Ddydd Iau, 3 Hydref, 2024
10:00am – 11:15am
Ar-lein

Ymunwch â ni ar gyfer y gweminar rhad ac am ddim hon lle byddwch yn clywed canfyddiadau allweddol o Adroddiad Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol Plant yng Nghymru.

Bellach yn ei 8fed flwyddyn, nod yr arolygon yw ceisio cael mwy o ddealltwriaeth o’r ffeithiau a’r profiadau personol y tu ôl i’r ffigurau, a’r effaith y mae tlodi yn ei chael ar fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Yn hollbwysig, mae’r arolygon yn caniatáu i blant, pobl ifanc, rhieni, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol rannu eu barn a’u profiadau o dlodi yng Nghymru ac i dynnu sylw at y materion sy’n cael eu hwynebu ar hyn o bryd, yn ddyddiol.

Bydd adroddiad eleni yn cael ei lansio yn ystod y gweminar ar 3 Hydref 2024, felly cadwch eich lle nawr i glywed y canfyddiadau cyn iddynt gael eu cyhoeddi.

Mae adroddiad 2024 yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau eleni ar gyfer pob un o’r meysydd a arolygwyd. Rydym yn croesawu’r ychwanegiad at ein harolwg rhieni newydd eleni yn fawr. Mae clywed barn a phrofiadau rhieni a gofalwyr yn hanfodol er mwyn deall yn well yr effaith a’r heriau y maent yn eu hwynebu. Mae ystadegau cyfredol yn dangos bod 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi ac mae pob awdurdod lleol yn parhau i brofi cyfraddau uchel o dlodi plant.

Y thema bwysicaf a ddaeth i’r amlwg o arolygon eleni oedd yr effaith y mae materion yn ymwneud â thlodi yn ei chael ar lesiant emosiynol plant, pobl ifanc a rhieni, gan effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Bydd y gweminar hefyd yn rhannu’r heriau y mae rhieni’n eu hwynebu, o rwystrau gofal plant a chael mynediad at waith, i stigma a chostau byw cynyddol.

Fran Targett, OBE fydd yn cadeirio’r gweminar a bydd awduron yr adroddiad, Karen McFarlane, Anna Westall a Fatiha Ali yn archwilio’r rhain a llawer o ganfyddiadau allweddol eraill o ddadansoddiad yr arolwg. Bydd y gweminar yn rhoi gwell dealltwriaeth i gyfranogwyr o’r materion dyddiol y mae llawer o blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu ac effaith hyn. Bydd y gweminar yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, gan roi’r cyfle i ofyn cwestiynau i’r awduron am y canfyddiadau yn uniongyrchol.

I ddysgu mwy am ein Harolygon Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol ac i weld yr adroddiadau o’n harolwg 2023, cliciwch yma.

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.