Mae’r ail adroddiad a baratowyd gan Grŵp Monitro UNCRC Cymru wedi’i lansio

Dyma’r ail adroddiad a baratowyd gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru, sef cynghrair cymdeithas sifil a hwylusir gan Plant yng Nghymru, i hysbysu Sesiwn 94 ac archwiliad Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae ein hadroddiad, a gynhyrchwyd ar ffurf ‘amgen’ i adroddiadau parti gwladol y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, yn rhoi diweddariad ar y prif flaenoriaethau a nodwyd yn ein hadroddiad cyntaf, a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2020 i lywio Rhestr Materion y CU Cyn Adrodd (LOIPR), ochr yn ochr â sylwadau ar ddatblygiadau newydd sydd wedi dod i’r amlwg yn fwy diweddar.

Llywiwyd y ddau adroddiad gan alwad gynhwysfawr am dystiolaeth ysgrifenedig, digwyddiadau bord gron a dadansoddiad o ffynonellau eilaidd.