Un o flaenoriaethau Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yw ‘cyswllt iachach drwy well gwasanaethau i deuluoedd geni’. Cynhaliwyd archwiliad ar ddiwedd 2022 i gasglu gwybodaeth feintiol ac ansoddol gan ystod o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant mabwysiedig a’u teuluoedd.
Bydd hunaniaeth plentyn mabwysiedig bob amser yn cwmpasu sawl elfen ac mae iechyd seicolegol a meddyliol tymor hir plentyn yn dibynnu ar ddod o hyd i atebion i gwestiynau sylfaenol am bwy ydyn nhw. Bydd gan bob plentyn sy’n derbyn gofal gynllun cyswllt, gan gynnwys y rhai sydd i’w mabwysiadu. Gall hyn fod naill ai’n uniongyrchol / wyneb yn wyneb neu’n anuniongyrchol (e.e. ‘blwch llythyrau’).[1] Am nifer o flynyddoedd, cyswllt anuniongyrchol fu’r trefniant diofyn, gyda chymharol ychydig o blant yn cael unrhyw fath o gyswllt uniongyrchol.
Mae Canllaw Arferion Da ar Gyswllt (2019) y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn amlinellu egwyddorion ac elfennau arferion gorau. Mae’n datgan:
… dylai trefniadau cyswllt arfaethedig … bob amser gynnwys archwiliad o’r posibilrwydd o gyswllt uniongyrchol er mwyn nodi pwy sy’n arwyddocaol i’r plentyn, ac er mwyn canfod anghenion a gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r rhain nawr ac yn y dyfodol.
Gofynnir i bob darpar fabwysiadwr ymrwymo i ryw fath o gyswllt ond nid yw’r cytundeb y maent yn ei lofnodi yn gyfreithiol rwymol ac, er y gellir gwneud gorchmynion cyswllt,[2] maent yn hynod brin. Fel yr awgrymir uchod, mae’n anochel y bydd anghenion mewn perthynas â chyswllt yn newid dros amser wrth i’r plentyn ddatblygu ac wrth i amgylchiadau unigolion newid. Felly, mae angen adolygiad cyfnodol a chefnogaeth barhaus.
Canlyniadau meintiol
Mae’r wybodaeth feintiol o’r archwiliad yn darparu meincnod defnyddiol i fesur cynnydd yn ei erbyn. Yn 2021/2022, roedd gan 230 o blant orchymyn lleoli[3] yng Nghymru. Roedd gan bob un gynllun ar gyfer rhyw fath o gyswllt, ond dim ond 15% oedd yn cynnwys cyswllt uniongyrchol.
Canfu Meakings ac eraill (2018) nad oedd gan yr un o’r teuluoedd yn eu sampl o 2014/2015 gynllun ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb â rhieni geni. Edrychodd Jones, MacDonald a Brooks (2020) ar gyfraddau cyswllt ar ôl mabwysiadu ledled y DU. Canfu fod rhieni mabwysiadol yng Nghymru wedi nodi’r cyfraddau isaf o gyswllt uniongyrchol, sef 16%, sy’n cyd-fynd yn agos â’r ffigur o’r archwiliad hwn, tra bod Gogledd Iwerddon wedi adrodd y cyfraddau uchaf, sef 54%. Er bod cyfran y plant sy’n cael cyswllt uniongyrchol yn dal i fod yn gymharol isel yng Nghymru, mae hyn yn darparu tystiolaeth o gynnydd.
Bob blwyddyn mae nifer y trefniadau cyswllt cyn 18 wedi cynyddu. Dangosodd yr archwiliad fod 5,070 o drefniadau cyswllt yng Nghymru ar hyn o bryd ond mae angen adnoddau sylweddol er mwyn rheoli/cefnogi’r rhain. Mae tua 20% yn dod yn segur dros amser am amrywiaeth o resymau.
Canlyniadau ansoddol
Cynllunio
Teimlai cyfranogwyr, pan oedd penderfyniadau am gyswllt yn cynnwys gweithwyr proffesiynol mabwysiadu ac yn tynnu ar ymchwil, ei fod yn arwain at ddull mwy hyblyg a chynnil, yn hytrach nag ymateb safonol/fformiwläig, yn seiliedig ar arferion hirsefydlog. Roedd unrhyw faterion yn ymwneud yn gyffredinol â diffygion mewn cynllunio a chyfathrebu.
Pwysigrwydd cefnogaeth
Ystyrir bod cefnogaeth dda yn allweddol i gyswllt cynaliadwy/ystyrlon, gyda phwynt cyswllt cyson ar gyfer y teulu geni a mabwysiadwyr a oedd yn arbenigo yn y maes gwaith hwn. Mae angen canllawiau clir a gwybodaeth, ond hefyd perthnasoedd sy’n meithrin ymddiriedaeth rhwng y cyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol.
Gall cefnogi rhieni geni fod yn arbennig o heriol:
Mae’r blwch llythyrau yn dechrau ar y pwynt pan fyddant ar eu hisaf – maent yn ddig ac yn dioddef galar – mae cymryd amser i sefydlu perthynas â nhw pan fydd y gweithiwr cymdeithasol sy’n dod o hyd i’r teulu yng nghanol dod o hyd i deulu, ac yna rheoli’r trawsnewid, yn heriol ac mae angen llawer o amser a gwaith ac fel arfer dyma’r gwaith sy’n dioddef wrth orfod blaenoriaethu.
Cyfarfodydd rhwng rhieni geni a mabwysiadwyr
Mae blaenoriaeth y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol o ‘gyswllt iachach’ yn cynnwys ‘rhagdybiaeth o gyfarfodydd cychwynnol rhwng mabwysiadwyr a rhieni geni oni bai fod rheswm cymhellol dros beidio â chynnal y rhain’. Cyfeirir at y rhain yn aml fel ‘cyfarfodydd untro’, ond efallai y byddai’n well cyfeirio atynt fel cyfarfodydd ‘cychwynnol’ neu ‘ragarweiniol’. Dywedodd ymatebwyr y gallant helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddechrau’r broses o adeiladu ymddiriedaeth ac i weld ei gilydd fel ‘pobl’. Mae’r gallu i gydymdeimlo yn cael ei ystyried yn hanfodol i gyswllt fod yn gynaliadwy ac ystyrlon ac felly’n fuddiol i’r plentyn.
Roedd cyfanswm y cyfarfodydd o’r fath yn cynrychioli 18.6% (61) o’r plant a leolwyd. O’r rhain, roedd 80% (49) yn digwydd tua adeg y lleoliad ac 20% (12) yn fwy na chwe mis ar ôl y lleoliad.
Gall anhyblygrwydd dros yr amseriad gyfyngu ar nifer y cyfarfodydd o’r fath. Maent fel arfer yn digwydd o gwmpas amser y cyflwyniadau/lleoliad ac efallai y bydd y posibilrwydd o gyfarfodydd diweddarach yn cael ei ostwng. Teimlai rhai ymatebwyr y gallai ansawdd y rhyngweithio fod yn well os bydd cyfarfodydd yn ddiweddarach ac y dylid ystyried opsiynau eraill, gan gynnwys cyfarfodydd rhithwir.
Tynnwyd sylw hefyd at ddull cadarnhaol o gysylltu yn gynnar trwy hyfforddiant paratoi ac annog a chefnogi ‘lythyrau ymgartrefu’ fel rhywbeth pwysig ar gyfer llwyddiant tymor hir.
Cyswllt uniongyrchol
Er bod y niferoedd yn fach, gall cyswllt uniongyrchol fod yn digwydd nad yw asiantaethau yn ymwybodol ohono. Mae’n dal i gael ei ystyried yn eithriadol ac yn aml yn cael ei ddiystyru oherwydd risg ganfyddedig, ond nid oes llawer o dystiolaeth o asesiad systematig o risg yn erbyn manteision posibl. Nid oes gan rai ymarferwyr fawr ddim profiad o gyswllt uniongyrchol, os o gwbl, a gallant dybio ei fod yn gynhenid anniogel neu’n anfuddiol.
Yn 2021/22, roedd saith cyswllt heb eu cynllunio trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd eraill na chawsant eu hadrodd. Mae llawer o ymatebwyr yn poeni am hyn a hoffent gael mwy o wybodaeth a chymorth. Dywedodd 35.5% fod hyfforddiant penodol ar gael gan eu gwasanaeth, 47% bod cyngor cyffredinol yn cael ei ddarparu. Mae cyswllt o’r fath yn ymddangos yn anochel, ac mae angen i deuluoedd wybod sut i reoli a lleihau’r risgiau.
Adolygu trefniadau cyswllt
Mae’n bwysig adolygu pob math o gyswllt a sicrhau ei fod yn dal i fod yn briodol i anghenion y plentyn. Bydd plant yn tyfu ac yn datblygu, gall rhieni geni ymateb i golli eu plentyn trwy wneud newidiadau sylweddol, ac mae’n anochel y bydd datblygiad eu plentyn yn effeithio ar rieni mabwysiadol yn ogystal â newidiadau yn eu bywydau eu hunain. Nododd yr ymatebwyr amrywiad sylweddol yn y trefniadau ar gyfer adolygu, boed yn systematig, mewn ymateb i newid mewn amgylchiadau neu ar gais unigolyn.
Casgliadau cyffredinol
Yn gyffredinol, mae tystiolaeth bod cyswllt yn cael ei ystyried yn bwysig iawn gan bawb sy’n gweithio gyda phlant mabwysiedig a’u teuluoedd. Mae cynnydd wedi’i wneud o ran datblygu ymarfer, ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Mae angen lefelau parhaus o fod yn agored ac yn hyblyg wrth gynllunio ar gyfer cyswllt, yn enwedig o ran ystyried cyswllt uniongyrchol. Bydd adnoddau i gefnogi pawb dan sylw ac yn yr un modd i alluogi adolygiad systematig o’r trefniadau hefyd yn hanfodol i drefniadau sy’n gweithio’n dda wrth i ni fynd ymlaen.
By Chris Holmquist,
[1] Mae cyswllt blwch llythyrau yn drefniant gwirfoddol lle mae rhieni mabwysiadol a theuluoedd geni yn cytuno i gadw mewn cysylltiad drwy gyfnewid newyddion drwy’r asiantaeth fabwysiadu sy’n gyfrifol am leoli’r plentyn, unwaith neu ddwywaith y flwyddyn. Fel arfer, byddai hyn yn dod i ben pan fydd y plentyn yn dod yn oedolyn yn 18 oed yn gyfreithiol.
[2] Gorchymyn cyswllt – mae adran 9 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 yn mewnosod adran 51A newydd yn Neddf Plant 1989 i wneud darpariaeth i’r llys wneud gorchymyn i ganiatáu neu wahardd cyswllt rhwng plentyn mabwysiedig ac ystod benodol a chyfyngedig o bobl.
[3]. Gorchymyn lleoli – gorchymyn a wnaed gan y llys a wnaed o dan adran 21 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn awdurdodi awdurdod lleol i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gydag unrhyw ddarpar fabwysiadwyr y gall yr awdurdod eu dewis (is-adran (1)).
This Blog is part of our ExChange conference, “Reframing Adoption”
To find more resources on this topic, check out the conferences below.