Galw ar bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r rhai sy’n gadael gofal: Eich safbwyntiau a’ch profiadau
Cyfle i rannu eich profiadau o adael gwasanaethau gofal yng Nghymru
Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran gwella strwythurau cymorth a darpariaethau lles i bobl ifanc sy’n gadael gofal, mae llawer yn dal i wynebu rhwystrau sylweddol o ran cael mynediad at gyfleoedd addysg a chyflogaeth. Er gwaethaf ymdrechion parhaus i bontio’r bwlch rhwng pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cyfoedion, mae llawer nad ydym yn ei wybod o hyd am y ffactorau sy’n cyfrannu at yr anghydraddoldebau hyn. Er mwyn deall y bwlch cyrhaeddiad hwn yn well, mae’n bwysig ein bod yn archwilio profiadau byw pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn perthynas â pholisi lles cymdeithasol a strwythurau deddfwriaethol. Mae hefyd yn bwysig dysgu mwy am brofiadau gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal. Trwy gael darlun cliriach o reolaeth canfyddedig pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a’r heriau sy’n eu hwynebu, gallwn ddechrau archwilio sut y gall polisïau a strwythurau cymorth fynd i’r afael ag anghenion penodol y bobl ifanc hyn.
Rydw i’n ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy mhrofiadau personol o adael gofal yn golygu fy mod yn deall yr heriau a’r rhwystrau y mae pobl ifanc mewn gofal yn aml yn eu hwynebu o ran cael mynediad at gyfleoedd addysg a chyflogaeth. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y gefnogaeth a’r gwasanaethau a ddarperir a sut y gall y rhain wella teimladau pobl ifanc am reolaeth penderfyniadau yn eu bywydau. Nod fy PhD yw archwilio’r materion hyn yn fanylach. Trwy ddeall profiadau y rhai sy’n gadael gofal a nodi’r ffactorau sy’n cyfrannu at y bwlch cyrhaeddiad rhwng pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a’u cyfoedion, rwy’n gobeithio datblygu gwell dealltwriaeth o sut y gellir datblygu polisïau a strwythurau cymorth yn effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion penodol pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Rwy’n chwilio am wirfoddolwyr i’m helpu i ymgymryd â’r ymchwil hwn.
- Pobl rhwng 18 a 30 oed sydd wedi treulio amser mewn gofal yng Nghymru ac sy’n gymwys i gael cymorth wrth adael gofal. Mae hyn fel arfer yn golygu eich bod wedi treulio o leiaf 13 wythnos mewn gofal ac wedi bod mewn gofal ar eich pen-blwydd yn 16 oed. Does dim ots pa swydd sydd gennych chi neu b’un a ydych chi wedi bod i’r brifysgol ai peidio – hoffwn glywed am brofiadau o bob math.
- Gweithwyr proffesiynol gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr tîm sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru.
Os hoffech chi, neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod, gymryd rhan, fe’ch gwahoddir i ymuno â galwad fideo ar-lein gyda mi. Byddwn yn dewis amser sy’n addas i chi. Os oes gennych chi brofiad o fod mewn gofal, byddem yn siarad am eich profiadau o gael mynediad at gyfleoedd a’ch taith pontio ar ôl gadael gofal. Os ydych chi’n weithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, byddem yn trafod eich swydd a’ch profiadau o ddarparu cymorth a gwasanaethau gadael gofal. Os oes gennych chi brofiad o fod mewn gofal, byddwch yn cael taleb £10 fel diolch am eich amser.
Os hoffech fwy o wybodaeth, gallwch anfon e-bost ataf drwy orourkes1@cardiff.ac.uk a gallaf anfon mwy o fanylion am yr ymchwil a beth fydd yn ei olygu. Fel arall, os oes gennych chi brofiad o fod mewn gofal a’ch bod rhwng 18 a 30 oed, gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan drwy gwblhau’r arolwg byr hwn: https://qfreeaccountssjc1.az1.qualtrics.com/jfe/form/SV_6gvNWpuMRfHONFk
Byddwn yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech rannu’r manylion hyn gydag unrhyw unigolion neu sefydliadau a allai fod â diddordeb mewn cyfrannu at yr astudiaeth hon a rhannu eu safbwyntiau ar sut i wella polisi ac ymarfer.
Samantha Fitz-Symonds – Ymchwilydd PhD, Prifysgol Caerdydd