Teithiau Gofal Barnardo’s – Care Experienced Parents Unite – prosiect ymchwil gan gymheiriaid 2021-22.
Barnardo’s – Teithiau Gofal
Barnardo’s yw’r elusen blant fwyaf yng ngwledydd Prydain. Yn Barnardo’s, mae ganddon ni hanes hir o gefnogi plant sydd mewn gofal a phobl ifanc sy’n trosglwyddo i fod yn oedolion annibynnol. Mae Teithiau Gofal (a gyflawnodd y gwaith hwn) yn un o raglenni blaenoriaeth craidd Barnardo’s (meysydd ffocws allweddol ar gyfer ein cronfeydd gwirfoddol). Wrth wraidd ein damcaniaeth newid mae gweledigaeth syml: bod pawb sy’n rhyngweithio â thaith ofal (ar draws y system ofal ehangach) yn teimlo eu bod yn cael eu caru, eu cefnogi, ac yn cael cyfleoedd sy’n bwysig iddyn nhw. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, mae ganddon ni dri maes gweithio: meithrin cymunedau gofalgar a newid systemau, cyrraedd cyrchfannau cadarnhaol drwy brofiadau cadarnhaol, ac arfer trawsnewidiol. Rydyn ni’n cynnal ein gwaith drwy bum gwerth.
- Dysgu, creadigrwydd a newid.
- Brwydro dros yr hyn sy’n iawn.
- Nid yw gweithdrefn byth yn dod o flaen cefnogi anghenion pobl.
- Cyfranogiad a chred diamod.
- Cariad, gofal, a bod yn ddynol.
Pam canolbwyntio ar Rieni sydd â Phrofiad o Ofal?
Mae pobl ifanc sydd wedi tyfu i fyny yn y system ofal tua 2.5 gwaith yn fwy tebygol o feichiogi o gymharu ag arddegwyr eraill. Mae’r bobl ifanc hyn yn wynebu’r her o drosglwyddo i fyw’n annibynnol, gan sicrhau ar yr un pryd bod anghenion eu plentyn yn cael eu diwallu.
Fel grŵp, mae rhieni â phrofiad o ofal mewn perygl uwch o ynysrwydd ac unigrwydd, yn gallu ei chael yn anodd cael mynediad at gymorth iechyd meddwl, ac yn aml yn wynebu anawsterau ariannol gan eu bod yn wynebu costau magu plentyn, a hynny yn aml ar incwm isel iawn. Mae gan lawer o rieni sydd â phrofiad o ofal hefyd ddrwgdybiaeth hirdymor o weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, sy’n gallu ei gwneud yn anodd sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae adroddiad Care-experienced Parents Unite for Change yn ceisio dangos pwysigrwydd gwella cymorth ar gyfer rhieni â phrofiad o ofal drwy ymchwil a gynhaliwyd gan ymchwilwyr sydd â phrofiad byw o ofal a bod yn rhiant.
Fel arbenigwyr drwy eu profiad byw, mae’r dull hwn yn dangos pwysigrwydd cynnwys rhieni sydd â phrofiad o ofal yn y gwaith o ddylunio’r atebion sydd eu hangen arnyn nhw i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Ar ôl i’r ymchwil gael ei chwblhau, helpodd ymchwilwyr cymheiriaid i nodi meysydd i greu newid a gwella, ochr yn ochr â rhannu profiadau cadarnhaol a thystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio.
Gwyliwch y fideo hwn a ddatblygwyd gan rieni sydd â phrofiad o ofal, sy’n trafod materion allweddol a nodwyd yn ein hymchwil ac sy’n rhannu eu profiadau nhw.
Beth ddylai ddigwydd nesaf?
“Do’n i ddim eisiau i fy mherthynas gyda fy mhlant fod fel fy mherthynas gyda fy mam. Oherwydd does gen i ddim perthynas gyda fy mam, a dw i heb fod ag un ers amser hir iawn, iawn, ond dw i’n meddwl taw dyna’r peth mwyaf brawychus am fod yn rhiant, roedd yn codi ofn oherwydd ro’n i’n teimlo fel taw dim ond ei dull hi o fod yn rhiant ro’n i’n ei wybod. Felly, do’n i ddim yn gwybod dim byd arall.”
Mae angen i ni wrando ar brofiadau rhieni sydd â phrofiad o ofal i wella’r system ofal.
Rydyn ni’n credu y byddai’r pum argymhelliad hwn ar gyfer newid yn helpu awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i ddarparu cymorth gwell i rieni â phrofiad o ofal, a dylent ffurfio rhan o’r cynllun gweithredu ar gyfer yr Adolygiad Annibynnol o Ofal Cymdeithasol Plant yn Lloegr.
- Dylai fod canolfan deulu hygyrch ym mhob ardal sy’n darparu siop un stop lle gall rhieni a darpar rieni fynd i gael cyngor a chefnogaeth.
- Dylai rhieni â phrofiad o ofal gael cefnogaeth tan eu bod yn 25 oed i adeiladu eu ‘pentref’ nhw o gefnogaeth anffurfiol. Dylai hyn cynnwys cael mynediad at gymorth canfod teulu a ‘chyfeillion’ neu ymwelwyr annibynnol.
- Dylai pob awdurdod lleol ddatblygu polisïau ar sut maen nhw’n cefnogi rhieni â phrofiad o ofal fel rhan o’u darpariaeth gadael gofal leol.
- Dylai fod gan fwy o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y GIG a’r heddlu, gyfrifoldeb statudol i gefnogi plant mewn gofal a phobl sy’n gadael gofal. Byddai hyn yn ehangu’r rôl o fod yn ‘rhiant corfforaethol’ y tu hwnt i wasanaethau plant i gynnwys, er enghraifft, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.
- Mae angen i rieni sydd â phrofiad o ofal gael mynediad at gymorth iechyd meddwl. Dylai hyn fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer Byrddau Gofal Integredig newydd wrth iddyn nhw ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc. Dylid hefyd creu rôl newydd ar gyfer arweinwyr iechyd meddwl rhithwir ym mhob awdurdod lleol, sydd â’r gwaith o wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant mewn gofal a phobl sy’n gadael gofal.
“Roedd e’n eitha gwael. Fe ges i fy symud i dai amhriodol iawn. Doedd fy ngweithiwr cymdeithasol ddim yn cysylltu â fi mewn gwirionedd. Doedd ganddon ni ddim perthynas. Ces i fy ngadael, os yw hynny’n gwneud synnwyr. Ac ro’n i’n iawn gyda hynny ar y pryd, achos doedd dim llawer o ots gen i. Ond wrth edrych ’nôl nawr, gallai fod wedi bod yn beryglus. A dw i’n meddwl fy mod i wedi bod yn eitha lwcus, fod pethau heb fynd yn wael iawn.”
Gallwch glywed mwy o’r hyn wnaethon ni a sut, a sut brofiad oedd gweithio ar y prosiect hwn, gan ein hymchwilydd cymheiriad Jade, sy’n cyflwyno yn ein digwyddiad lansio.
Gwersi o’r dull ymchwil cymheiriaid ac effaith ar y bobl a gymerodd ran
- Caniatáu digon o amser ac adnoddau ar gyfer datblygu a chefnogi’r ymchwilwyr cymheiriaid yn unigol ac fel grŵp. Mae hyn yn hanfodol er mwyn meithrin sylfeini cadarn a hyder i gyflawni’r ymchwil yn llwyddiannus.
- Gosod pwyslais ar eu cefnogaeth/anghenion drwyddi draw, a datblygu cefnogaeth cymheiriaid. Cynnig goruchwyliaeth reolaidd.
- Cynnig cynllun hyfforddiant ar gyfer gwahanol gamau o ymchwil (deall y sgiliau/profiad sydd gan yr ymchwilwyr cymheiriaid neu nad oes ganddynt) – mewnbwn ychwanegol pan fydd angen, fel pecyn cymorth i’w ddefnyddio.
- Gwobrwyo a chydnabyddiaeth am y rôl – gan gynnwys tâl a recriwtio gofalus.
- Ystyried nid yn unig beth, ond sut rydyn ni’n ei wneud – cynnig cyfleoedd ystyrlon i bobl â phrofiad byw. Roedd ymchwilwyr cymheiriaid yn cynnig arbenigedd eu profiadau byw nhw. Roedd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth fewnol o’r materion dan sylw yn gwella ansawdd canfyddiadau’r ymchwil er mwyn sicrhau bod y canlyniadau ymchwil yn berthnasol ac yn effeithiol.
- Yn seiliedig ar y dysgu o’n prosiect cymheiriaid, rydyn ni eisiau annog eraill i gyflawni dull ymchwil cymheiriaid gydag astudiaethau yn y dyfodol sy’n ceisio ymgysylltu â phobl ifanc, ac yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed neu sy’n rhannu gwybodaeth bersonol a sensitif am eu bywydau. Mae cyd-gynhyrchu a chyfranogiad yn ganolog i ddylunio ymchwil cymheiriaid, a dylai ffurfio sylfaen ymchwil. Mae mewnwelediad, dealltwriaeth ac ymrwymiad ymchwilwyr cymheiriaid yn gwneud dull ymchwil cymheiriaid yn amhrisiadwy ar gyfer astudiaethau sy’n cynnwys pobl ifanc, ac rydyn ni’n annog timau ymchwil academaidd a gwasanaethau eraill i gofleidio dulliau cyfranogol o’r fath, a fydd o fudd i’w hastudiaeth, i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil, neu i’r rhai sy’n cyflawni rôl ymchwilydd cymheiriaid.
Dyfyniadau gan Ymchwilwyr Cymheiriaid
“Ond ro’n i’n teimlo cysylltiad yn syth gyda ‘phrofiad o ofal’. Roedd yr hysbyseb yn gwneud i fi deimlo fy mod i’n cael fy nghlywed, cyn i fi siarad hyd yn oed.”
“Gall theori a hyfforddiant helpu timau ymchwil i dderbyn a chydnabod agweddau ar gynwysoldeb, ond mae profiad byw yn cynnig lefel ddyfnach o ddealltwriaeth.
Doedden ni ddim eisiau ei gael e’n iawn ar gyfer y prosiect yn unig – roedd angen i ni ei gael e’n iawn ar gyfer ein cymuned â phrofiad o ofal.”
“Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf erioed o fod mewn grŵp o bobl sydd â phrofiadau ro’n i’n gallu uniaethu gyda nhw”
“Mae’r prosiect yma wedi fy helpu i fod yn falch o fy hunan fel rhywun sydd â phrofiad o ofal, ac i beidio â theimlo’n ynysig ac yn unig yn fy mhrofiadau.”
Roedd yr amser a dreuliwyd yn gadael i’r Ymchwilwyr Cymheiriaid ddod i adnabod ei gilydd cyn dechrau’r gwaith yn golygu bod ‘gofod diogel’ wedi’i greu, gan ganiatáu iddynt herio ei gilydd yn barchus yn ystod cyfarfodydd cynllunio. Roedden nhw’n teimlo eu bod yn gallu dweud ‘Rwy’n gweld pethau’n wahanol’ neu ‘Rwy’n anghytuno’.
‘Dear Baby I will love you forever’ cerdd bwerus a ysgrifennwyd gan riant ifanc o Lundain sydd â phrofiad o ofal pan oedd yn feichiog. Wedi’i pherfformio gan unigolyn creadigol lleol ar ei rhan.