Faint o ymchwiliadau amddiffyn plant y dylid eu cynnal i nodi un plentyn sydd mewn perygl o niwed sylweddol? Faint o blant ddylai fod mewn gofal i amddiffyn un plentyn rhag cael ei gam-drin yn ddifrifol?
Yn ôl y gyfraith, “mae’n well i ddeg o bobl euog ddianc nag i un person dieuog ddioddef.” Yr enw a roddir i’r wireb hon yw cymhareb Blackstone, ac mae’n cydnabod y berthynas anochel rhwng achosion cadarnhaol cywir ac achosion cadarnhaol anghywir. Er mwyn sicrhau nad oes yr un person dieuog yn mynd i’r carchar, byddai’n rhaid i ni roi’r gorau i euogfarnu unrhyw un. Er mwyn sicrhau bod pob person euog yn mynd i’r carchar, byddai’n rhaid i ni garcharu pawb. Gan nad yw’r naill safbwynt na’r llall yn dderbyniol, mae’n rhaid i ni benderfynu – fel cymdeithas – faint o achosion cadarnhaol anghywir rydym yn barod i’w derbyn ar gyfer nifer benodol o achosion cadarnhaol cywir.
Person yn euog | Person yn ddieuog | |
Person yn cael ei ddyfarnu’n euog | Cadarnhaol cywir | Cadarnhaol anghywir |
Person yn cael ei ddyfarnu’n ddieuog | Negyddol anghywir | Negyddol cywir |
Yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd, y mwyaf o blant y byddwn yn eu nodi sy’n cael eu cam-drin, y mwyaf o deuluoedd fydd yn destun ymchwiliadau amddiffyn plant. Y mwyaf o blant rydym yn eu diogelu rhag camdriniaeth ddifrifol, y mwyaf o blant fydd mewn gofal. Er bod y farn hon yn seiliedig ar ystyriaethau ymarferol-moesol, ni allwn osgoi’r broblem. Wedi’r cyfan, mae dyfarniadau a wneir yn y llysoedd troseddol hefyd yn ymarferol-moesol.
Wrth gwrs, yr ateb ‘hawdd’ yw bod yn rhaid i ni, fel cymdeithas a phroffesiwn, ymdrechu i leihau pa mor gyffredin yw cam-drin a lleihau nifer yr achosion cadarnhaol anghywir a nifer yr achosion negyddol anghywir. Yn y byd go iawn, ni allwn ddiddymu cam-drin plant yn gyfan gwbl. Felly, mae gennym benderfyniad i’w wneud – faint o achosion cadarnhaol anghywir (neu achosion negyddol anghywir) rydym yn barod i’w caniatáu?
Gofynnwyd i 75 o fyfyrwyr a gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr beth oedd eu barn. Dywedodd cryn dipyn (n=23) y dylai’r gymhareb fod yn 1:1 – mewn geiriau eraill, y dylai gweithwyr cymdeithasol sicrhau cywirdeb perffaith. Dywedodd eraill (n=12) y dylem dderbyn 1,000+ o ymchwiliadau amddiffyn plant i nodi un plentyn sydd mewn perygl o niwed sylweddol. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod mwy na 50,000 o gynlluniau amddiffyn plant ar waith yn Lloegr a bron i 3,000 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant yng Nghymru. Byddai cymhareb o 1,000:1 felly yn golygu y gall pob plentyn yn y wlad gyfan fod yn destun o leiaf 3 ymchwiliad amddiffyn plant y flwyddyn. Rwy’n amau na chafodd goblygiadau’r ymatebion hyn – o 1 neu 1,000 – eu gwir ystyried gan yr ymatebwyr, ond yn credu mai eu diben oedd nodi naill ai i) na ddylem dderbyn unrhyw ymchwiliadau diangen neu blant mewn gofal yn ddiangen, neu ii) na ddylem dderbyn unrhyw derfyn uchaf wrth ymdrechu i amddiffyn plant sy’n cael eu cam-drin.
Pa bynnag ddewis a wnawn ynglŷn â’r trothwy ar gyfer ymchwiliadau amddiffyn plant, neu fynd â phlentyn i ofal, mae’n rhaid i rywun, yn rhywle, dderbyn y goblygiadau. Pan fydd rhywun diniwed yn mynd i’r carchar, mae’n dioddef anghyfiawnder. Pan fydd person euog yn cael ei ollwng yn rhydd, mae ei ddioddefwr, a’r gymdeithas ehangach, yn dioddef anghyfiawnder. Nid tasg syml yw pwyso a mesur yr anghyfiawnderau gwahanol hyn a dod o hyd i’r trothwy ‘cywir’. Y dull gorau sydd gennym yw trafodaeth ddemocrataidd a llunio polisïau. Er mwyn cael y drafodaeth honno, mae angen i ni fod yn glir ynghylch graddau’r anghyfiawnder yr ydym yn barod i’w dderbyn, ac ar ran pwy.