Gall dechrau yn y brifysgol fod yn gyfnod o gyffro, antur a chwrdd â phobl a fydd yn dod yn ffrindiau am oes. Fodd bynnag, i rai, mae’n gyfnod o bryder ac anhawster, poeni am sut i greu cysylltiad gyda myfyrwyr eraill, a pha agweddau ohonoch chi eich hun i’w cyflwyno, wrth ddysgu sut i feithrin sgiliau astudio newydd. Mae’r llyfr newydd hwn yn cysylltu â phrofiadau grwpiau a dangynrychiolir sy’n dechrau yn y brifysgol, ac yn cynnig cipolwg ar sut y gall dulliau celfyddydol helpu trawsnewidiadau synhwyraidd i berthyn mewn diwylliannau prifysgol.

Mae Dulliau Celf ar gyfer Hunan-Gynrychioli Myfyrwyr Israddedig (Saesneg) yn dechrau gyda phenodau sy’n cyflwyno ac yn damcaniaethu’r problemau y mae myfyrwyr cenhedlaeth gyntaf, dosbarth gweithiol, incwm isel, menywod a phobl o liw yn benodol yn eu hwynebu wrth bontio o’u bywydau cyn astudio. Mae’r ymchwil yn canfod bod pontio i’r brifysgol yn aml yn dal i fod yn llawn dyheadau i godi dosbarth cymdeithasol, cuddio elfennau diwylliannol dosbarth gweithiol, a’u cysylltiadau croestoriadol â chael eu hileiddio fel person o liw, neu gymhlethdodau profiadau rhywedd. Yn y llyfr, mae Dr Miranda Matthews yn siarad â phobl o liw, academyddion oedd yn fyfyrwyr cenhedlaeth gyntaf, a’u cynghreiriaid. Mae’r llyfr yn trafod sut mae cydosod dulliau celfyddydol yn synhwyraidd yn helpu myfyrwyr i fynegi a dathlu eu hunaniaethau a’u dimensiynau hylifol.

Os nad yw prif iaith myfyriwr yr un fath a’r brif iaith astudio, fel sy’n wir ar gyfer israddedigion Cymraeg, mae gwaith ychwanegol i’w wneud i ddod o hyd i ffyrdd o deimlo’n gartrefol yn y brifysgol.  Gall fod myfyrwyr hŷn â theuluoedd sy’n cymudo i’r campws ac yn ei chael yn anodd cysylltu â’r diwylliannau y gwahoddir nhw i gymryd rhan ynddynt. Ym mhob rhan o’r DU, ceir pobl sy’n gadael gofal sydd angen cymorth ychwanegol. Yn aml, nid oes gan y myfyrwyr hyn yr hyn y mae Dr Matthews yn ei alw’n ‘bellter affeithiol’ sy’n cael ei ffurfio mewn ysgolion annibynnol, fel ysgolion preswyl, ac sy’n helpu i ganfod ymdeimlad hyderus o’r hunan a all fod yn annibynnol yn y brifysgol (Matthews 2023).

Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwil a gasglwyd ymhlith addysgwyr celfyddydau, a darlithwyr yn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau sy’n gweithio mewn deg prifysgol ym mhedair gwlad y DU: hynny yw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae pob un o’r cyfranogwyr ymchwil yn gweithio gyda dulliau celfyddydol sy’n cynorthwyo ymdeimlad o berthyn yn y brifysgol. Maent yn cysylltu â’r ffactorau cymdeithasol, emosiynol ac amgylcheddol a all fod yn ‘sioc ddiwylliannol’ os na chaiff y ffactorau hyn eu rhagweld a chael sylw creadigol. 

Mae Dulliau Celf ar gyfer Hunan-Gynrychioli Myfyrwyr Israddedig (Saesneg)yn cynnig dulliau ymarferol o integreiddio dulliau celfyddydol yng nghynnwys rhaglenni a addysgir; a hefyd yn archwilio sut mae mannau cyfarfod ar gyfer hunan-gynrychiolaeth yn cael eu creu mewn ymarfer celfyddydau allgyrsiol. Yn yr astudiaethau achos a drafodir, mae dulliau celfyddydol yn cysylltu â gwerth profiadau bywyd diwylliannol blaenorol y myfyrwyr, wrth iddynt fapio ffyrdd o dderbyn gwybodaeth newydd. Fodd bynnag, mae nodweddion chwareus, cymdeithasol, cynnes a meithringar ymarfer celfyddydol, o fewn a’r tu hwnt i ddysgu ffurfiol, hefyd yn hanfodol bwysig. 

Ar adeg pan fo’r celfyddydau yn cael eu dibrisio fwyfwy mewn ysgolion, mae’r llyfr hwn yn dangos sut y gall ymarfer celfyddydol groesi disgyblaethau, galluogi hunanhyder, cynyddu cysylltiadau rhwng cyfoedion, meithrin sgiliau astudio, a chefnogi darpariaeth i ofalu am les myfyrwyr.  

Mae’r llyfr yn canoli profiadau grwpiau lleiafrifol, a cheir pennod hefyd ar sut mae cymdeithasau creadigol dan arweiniad myfyrwyr, mewn sampl o ddeg ar hugain o brifysgolion yn y DU, yn dathlu amrywiaeth, ac yn creu grwpiau cyfeillgarwch newydd. 

Bwriedir Dulliau Celf ar gyfer Hunan-Gynrychioli Myfyrwyr Israddedig (Saesneg) ar gyfer pawb sydd â diddordeb yn y ffordd y mae myfyrwyr yn creu cysylltiadau â diwylliannau prifysgol. Nod y llyfr yw agor naratifau ar gyfer myfyrio ar sut y gall dulliau celfyddydol ddod yn hygyrch i bawb, wrth i fyfyrwyr symud rhwng nifer o fydoedd hunaniaeth, diwylliant, bywyd prifysgol a chyfleoedd i raddedigion.

Cewch ragor o wybodaeth am y llyfr newydd hwn yn Routledge.

Mae Dr. Miranda Matthews yn artist, awdur, addysgwr celfyddydau ac ymchwilydd. Mae Miranda yn ymchwilio i ystyriaethau hunan-gynrychiolaeth, grym a chynwysoldeb i fyfyrwyr ac ymarferwyr. Mae hi hefyd yn ymchwilio i’r llais cynhwysol mewn ymchwil ymarfer ecolegol. Bu Miranda’n gweithio fel artist ac yna athro celf, gan weithio mewn ysgolion a cholegau am ddeng mlynedd (2004-14). Mae gan Miranda PhD mewn Astudiaethau Addysg (2012, Goldsmiths, Prifysgol Llundain). Mae hi wedi dysgu mewn Addysg Uwch yn y DU ers 2011, a daeth yn aelod o Gyfadran Astudiaethau Addysg Goldsmiths yn 2016. Ar hyn o bryd, Miranda Matthews yw Pennaeth Canolfan y Celfyddydau a Dysgu yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain (2019-); mae hi hefyd yn Bennaeth Cyswllt yr Ysgol ar gyfer Profiad Myfyrwyr mewn Astudiaethau Proffesiynol, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (2023-2025).