Fe wnaeth Senedd Cymru basio’r Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) ym mis Ionawr 2020. Mae’r Ddeddf yn gwahardd cosbi’n gorfforol yng Nghymru gan rieni a’r rhai sy’n gweithredu fel rhieni neu warcheidwaid. Roedd cosbi’n gorfforol eisoes wedi’i gwahardd mewn lleoliadau sefydliadol gan gynnwys ysgolion.

Maepapur a gafodd ei ysgrifennu gan yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru’n flaenorol, yn dilyn hanes yr ymgais i basio’r ddeddf ynghylch gwahardd cosbi plant yn gorfforol o achos A v y DU (Cyngor Ewrop 1998) hyd at y diwrnod presennol. Mae’r papur yn myfyrio ar yr heriau o basio’r Ddeddf honno, gan amlinellu sut yr ymgyrchodd Julie Morgan Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd (ac yn ddiweddarach Aelod o Senedd Cymru a Gweinidog Llywodraeth Cymru) dros ddiddymu cosbi’n gorfforol yn y cartref am ddegawdau, ac roedd yn un o grŵp o aelodau seneddol oedd yn ceisio newid y Bil Plant 2004 i gael gwared â’r amddiffyniad o gosb gorfforol o fod yn ‘gosb resymol’.

Wrth i’r Senedd ennill pwerau deddfwriaethol, roedd aelodau o’r Senedd yn parhau i weithio er mwyn gwahardd y gosb gorfforol. Bu ymgais arall yn 2015 gan Aelodau Cymraeg o’r Senedd i newid y gyfraith ynghylch cosbi’n gorfforol i Gymru. Bu’r ymgais hon yn aflwyddiannus ond roedd y naws wleidyddol a chyhoeddus yn newid, ac felly ym mis Mawrth 2019, wrth i Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol newydd ei phenodi, gyflwyno’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol (Cymru). Bu ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos o hyd, ble gafodd 650 o ymatebion eu casglu yn ogystal â 12 sesiwn cyflwyno tystiolaeth ar lafar, oedd yn cynnwys gofalwyr, rhieni a phobl ifanc. Cafod y Bil ei basio ym mis Mawrth 2020.

Cafodd ymgyrch yn y cyfryngau ei ddefnyddio i dynnu sylw’r cyhoedd at y newidiadau, gan gynnwys hysbysfyrddau, taflenni, a hysbysebion ar y teledu a radio. Roedd sesiynau hyfforddi ar gael a chafodd sioeau teithiol eu trefnu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Athro Sally Holland (2023, t. 158) yn dadlau ‘y dylai strategaeth ymwybyddiaeth gyhoeddus gymharol gynhwysfawr Cymru, ynghyd â gwaharddiad cyfreithiol diamwys ar gosbi corfforol, a bod y cyhoedd yn llai parod i dderbyn ‘’smacio’’ i gyd helpu i greu’r amodau delfrydol i leihau cosbi’n gorfforol yn gyflym ac yn ddi-gosb. Mae’n hanfodol bwysig bod ymatebion proffesiynol i adroddiadau o gosbi’n gorfforol a thueddiadau mewn agweddau ac ymddygiad yn cael eu gwerthuso’n rheolaidd er mwyn cadw cofnod o’r effaith o amddiffyn plant yn gyfreithiol lawn’.

Hyd yma, mae’r Alban a Chymru wedi gwahardd cosbi plant yn gorfforol yn eu hawdurdodaethau, ond mae ymgyrchwyr dros hawliau plant yn dal i aros am ddeddfwriaeth sy’n cyfateb i hyn yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan arwain at anghysondeb tuag at amddiffyn plant ar draws y DU.


Cyfeirnodau

Cyngor Ewrop 1998. Achos A. v. Y Deyrnas Unedig. 100.1997/884/1096. Strasbourg: Judgment.

Holland, S.  2023. Removing the “Reasonable Punishment” defence in Wales. Canadian Journal of Children’s Rights / Revue canadienne des droits des enfants 10 (1), tt. 142-163.

Llywodraeth Cymru. 2023. Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: Y datganiad data cyntaf. Caerdydd: Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.