Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Maw, 20 Meh 2023
08:45 – 17:00 BST
Gwesty The Village Abertawe, Heol Langdon Abertawe SA1 8QY
Codir ffi am hyn
Dewch i ymuno â Shelter Cymru yn eu cynhadledd flynyddol lle mae siaradwyr gwadd yn dechrau trafodaethau ysbrydoledig.
Am fwy nag ugain mlynedd mae cynhadledd Pobl a Chartrefi Shelter Cymru wedi bod yn ddigwyddiad tai cenedlaethol allweddol yng Nghymru. Eleni maent yn mynd yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen, gan gynnal cynhadledd fwyaf Cymru ar ddigartrefedd. Hwn fydd eu digwyddiad hybrid cyntaf erioed, gan eu galluogi i gyrraedd mwy o bobl a rhannu mwy o ddysgu o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Bydd y rhaglen yn cynnwys:
- Siaradwyr o bob rhan o Ewrop, yn rhannu syniadau ar sut y mae gwledydd Ewrop yn mynd i’r afael â digartrefedd a’r argyfwng tai
- Lansio ymchwil newydd o bwys ar sut y gall landlordiaid cymdeithasol roi terfyn ar droi pobl allan i ddigartrefedd
- Llawer o sesiynau ymarferol i ddangos sut i atal digartrefedd drwy adeiladu gwytnwch pobl mewn cyfnod heriol.
Os ydych yn gweithio mewn sefydliad bach neu sefydliad a ariennir yn wael, ac yr hoffech drafod opsiynau prisio, cysylltwch â nhw drwy ebostio training@sheltercymru.org.uk.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.