Yn Lloegr, mae arweinwyr yr asiantaethau mabwysiadu Rhanbarthol wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ledled y sector i ddatblygu Safonau Ymarfer Cenedlaethol ar gyfer Sefydlogrwydd Cynnar (National-Early-Practice-Practice-Standards-_DIGITAL.pdf (earlypermanence.org.uk). Mae’r rhain wedi’u cynllunio fel rhan o’n rhaglen waith genedlaethol i hyrwyddo’r angen am fwy o gysondeb a chyfleoedd i blant allu manteisio ar fuddion sefydlogrwydd cynnar, ble bynnag maen nhw’n byw yn Lloegr.

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn yw Sefydlogrwydd Cynnar sy’n cynnig sefydlogrwydd ar gam cynnar iawn, gan osgoi symudiadau mynych a thrawma yn sgil gwahanu a cholli ffigurau ymlyniad, hyd nes y bydd llys wedi gwneud penderfyniad am gynllun gofal terfynol plentyn. Mae’r angen am gynllunio gofal ansawdd uchel i blant a thracio deublyg yn hanfodol er mwyn atal oedi. Mae dysgu gan bobl sydd â phrofiad o fyw ynghyd ag ymchwil a chlywed barn gan sawl ffynhonnell wedi dangos er bod y derminoleg i ddisgrifio’r dull wedi newid dros amser, mae paratoi a chefnogi rhieni a gofalwyr yn hanfodol ar gyfer diwallu anghenion plant yn well. Ein nod allweddol yw y caiff y safonau eu defnyddio fel offeryn i alluogi awdurdodau lleol, asiantaethau mabwysiadu rhanbarthol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol i symud ymlaen a sicrhau cysondeb a chydlyniad yn y cynnig sefydlogrwydd cynnar i blant yn eu trefniadau llywodraethu a phartneriaeth.

Fel rhan o’r gwaith cenedlaethol, rydym yn cefnogi 11 o brosiectau ledled y wlad i ddatblygu gwaith ar wahanol agweddau ar sefydlogrwydd cynnar ac yn anelu at greu cymuned o ymarfer ac adnoddau i gefnogi ymarferwyr a gofalwyr.

Dyma rai enghreifftiau o’r prosiectau: Llyfr i blant ar sefydlogrwydd cynnar. Ffilm aml-bersbectif am sefydlogrwydd cynnar (a phodlediad (You Can Adopt – UK Podcasts (uk-podcasts.co.uk) i gynulleidfaoedd amrywiol. Mae un o’r prosiectau wedi datblygu canllaw arfer da gyda dolenni at offer ac adnoddau a fydd ar gael i bob asiantaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae un ardal wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael ag unrhyw heriau wrth ehangu sefydlogrwydd cynnar ar gyfer Plant Hŷn, gan edrych ar dargedu recriwtio gofalwyr; paratoi a chymorth ychwanegol yn ystod y camau cynnar wrth i blentyn/plant symud i mewn ynghyd â datblygu rhwydweithiau cymorth cyfoedion i rannu profiad, dysgu oddi wrth ei gilydd a mynd i’r afael â heriau a’u goresgyn.

Mewn un rhanbarth, mae gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu cyfrifydd costau i amlygu’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig â sefydlogrwydd cynnar a’r hyn y mae’n ei ddarparu i blant er mwyn helpu trafodaethau gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chydweithwyr cyllid.

Mae un ardal yn datblygu model ymarfer i gefnogi amser teulu gyda rhaglen hyfforddi’r hyfforddwr sy’n gyffrous ac mae dwy/tair asiantaeth yn edrych ar yr ystod o gymorth a ddarperir i ofalwyr yn y cyfnod maethu ynghyd â chymorth therapiwtig i ofalwyr i helpu i reoli ansicrwydd ac ystyried eu meddyliau a’u teimladau fel gofalwr sefydlogrwydd cynnar.

Mae rhai ardaloedd yn mynd yn ôl at y pethau sylfaenol ac yn codi ymwybyddiaeth o fanteision sefydlogrwydd cynnar i blant, gan fynd i’r afael â’r rhwystrau ac ystyried sut y gallant eu goresgyn trwy weithgarwch ymchwil a gwerthuso gyda rhanddeiliaid allweddol.

Rydym wedi trefnu bod Prifysgol Caerhirfryn yn gwneud rhywfaint o waith gwerthuso ar y prosiectau ac yn edrych ar brofiadau rhieni a gofalwyr a’r effaith ar blant wrth leihau symud mewn gofal.

Mae hon yn rhaglen waith gyffrous iawn a gobeithiwn erbyn diwedd y flwyddyn nesaf y byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y trefniadau sefydlogrwydd cynnar i blant ynghyd â chefnogaeth well a mwy cyson i rieni a gofalwyr.

Mae llawer i’w ddysgu, rydym ni ar daith ac yn llawn cyffro i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant.

By Sarah Johal, Arweinydd Strategol Mabwysiadu Cenedlaethol, Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Lloegr.

Mae’r Blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ExChange, “Ailfframio Mabwysiadu”

I ddod o hyd i fwy o adnoddau ar y pwnc hwn, edrychwch ar y cynadleddau isod.