Dileu Tlodi Plant Digwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth

Beth nesa i deuluoedd BAME sy’n byw mewn tlodi ac yn wynebu effeithiau COVID 19?
03/11/2020
10:00yb – 12:30yp
Rhithwir, trwy Zoom (Heb ei osod Zoom? Os nad ydych wedi lawrlwytho Zoom, peidiwch â phoeni gallwch barhau i ymuno trwy eich porwr gwe)

Mae effaith COVID 19 wedi bod yn bellgyrhaeddol ac yn ddwfn i lawer o deuluoedd a’u plant yng Nghymru. Mae’r effaith ar deuluoedd a chymunedau BAME wedi bod yn anghymesur, ac mae effaith y clefyd, y cyfnod clo, cau ysgolion a hunan-ynysu wedi creu difrod mawr, gan amlygu llawer o anawsterau oedd eisoes yn bodoli, yn ogystal â chreu rhai newydd.

Bydd y digwyddiad cyfnewid gwybodaeth hwn yn cynyddu eich dealltwriaeth o effaith COVID 19 ar blant a theuluoedd BAME, yn nodi anghenion y gymuned hon yn awr ac yn y dyfodol, ac yn helpu i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer.

Ein siaradwyr:

Fateha Ahmed, EYST
Trwy ei gwaith yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar hyd yr argyfwng, mae gan Fateha gronfa o dystiolaeth i’w defnyddio a’i rhannu, er mwyn rhoi cipolwg agosach ar yr effeithiau.

Trudy Aspinall, TGP Cymru, Aelod o is-grŵp sosio-economaidd Grŵp Ymgynghorol COVID 19 BAME Prif Weinidog Cymru
Bydd Trudy yn rhannu prif ganfyddiadau adroddiad yr is-grŵp, sy’n nodi nifer o ffactorau allweddol yn y canlyniadau COVID anghymesur i gymunedau BAME, a bydd yn rhannu rhai o’r argymhellion allweddol a wnaed yn yr adroddiad.

Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Siaradwyr
Cyfle i wneud y canlynol:

Gofyn cwestiynau Dysgu o’u profiad Nodi’r camau nesaf
Ymchwilio i’r materion sy’n codi Llywio eich ymarfer

Trafodaethau mewn grwpiau llai:
Bydd pob un o’n grwpiau llai yn ystyried 4 cwestiwn:
Beth sydd ei angen ar blant a theuluoedd BAME yn awr ac yn ystod y 6 mis nesa?
Sut mae rhoi sylw i’r angen yma a chefnogi teuluoedd BAME trwy’r pandemig?
Ydych chi wrthi’n datblygu offer neu rywbeth tebyg gallech chi ei rannu?
Sut allwch chi weithio ar y cyd â sefydliadau eraill?

Pwy ddylai fod yn bresennol?
Mae’r digwyddiad wedi’i fwriadu ar gyfer ymarferwyr, rheolwyr, llunwyr penderfyniadau ac unrhyw un sy’n ymwneud â thlodi plant a theuluoedd a chymunedau BAME neu sydd â diddordeb yn y pynciau hynny.

Mae’r digwyddiad AM DDIM a nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael

Beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin Cyngor ar gyfer ymarferwyr

Mae’r cyngor anstatudol hwn wedi’i lunio er mwyn cynorthwyo ymarferwyr i nodi achosion o gam-drin ac esgeuluso plant ac ymateb drwy gymryd y camau priodol.

Mae’r cyngor hwn yn disodli fersiwn flaenorol Beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin a gyhoeddwyd yn 2006, ac yn ategu canllaw statudol Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant (2015).

At sylw pwy y mae’r cyngor hwn?
Mae’r cyngor hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd, gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio gyda’r blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg (gan gynnwys ysgolion), yr heddlu a gwasanaethau i oedolion. Mae’n berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio yn y sector statudol, gwirfoddol neu annibynnol, ac yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc, boed yn byw gartref gyda’u teuluoedd neu ofalwyr neu oddi cartref.

Gwaharddiadau o ysgolion a gynhelir, academïau ac unedau cyfeirio disgyblion yn Lloegr. Canllawiau statudol i’r rheiny â chyfrifoldebau cyfreithiol o ran gwaharddiadau

Mae’r ddogfen hon gan yr Adran Addysg yn ganllaw ar y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r broses o wahardd disgyblion o ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion (UCD), ysgolion academi (gan gynnwys ysgolion am ddim, ysgolion stiwdio a cholegau technoleg prifysgol) ac academïau darpariaeth amgen (gan gynnwys darpariaeth amgen ysgolion am ddim) yn Lloegr.

Ni ddylid defnyddio’r adrannau ‘canllaw i’r gyfraith’ yn y ddogfen hon yn lle deddfwriaeth a chyngor cyfreithiol.

• Mae’r ddogfen hefyd yn cynnig canllawiau statudol y mae’n rhaid i benaethiaid, byrddau llywodraethu, awdurdodau lleol, ymddiriedaethau academi, aelodau panel adolygu annibynnol ac arbenigwyr anghenion addysgol arbennig eu hystyried wrth fynd drwy’r broses wahardd. Rhaid i glercod paneli adolygu annibynnol gael hyfforddiant er mwyn gwybod a deall y canllawiau hyn.
• Yn y cyd-destun hwn, nid yw’r ymadrodd ‘rhaid eu hystyried’ yn golygu bod angen dilyn pob manylyn o adrannau’r canllawiau statudol, ond yn hytrach y dylid eu dilyn oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud mewn achos penodol.
• Lle bo’n berthnasol, mae’r ddogfen hon yn cyfeirio at ganllawiau mewn meysydd megis ymddygiad, AAA, a chydraddoldeb, ond ni fwriedir iddi roi canllawiau manwl ar y materion hyn.
• Mae’r ddogfen hon yn disodli’r fersiwn a gyhoeddwyd yn 2012 ar gyfer ysgolion Lloegr.

Cadw plant yn ddiogel mewn addysg. Cyngor statudol i ysgolion a cholegau

Dyma ganllaw statudol gan yr Adran Addysg (yr adran) sydd wedi’i gyhoeddi o dan Adran 175 Deddf Addysg 2002, Rheoliadau Addysg 2014 (Safonau Ysgolion Annibynnol), a Rheoliadau Ysgolion Arbennig Nas Cynhelir (Lloegr) 2015. Rhaid i golegau a cholegau yn Lloegr roi sylw iddynt wrth gyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. At ddibenion y canllaw hwn, mae plant yn golygu unrhyw un sydd o dan 18 oed.

Presenoldeb yn yr ysgol Canllawiau ar gyfer ysgolion a gynhelir, academïau, ysgolion annibynol, ac awdurdodau lleol

Dyma’r canllawiau gan yr Adran Addysg. Mae’r canllaw anstatudol hwn wedi’i lunio er mwyn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i gynnal presenoldeb uchel yn yr ysgol ac i gynllunio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddarllen hwn ochr yn ochr â’r
canllaw statudol ar fesurau i rieni ar gyfer prsenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion.

Datgloi Doniau, Cyflawni Potensial

Y cynllun cenedlaethol ar gyfer ymdopi â symudedd cymdeithasol drwy addysg.

Y cynllun – mae Datgloi Doniau, Cyflawni Potensial yn esbonio sut y byddwn yn gwaredu’r rhwystrau a allai atal pobl rhag cyflawni eu potensial.

Mae gennym 5 dyhead creiddiol: 4 sy’n ymestyn ar draws pob cam mewn bywyd – y blynyddoedd cynnar, ysgol, addysg ôl-16, a gyrfaoedd. Mae’r pumed yn uchelgais gyffredinol sy’n canolbwyntio ar ddarparu deilliannau addysg a gyrfaol gwell yn fwy cyson ar draws y wlad.

Rydym eisiau cyflwyno’r cynllun hwn drwy weithio gyda’r holl bartneriaid ar draws y sector addysg, busnes, y gymdeithas sifil a thu hwnt.

Deddf Plant a Phobl Ifanc (Yr Alban) 2014

Nod Deddf Plant a Phobl Ifanc (Yr Alban) 2014 yw bwrw ymlaen â dyhead Llywodraeth yr Alban i “Yr Alban fod y lle gorau i dyfu i fyny ynddo drwy roi plant a phobl ifanc wrth wraidd cynllunio a gwasanaethau, a sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu ledled y sector cyhoeddus”. Nodir darpariaethau allweddol y Ddeddf, a’r canllawiau perthnasol isod.
Ymhlith y dogfennau allweddol sy’n ymwneud â phasio’r Bil mae:

• Memorandwm Polisi
• Memorandwm Pwerau Dirprwyedig
• Adroddiad Cam 1 y Pwyllgor Addysg a Diwylliant ar y Bil
• Ymateb Llywodraeth yr Alban i’r Adroddiad Cam 1
• Crynodeb pasio Bil Plant a Phobl Ifanc (Yr Alban)
• Asesiadau effaith Llywodraeth yr Alban
Mae Deddf Plant a Phobl Ifanc (Yr Alban) yn:
• Rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i baratoi ‘cynllun gwasanaethau plant’ tair blynedd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, gan adrodd ar hyn bob blwyddyn. Dylai’r rhain fod ar waith o fis Ebrill 2017 ymlaen, ar gyfer y cyfnod hyd at 2020.
• Pennu ‘Cynllun Plentyn’ ar gyfer pob plentyn sydd angen un. Bydd y bwrdd
iechyd yn paratoi hyn ar gyfer plant oed cyn-ysgol a’r awdurdod lleol yn ei
greu ar gyfer plant oed ysgol.
• Pennu ‘Person Enwebedig’ i bob plentyn hyd at 18 oed. Bydd y bwrdd iechyd
yn paratoi hyn ar gyfer plant oed cyn-ysgol, a’r awdurdod lleol yn ei greu ar
gyfer plant oed ysgol.
• Rhoi statws statudol i ddiffiniad o ‘les’, gan gyfeirio at ddangosyddion
SHANARRI.

Pa mor ddiogel yw ein plant?

Dros y chwe blynedd ddiwethaf, mae ein hadroddiad blynyddol ‘Pa mor ddiogel yw ein plant?’ wedi casglu a dadansoddi data o bob cwr o’r DU i ddangos y sefyllfa o ran gwarchod plant ar hyn o bryd.

Eleni, am y tro cyntaf, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sydd wedi ymgymryd â’r dasg hon, ac mae disgwyl i rifyn cyntaf ei chasgliad o ffynonellau data am gam-drin plant ar gyfer Cymru a Lloegr fod yn barod yn ystod gaeaf 2019/20.

Rydym wedi bachu ar y cyfle hwn i ailffocysu ein hadroddiad 2019 ar ystadegau sy’n ymwneud â cham-drin ar-lein.

Barn rhieni a gofalwyr ar sut allwn gydweithio i atal plant anabl rhag cael eu cam- drin yn rhywiol

Mae plant a phobl ifanc ag anableddau yn fwy agored i gael eu cam-drin, o’u cymharu â’u cyfoedion heb anableddau (Jones et al, 2012).
Mae ceisio barn ac arbenigedd rhieni a gofalwyr yn rhan hanfodol o ddeall beth sydd angen i ni ei wneud i helpu i gadw plant anabl yn ddiogel rhag cael eu cam-drin yn rhywiol.
Roeddem yn awyddus i gael gwybod barn rhieni a gofalwyr plant anabl am:
• y ffyrdd mwyaf effeithiol o gadw eu plant yn ddiogel rhag cael eu cam-drin yn rhywiol, a lle maen nhw’n credu bod angen rhagor o gefnogaeth
• sut maent yn siarad â’u plant am gam-drin rhywiol
• at bwy maen nhw’n mynd am gyngor a chefnogaeth, a sut yr hoffen nhw i
weithwyr proffesiynol a grwpiau cymunedol eraill gydweithio â nhw ar atal cam-drin rhywiol ymysg plant.