Jen yw fy enw i, rwy’ yn fy nhridegau cynnar ac yn byw gyda fy ngŵr a’m mab ifanc. Dw i’n feichiog hefyd a disgwylir i mi esgor unrhyw ddiwrnod. Dyma fydd fy mhumed plentyn ond dyma fydd y tro cyntaf i mi esgor heb boeni am y Gwasanaethau Plant, heb fod yn aros am y sgwrs gyda’r fydwraig am yr angen i hysbysu gweithwyr cymdeithasol a heb fod yn aros yn bryderus iddynt gyrraedd.  

Bydd sawl peth yn wahanol y tro hwn. Rwy’ wedi gallu prynu pethau fel basged Moses, pram, dillad a gwybod eu bod nhw’n mynd i gael eu defnyddio. Bydd y feithrinfa rydw i a fy ngŵr wedi’i haddurno yn croesawu fy mabi o’r ysbyty, a’r tro hwn bydd baneri a balŵns pan fydda’ i’n dod adref. Y tro hwn, rwy’n edrych ymlaen at sawl peth cyntaf; rhoi bath cyntaf, y wên gyntaf, cysgu drwy’r nos am y tro cyntaf, geiriau cyntaf, pen-blwydd cyntaf, gwyliau cyntaf, Nadolig cyntaf a’r camau cyntaf. Rwy’n edrych ymlaen at y pethau cyntaf hyn oherwydd bydd y babi gyda mi ac ni fydd llawenydd y pethau cyntaf hyn yn cael ei ddifetha gan ymweliad, cyfarfod neu benderfyniad sydd ar y gorwel. 

Mae cyrraedd fan hyn wedi cymryd amser hir. Dechreuodd fy nhaith gyda’r gwasanaethau cymdeithasol yn 3 oed. Dydw i erioed wedi edrych ar fy ffeil oherwydd dydw i ddim wedi bod eisiau darllen beth ysgrifennwyd amdana’ i. O’r hyn y gallaf ei gofio a’r hyn a ddywedwyd wrtha’ i yn y blynyddoedd ers hynny, dwi ddim yn gweld bai ar weithwyr cymdeithasol am fynd â mi i ffwrdd. Fodd bynnag, nid oedd y ‘gofal’ a ges i gan fy rhieni corfforaethol dros y blynyddoedd i ddilyn cystal ag y dylai fod wedi bod.  

Roeddwn i’n 17 oed pan roddais i enedigaeth i’m plentyn cyntaf. Roeddwn i wedi bod mewn perthynas â dyn 7 mlynedd yn hŷn na fi. Dechreuodd y berthynas pan oeddwn i’n dair ar ddeg oed. Doedd neb gen i i fy rhybuddio am y berthynas, i geisio dweud wrtha’ i ei fod yn afiach, heb sôn am fod yn anghyfreithlon. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd cam-fanteisio rhywiol, na cham-drin domestig. Doedd neb gen i i siarad â mi am barchu fy nghorff na rhyw diogel. Roeddwn i’n meddwl mai cariad ydoedd, roeddwn i’n meddwl mai ef oedd fy nyfodol i a bob tro y byddai’n fy nharo i, roeddwn i’n meddwl ‘mod i’n haeddu hynny. Sylwodd neb ar y beichiogrwydd i ddechrau ond hyd yn oed pan oedd fy nghyfrinach wedi’i datgelu, doedd dim cynllunio na pharatoi iawn. Yn hytrach, roedd pawb yn dadlau dros beth ddylai ddigwydd i mi. Pan oeddwn i 8 mis yn feichiog, fe ges i wybod bod rhaid i mi adael fy nghartref preswyl gan mai dyna’r unig ffordd y byddai gweithwyr cymdeithasol yn gwneud rhywbeth i mi.  

Ar ôl rhoi genedigaeth, fe ges i fy ngadael yn yr ysbyty am bythefnos oherwydd doedd neb yn gwybod beth i’w wneud â mi. Pan aeth yr achos i’r llys, fe ges i fy anfon i uned mam a babanod i gael fy asesu. Fe wnes i basio’r asesiad, roedd popeth yn mynd yn dda ar wahân i gartref. Dywedon nhw na allwn i aros yn yr uned oherwydd y gost ac fe ges i fy hun yn yr un sefyllfa eto, heb unman i fynd, neb i roi cartref i mi. Rhoddwyd fy mhlentyn cyntaf mewn gofal maeth oherwydd cytunais i roi ei hanghenion hi yn gyntaf; roedd lle maeth ar gael iddi hi, ond nid i ni’n dau. 

Dyna sut y dechreuodd hyn, nid oherwydd camdriniaeth neu anaf, ond oherwydd doedd gen i unman i fynd a neb i’m helpu.  

Hefyd, nid oedd unrhyw un i gynnig cymorth na chefnogaeth ar ôl i mi golli fy mhlentyn. Aeth fy mhroblemau’n waeth ac fe wnaeth mwy o berthnasoedd afiach ddilyn. Roedd gweithwyr cymdeithasol yn ystyried fy mod i’n fam a oedd wedi methu, a chymerwyd fy ail, trydydd a phedwerydd plentyn oddi wrtha’ i yn syth ar ôl eu geni. Ar ôl rhoi genedigaeth i’m trydydd plentyn, doeddwn i ddim hyd yn oed wedi geni’r brych pan ddywedwyd wrtha’ i fod gweithwyr cymdeithasol wedi cael gwybod. Doeddwn i ddim wedi gadael y bwrdd esgor cyn cael fy atgoffa nad oeddwn i’n ddigon da fel mam. 

Mabwysiadwyd fy nau blentyn hynaf a’r cyfan y galla’ i obeithio amdano yw eu bod nhw’n dod i chwilio amdana’ i ryw ddiwrnod ac yn deall ‘mod i’n eu caru nhw a’u heisiau, ond doedd dim grym gen i i atal yr hyn ddigwyddodd. Mae fy nhrydydd plentyn mewn gofal maeth ac rwy’n ymweld cymaint ag y caniateir i mi wneud. Gyda chefnogaeth fy ngŵr, dychwelwyd fy mhedwerydd plentyn i’m gofal. Ar ôl mynd ag ef oddi wrtha’ i adeg genedigaeth, dywedwyd wrtha’ i y byddwn i’n annhebygol o’i gael yn ôl, na fyddwn yn gallu ei fagu, a’u bod yn ystyried ei roi i’w fabwysiadu. O fewn y flwyddyn, roeddwn yn cael fy llongyfarch yn y llys, fy nghanmol am bopeth yr oeddwn wedi’i wneud. Nid yw gweithwyr cymdeithasol yn ymwneud â’m mab erbyn hyn ac ni fydd unrhyw un yn gysylltiedig â’r babi rwy’n ei ddisgwyl. Er fy mod i’n cael fy ystyried yn rhiant ‘digon da’ erbyn hyn, rwyf wedi cael gwybod mai gofalwr presennol fy merch fydd orau i ddiwallu ei hanghenion.   

Fyddwn i ddim am i fy ngelyn pennaf fynd trwy rai o’r pethau sydd wedi digwydd. Roedd adegau pan ges i broblemau iechyd meddwl, adegau pan rydw i wedi troi at alcohol, adegau pan rydw i wedi ceisio cysur mewn perthnasoedd camdriniol, adegau pan nad oeddwn i eisiau bod yma mwyach. Dydw i ddim bob amser wedi gwybod beth sy’n cael ei ddisgwyl ohono’ i ac mae rhai pethau creulon wedi cael eu dweud.  

Dywedwyd wrtha’ i nad wyf yn gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol, ddim yn ‘ymgysylltu’ fel y dylwn i. Hefyd, dywedwyd wrtha’ i nad oes angen i mi roi gwybod iddynt am bob mân beth. Dywedwyd wrtha’ i fy mod i’n rhy emosiynol, oherwydd fe wnes i grïo yn y llys pan ddywedon nhw fod fy merch yn mynd i gael ei mabwysiadu, oherwydd fe wnes i grïo yn y cyswllt olaf pan oeddwn i’n gwybod nad oeddwn i’n mynd i’w gweld hi eto, oherwydd fe wnes i grïo wrth i’r gofalwr maeth fynd â hi i ffwrdd. Pan gymerwyd fy mhlentyn oddi wrtha’ i , dywedwyd wrtha’ i fy mod i’n rhy grac.  

Dywedwyd wrtha’ i nad oeddwn i’n ffit i ofalu am blentyn, na fyddwn i fyth yn rhiant. 

Diolch byth, mae pethau’n wahanol iawn i mi heddiw. Rwy’n falch iawn o fy mywyd nawr ac rwy’n teimlo’n ddiolchgar oherwydd rwy’n gwybod nad yw llawer o bobl yn cyrraedd y man hwn. Rwy’n cael cymaint o lawenydd o fod yn rhiant, o’r pethau symlaf, pethau mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu casáu – mynd â’r plant i’r ysgol yn y glaw, cerdded yn y nos, y strancio, ‘alla i gael’ neu ‘pam… pam… pam’ yn ddiddiwedd.  

Ond mae’r hyn sydd wedi digwydd yn effeithio arna’ i o hyd. Rwy’n fam i bedwar, pump cyn hir, ond nid yw tri o fy mhlant gyda mi. Rwy’n teimlo gorbryder o hyd – os oes car tu allan – y peth cyntaf ddaw i’m meddwl yw mai gweithiwr cymdeithasol ydyw yn dod i gynnal archwiliad. Rwy’n poeni bod rhywun wedi gwneud atgyfeiriad newydd a bydd yr hunllef yn dechrau eto.  

Ni allaf ac nid wyf yn difaru cael fy mhlant. Rwy’ ond yn dymuno y byddai pethau wedi bod yn wahanol. Pe bawn i ond wedi cwrdd â phobl yn gynharach a wnaeth i mi sylweddoli nad ydw i’n berson drwg. Pe bawn i ond wedi gwybod ble i fynd am gefnogaeth. Pe bawn i ond wedi gwybod ychydig yn fwy am fy hawliau cyfreithiol. Pob un o’r pethau a ges i’n ddiweddarach mewn bywyd, y cyfle, y gefnogaeth, y berthynas, y teulu, pe bawn i ond wedi cael hynny’n gynharach.  

Rwy’n gwybod nad yw hi’r un peth i bawb a bod yr ymchwil hon wedi cynnwys pobl eraill sydd wedi cael profiadau gwaeth a phrofiadau gwell na fi. Mae yna rai gweithwyr ymroddedig ac mae rhai cynlluniau defnyddiol ar gael. Ond nid oes cefnogaeth dda ar gael i bawb. Ni ddylech fod yn lwcus bod gennych bobl y gallwch ddibynnu arnyn nhw, yn lwcus os cewch chi weithiwr cymdeithasol da, yn lwcus os oes gennych chi gynghorydd personol neu dîm gadael gofal cryf, yn lwcus os cewch chi gartref da, yn lwcus os cewch chi gynnig lle i fam a baban, yn lwcus os cewch chi gyfreithiwr da, yn lwcus os yw’r barnwr mewn hwyliau da. Nid lwc ddylai fod yn penderfynu ar eich sefyllfa. Mae pob person ifanc yn haeddu’r cyfle i fod yn rhiant ac i gael ei deulu ei hun.  

Roedd y gweithwyr cymdeithasol, y rheolwyr a’r gweithwyr proffesiynol a oedd yn ymwneud â mi yn gwneud penderfyniadau amdana’ i a drosof i, yn aml heb ofal nac ymgynghori. Pe bai’r bobl hynny wedi meddwl yn fwy amdanynt eu hunain fel rhieni a neiniau a theidiau ac yn llai fel gweithwyr proffesiynol, efallai byddai pethau wedi bod yn wahanol.  

Trwy rannu fy mhrofiad a chymryd rhan yn yr ymchwil hon, gobeithio y galla’ i helpu i sicrhau bod pobl eraill yn cael profiad gwahanol. Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith yn dod â phobl ifanc â phrofiad o ofal ynghyd â rhieni, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, cynghorwyr personol, uwch reolwyr, swyddogion y llywodraeth, gweithwyr elusennol, gwirfoddolwyr…; unrhyw un a phawb sy’n gallu gwneud gwahaniaeth. Gobeithio mai dechrau rhywbeth gwell yw hyn.

Mae’r Blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ExChange, “Mae’n Cymryd Pentref: Safbwyntiau byd-eang ar rieni sydd â phrofiad o ofal”

I ddod o hyd i fwy o adnoddau ar y pwnc hwn edrychwch ar y cynadleddau isod