gan Louise Roberts

Ymchwil

Y siarter

Bydd y Siarter yn cael ei cyhoeddi yn fuan.

Podlediad

Dwy dwylo oedolyjn gyda dwylo plentyn ar ei ben

Gweminar

Cynorthwyo rhieni o dan ofal ac wedi hynny

Dr. Louise Roberts a Rachael Vaughan, Prifysgol Caerdydd.

9 Tachwedd 2021, 11am-12 canol dydd.

Bydd y digwyddiad hwn yn manylu ar ymdrechion diweddar i lunio siarter arfer gorau ar y cyd. Ei nod yw creu newid ystyrlon i rieni o dan ofal awdurdod lleol ac wedi hynny. Mae’r siarter wedi’i gyd-gynhyrchu â rhieni, ymarferwyr a llunwyr polisïau profiadol ym maes gofal ac mae wedi’i hanelu at Rieni Corfforaethol; gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am gynorthwyo pobl ifanc sydd o dal ofal gwladol. Yng Nghymru, caiff rhieni corfforaethol eu cyfarwyddo i geisio’r un deilliannau i blant o dan ofal yr awdurdod lleol ag y byddai unrhyw riant da yn ei geisio ar gyfer eu plentyn eu hunain. Bydd y digwyddiad hwn yn rhannu’r siarter arfer gorau a’r adnoddau ehangach a ddatblygwyd am y pwnc pwysig hwn gan gynnwys trafodaeth ar gynnal ymchwil yn y maes gan Dr Louise Roberts.  Bydd rhieni sydd o dan ofal neu nad ydynt yn cael gofal mwyach o gymorth wrth ddatblygu’r digwyddiad hwn.

Mae’r gweminar yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol flynyddol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Cofrestrwch am eich lle

Enghreifftiau o arferion gorau

Os hoffech chi rannu enghreifftiau o arferion gorau gyda ni ynglŷn â sut rydych chi’n gweithio gyda rhieni mewn gofal ac sy’n ei adael yn eich awdurdod lleol, cysylltwch â ni cascade@caerdydd.ac.uk

Llun o dwylo oedolyn yn dal traed babi

Cyhoeddiadau

Roberts, L., Maxwell, N. and Elliott, M. 2019. When young people in and leaving state care become parents: What happens and why?. Children and Youth Services Review 104, pp. 104387. (10.1016/j.childyouth.2019.104387)

Roberts, L. 2019. ‘A family of my own’: When Young People in and Leaving State Care become Parents in Wales. In: Mannay, D., Rees, A. and Roberts, L. eds. 2019. 
Children and young people ‘looked after’? Education, intervention and the everyday culture of care in Wales. Cardiff: University of Wales Press.

Roberts, L.et al. 2018. 
Sexual health outcomes for young people in state care: Cross-sectional analysis of a national survey and views of social care professionals in Wales. Children and Youth Services Review 89, pp. 281-288. (10.1016/j.childyouth.2018.04.044)

Roberts, L.et al. 2017. 
Care-leavers and their children placed for adoption. Children and Youth Services  Review 79, pp. 355-361. (10.1016/j.childyouth.2017.06.030)

Roberts, L. 2017. 
A small-scale qualitative scoping study into the experiences of looked after children and care leavers who are parents in Wales. Child & Family Social Work 22(3), pp. 1274-1282. (10.1111/cfs.12344)

Building knowledge for policy and practice based on service user and carer experiences: A case study of Scottish adult safeguarding research

Gan Fiona Sherwood-Johnson a Kathryn Mackay

Journal of Social Work

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Mae’r astudiaeth hon yn ystyried sut gellir datblygu’r sylfaen o wybodaeth ar gyfer polisi ac ymarfer diogelu oedolion trwy gynnal deialogau cydweithredol rhwng llunwyr polisi, gweithwyr proffesiynol, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, ymchwilwyr, addysgwyr a myfyrwyr. Mae’r erthygl yn cychwyn o’r persbectif, er gwaethaf ei bwysigrwydd amlwg, bod y sylfaen wybodaeth ar gyfer diogelu oedolion yn gyfyngedig, a bod barn defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wedi’u tangynrychioli mewn ymchwil. 

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Roedd yr astudiaeth wedi’i lleoli yn yr Alban lle bu ymdrech bendant, lawn cymaint ag yng Nghymru, yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn fwy ymatebol i ddymuniadau a barn dinasyddion, gyda newidiadau polisi pwysig yn cael eu gwneud er mwyn hyrwyddo dewis a phersbectif hawliau dynol ar ymarfer. 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Mae’r awduron yn tynnu ar eu profiadau o ymgymryd ag ystod o brosiectau ymchwil ym maes diogelu oedolion, a’u hymdrechion i hyrwyddo cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Gan fyfyrio ar y prosiectau hyn, maent yn nodi dwy thema yn seiliedig ar ddulliau gwerthuso (yn syml, cwestiynau am yr hyn sy’n gweithio ) a dulliau archwiliadol (cwestiynau â ffocws ehangach).

Yn achos dulliau gwerthuso, mae’r papur yn tynnu sylw at bwysigrwydd achosi dim niwed (pellach). Wrth ymchwilio i ddiogelu oedolion, bydd llawer o’r defnyddwyr gwasanaeth (a’r gofalwyr) dan sylw wedi profi gwahanol fathau o gamdriniaeth neu esgeulustod. Mae deall sut gall gwasanaethau ymateb i hyn yn effeithiol yn bwysig, ond nid ar gost achosi niwed pellach, er enghraifft o drawma sy’n deillio o ailedrych ar brofiadau anodd. Rhaid ystyried cydsyniad gwybodus yn ogystal.  Bydd gan rai oedolion sy’n ymwneud â gwasanaethau diogelu ddementia neu anawsterau dysgu. Mae dysgu o’u profiadau yn hanfodol, ond nid yw sicrhau cydsyniad gwybodus o reidrwydd yn syml. Gall rhai prosesau cadw’r porth, lle mae gweithwyr proffesiynol yn helpu i gysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar ran yr ymchwilwyr, yn anfwriadol eithrio rhai pobl a grwpiau penodol. Un neges allweddol yw bod defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn tueddu i beidio â deall bod prosesau diogelu oedolion yn hollol wahanol i weithgareddau proffesiynol eraill. Yn achos dulliau archwilio, canfu’r awduron fod gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn gynnar yn helpu i lywio eu cwestiynau ymchwil a’u gwneud yn fwy perthnasol, yn ogystal ag arwain at ddefnyddio dulliau mwy creadigol. 

Beth yw’r goblygiadau?

Mae’r papur yn tynnu sylw at gymhlethdodau a chyfyngiadau llawer o’r ymchwil mewn meysydd fel diogelu oedolion, sydd wrth natur yn aml yn ochelgar ac yn archwiliadol. Ac eto mae llunwyr polisi ac weithiau ymarferwyr yn aml yn chwilio am ymchwil sy’n darparu atebion clir, efallai hyd yn oed atebion syml, i broblemau sy’n eithriadol cymhleth a dyrys. Anaml y mae ymchwil yn darparu negeseuon ‘sut i’ ar gyfer ymarfer, ac mae risg y bydd canfyddiadau amhenodol a rhywfaint ar hap yn cael eu trosi’n rhywbeth mwy cadarn a phendant unwaith y cânt eu lledaenu i bolisi ac ymarfer. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Photo of Dr David Wilkins

Dr David Wilkins