Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cam cyntaf yr ymchwil ansoddol gyda 64 o uwch-arweinwyr mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, a oedd yn archwilio profiadau cynnar ysgolion o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae’n dilyn Ymchwil ansoddol ag ymarferwyr ar baratoadau ar gyfer diwygiadau cwricwlwm ac asesu a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022. Bydd adroddiad sy’n manylu ar ganfyddiadau cam dau y cyfweliadau gydag uwch-arweinwyr, yn ogystal â gwaith maes gyda dysgwyr, yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2023.