Mae’n hawdd syrthio i’r fagl o gymryd bod addysg ond yn digwydd yn yr ysgol. Mae ymchwil Dr Karen Kenny, fodd bynnag, yn amlygu faint o ddysgu sy’n digwydd o amgylch plant, drwy’r amser. Maent yn dysgu pwy ydyn nhw, sut maent yn effeithio ar eu byd, a sut y gallant ddylanwadu ar y byd hwnnw. Mae’r persbectif ehangach hwn yn gyffredin ar draws Ewrop ac yn cael ei alw’n ‘Pedagogeg Gymdeithasol’, sy’n broffesiwn ar wahân ac sy’n gofyn i’r rhai sy’n ei ymarfer fod â chymhwyster ar lefel prifysgol. 

Mae astudiaeth Dr Kenny yn awgrymu y byddai defnyddio dull addysgeg gymdeithasol ar gyfer pobl ifanc yn fuddiol i’w datblygiad. Drwy edrych mewn modd cyfrannol ar fframwaith sydd wedi’i adeiladu o amgylch ‘meddwl, gwneud a bod’ gallwn nodi’r dysgu sy’n digwydd, a nodi cyfleoedd er mwyn ymestyn y dysgu hwnnw. O gael gwared ar y ffocws sydd ar y cwricwlwm ffurfiol, byddai modd adnabod, gwobrwyo a hyrwyddo dysgu ar draws y profiad bywyd. 

Yn yr astudiaeth hon, gwnaeth oedolion â phrofiad o fod mewn gofal a phlant mewn gofal siarad am eu profiadau addysgol. Mewn cyfweliadau a oedd heb eu strwythuro ar y cyfan, gwnaethant adrodd eu straeon yn eu geiriau eu hunain gan ymateb i gyfres o awgrymiadau byr am bobl, lleoedd, yr hyn fu’n gymorth a’r hyn a fu’n rhwystr iddynt. Dadansoddwyd y cyfweliadau i archwilio sut yr oedd y cyfranogwyr yn meddwl am eu safle eu hunain yn y byd, sut yr oeddent yn gweithredu pan yr oedd ganddynt y cyfle i wella’u sefyllfa, a beth oedd eu barn amdanynt eu hunain a’u haddysg. 

Meddwl

Awgrymwyd y gall y profiad o fod mewn gofal gyfyngu ar allu unigolyn i ystyried ei sefyllfa’n atblygol, ond dangoswyd bod y gallu atblygol hwn yn gryfder, gyda chyfranogwyr yn ail-lunio stori eu bywyd i ganolbwyntio ar yr elfennau cadarnhaol, i gymryd rheolaeth, ac i fyfyrio ar eu rhwydweithiau cymdeithasol. Mae pob un ohonom yn addasu ein hatgofion i gyd-fynd â’r cyd-destun pan fyddwn yn eu hailadrodd, felly nid yw’n syndod bod y cyfranogwyr hyn yn dewis a dethol yr hyn yr oeddent yn siarad amdano. Roeddent yn dewis naratifau a allai efallai gynnig arweiniad i’r rhai fyddai’n eu darllen yn y dyfodol. 

Gwneud

O fewn eu bywydau tra strwythuredig mewn gofal, siaradodd y cyfranogwyr hyn am y gwaith yr oeddent eu hunain yn ei wneud er mwyn sicrhau newid ac i’w galluogi i ddiwallu eu dibenion eu hunain.  Roedd y cyfranogwyr yn weithredol wrth ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol ac yn nodi ffyrdd o waredu eu hunain o bryderon dydd i ddydd, gan ganfod lloches yn eu dychymyg pan nad oedd unrhyw lwybr arall ar gael. Yn ogystal, roedd yn amlwg eu bod yn nodi y cyfnodau tyngedfennol pan yr oedd angen iddynt weithredu, ac yn ymateb yn weithredol pan yr oedd strwythurau yn cael eu gorfodi arnynt.

Bod

Roedd y cyfranogwyr yn ymwybodol iawn o’u hanes ac yn gwybod sut roedd hynny’n llywio eu sefyllfaoedd presennol. Roeddent wedi profi stigma eu bywydau, pan yr oeddent mewn gofal a chyn cael eu cymryd i ofal yr awdurdodau, ond yn ddiddorol ddigon roeddent hefyd wedi glynu at yr hyn a oedd yn eu gwneud yn wahanol, gan wneud yn siŵr eu bod yn ‘wahanol i eraill’. Yn anad dim, fodd bynnag, roeddent yn cydnabod yr hyn yr oeddent wedi llwyddo i’w gyflawni. Roeddent yn gallu gweld sut roeddent wedi llwyddo, yn aml er gwaetha’r sefyllfa wael yr oeddent wedi canfod eu hunain ynddi.

Mae’r gwaith hwn yn awgrymu y byddai’n ddefnyddiol mabwysiadu safbwynt ehangach, gan ganolbwyntio ar y fframwaith a awgrymir gan Meddwl, Gwneud a Bod wrth ystyried addysg pobl ifanc sydd yng ngofal y wladwriaeth, gan eu helpu i nodi eu llwyddiannau. Gellid ailddrafftio dogfennau i sicrhau bod pob math o ddysgu yn cael ei ystyried pan fyddwn yn trafod addysg, nid yn unig yr hyn a gyflwynir mewn amgylchedd ffurfiol yr ysgol.

I gael gwybod mwy am yr astudiaeth ymchwil hon, dilynwch y ddolen isod.

Kenny, K. (2023). The Educational Experiences of Children in Care – a new perspective on the education of Looked after Children in the UK. Adoption and Fostering, 47(1), 22. doi:https://doi.org/10.1177/03085759231157415

Dr Karen Kenny, Prifysgol Caerwysg –kk316@exeter.ac.uk