Dw i’n dod o Lundain. Yn 17 oed roeddwn ‘dan ofal’ mewn trefniant a gymeradwywyd gan y wladwriaeth, y tu allan i’m cartref teuluol uniongyrchol neu estynedig.
Cefais fy mhlentyn cyntaf yn 18 oed.
Ar ôl fy apwyntiad cyn geni cyntaf yn yr ysbyty daeth i’r amlwg nad oedd bydwraig wedi’i hargyhoeddi ynghylch fy ngallu i ymdopi â beichiogrwydd. Felly penderfynodd y fydwraig hon fy nghyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol heb yn wybod i mi a heb gael fy nghydsyniad i wneud hynny. Cefais dipyn o sioc wrth dderbyn galwad i ddarganfod fy mod wedi cael fy nghyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol gan fydwraig a’r unig reswm a roddwyd ar y daflen atgyfeirio oedd “fy mod yn 17 oed”. Dyna oedd fy nghyflwyniad i ‘fod mewn gofal’ ac i bob pwrpas yn Rhiant â Phrofiad o Ofal.
Roedd y gwasanaethau cymdeithasol yn mynnu fy mod yn cydymffurfio trwy gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r gweithiwr cymdeithasol a neilltuwyd i mi a’m ‘plentyn heb ei eni’ bob wythnos. Roedd y cyfarfodydd hyn yn cynnwys cynnal asesiadau ynghyd â sesiynau dal i fyny cyffredinol. Ni ddarparodd y gwasanaethau cymdeithasol gyfnod penodol ar gyfer dal ati gyda’u hymyrraeth, ond pryd bynnag gwnes i holi ynghylch eu hamserlen roedd y gweithiwr cymdeithasol a neilltuwyd i mi yn fy annog i beidio ag ymwrthod ag ymyrraeth y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, oherwydd trefn brysur fy mywyd gwaith, y coleg ac apwyntiadau ysbyty, daeth yn heriol i barhau i gytuno i gyrraedd y lefel o ymgysylltu roedd y gwasanaethau cymdeithasol yn ei disgwyl gennyf. Felly, ar ôl dau fis o gydymffurfio â’r gwasanaethau cymdeithasol penderfynais droi at gyfreithiwr, a gytunodd i weithio i mi er mwyn atal y gwasanaethau cymdeithasol rhag parhau i ymyrryd yn ddiangen ym mywyd fy mhlentyn heb ei eni a minnau. Roedd rhaid i mi benodi cyfreithiwr oherwydd pan fues i’n ceisio trafod y telerau yr oedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi disgwyl wrth i mi ymgysylltu â nhw, doeddwn nhw ddim yn ymateb. Fodd bynnag, cyn gynted ag y trois i at gyfreithiwr, fe wnaethon nhw ymateb i’m cyfreithiwr. Felly, ar ôl pum mis yn ôl ac ymlaen gyda fy nghyfreithiwr a’r gwasanaethau cymdeithasol fe fues i’n rhan o gyfarfod diogelu. Roedd y cyfarfod hwn yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol i mi, dau weithiwr cymdeithasol ar gyfer fy mhlentyn heb ei eni, gweithiwr allweddol, eiriolwr a swyddog adran tai. Ar ôl ystyriaeth gan yr holl weithwyr proffesiynol hyn yn y cyfarfod hwn, cytunodd y gwasanaethau cymdeithasol o’r diwedd i atal eu hymyrraeth; ar y pwynt hwn roedd 4 wythnos i fynd tan ddyddiad geni fy mhlentyn.
Beth helpodd fi drwy gydol y cyfnod hwn oedd fy rhwydwaith cymorth; fy nheulu agos, fy nheulu Cristnogol, fy ffydd a’m haddysg. Y pentref damcaniaethol oedd gen i a’r systemau y penderfynais i ganolbwyntio arnyn nhw oedd y ffynhonnell anogaeth a’m harweiniodd i ddechrau fy astudiaethau academaidd yn y brifysgol pan oeddwn yn 18 oed; ar y pryd, roedd gen i fabi 6 wythnos oed, dair blynedd yn ddiweddarach fe wnes i raddio gyda gradd mewn Cyfiawnder Ieuenctid Troseddeg. Felly, ar ôl cwblhau fy addysg bellach, roeddwn i’n llawn angerdd i redeg a datblygu fy atebion busnes fy hun i rymuso a gwella amodau plant a rhieni yn eu harddegau.
Drwy gydol fy meichiogrwydd roeddwn yn dioddef gyda rhywbeth y gallaf ei adnabod bellach fel iselder cyn-geni. Rwy’n meddwl, oherwydd yr holl straen meddwl yr oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn ei roi arnaf fi, ynghyd â’m trefn o ddydd i ddydd, ei bod yn anodd iawn canolbwyntio ar y bywyd newydd hwn yr oeddwn yn ei gyflwyno i’r byd. Wnes i ddim dweud wrth neb sut roeddwn i’n teimlo’n feddyliol oherwydd roedd cymaint o ofn arnaf i feddwl beth fyddai’n digwydd i fy mhlentyn heb ei eni pe bawn i’n gwneud hynny. Felly, trwy gydol fy meichiogrwydd, cadwais fy meddyliau i mi fy hun. Fodd bynnag, erbyn y cyfnod o naw mis roeddwn yn arddangos symptomau iechyd corfforol a oedd yn ymwneud yn helaeth â straen. O ganlyniad, cefais c-section brys annisgwyl cynnar ac ar ôl esgor yn ddiogel ar fy merch fach; deffrais yn ddiweddarach yn yr uned gofal dwys. Arhosodd fy merch a minnau yn yr ysbyty fel cleifion mewnol am 8 wythnos wedi hynny. Yn anffodus, roedd yr holl brofiad o feichiogrwydd ynghyd â’r gwasanaethau cymdeithasol, cyfreithwyr, coleg a gwaith ynghyd â’m genedigaeth drawmatig yn ei gwneud hi’n amhosibl cysylltu’n naturiol â’m plentyn newydd-anedig. Ac er gwaethaf fy ymdrechion gwaethygodd fy nghyflwr o ran iselder. Er fy mod mor gyffrous i adael yr ysbyty o’r diwedd, pan ddois â fy merch adref roeddwn i’n gwneud popeth yn awtomatig, chi’n gwybod? Bwydo’r babi, newid y babi, mae’r babi’n crio, gwneud hyn, patio’r babi, a chyn belled â mod i’n gwneud hynny roeddwn i’n teimlo mod i’n gwneud yn iawn.
Mae’r profiadau y mae rhieni ifanc yn eu hwynebu gyda’u hiechyd meddwl fel yr wyf wedi dangos uchod yn benodol iawn i daith mam ifanc 25 oed ac iau yn y DU. O ganlyniad, heb gymorth wedi’i deilwra a’r flaenoriaeth a roddir i’r llywodraeth i ddiwygio rhai polisïau ar gyfer rhieni yn eu harddegau yn y DU; mae bod yn fam am y tro cyntaf yn eithriadol o anodd o safbwynt iechyd meddwl rhieni sydd wedi cael profiad o ofal.
Yn ddiweddar, cefais y fraint o gefnogi rhieni sydd â phrofiad o ofal am 18 mis, fel rhan o Deithiau Gofal Barnardo’s – Care Experienced Parent’s Unite – prosiect ymchwil gan gymheiriaid 2021-22. Roedd y prosiect hwn yn bersonol i mi oherwydd fy mhrofiadau fel Rhiant â Phrofiad o Ofal fy hun. Ceir rhagor o fanylion am y gwaith yma [dolen i’r hwb adnoddau]. Fel sylfaenydd busnes bach, rwy’n gweithio’n annibynnol fel Ymgynghorydd Rhieni Ifanc. Fel ymgynghorydd rwy’n cynnig fy ngwasanaethau fel siaradwr cyhoeddus, ymchwilydd ac awdur cynnwys yn bennaf ar bynciau sy’n ymwneud â rhieni o dan 25 oed. Mae gen i brofiad uniongyrchol o gael fy adnabod fel rhywun sydd mewn perygl felly mae’r hyn mae Barnardo’s yn ei wneud yn y maes hwn i helpu i sicrhau newid yn hynod o bwysig.
Rwyf am i weithwyr cymdeithasol roi blaenoriaethau rhieni yn gyntaf yn eu cynlluniau asesu a chyfarfodydd pellach. Dwy ddim yn credu y dylai gwasanaethau cymdeithasol ymwthio i fywyd rhiant yn ei arddegau heb reswm. Rwy’n credu y dylai gweithwyr cymdeithasol fod yn helpu rhieni yn eu harddegau i ddod yn hunangynhaliol nid dim ond barnu eu gallu fel mamau a thadau yn eu harddegau.
Mae’r Blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ExChange, “Mae’n Cymryd Pentref: Safbwyntiau byd-eang ar rieni sydd â phrofiad o ofal”
I ddod o hyd i fwy o adnoddau ar y pwnc hwn edrychwch ar y cynadleddau isod