Efallai bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn profi mwy o broblemau gyda’u hiechyd meddwl, a bod ganddynt lefelau is o les na’u cyfoedion nad ydynt wedi cael profiad o ofal. Ystyrir bod ysgolion yn lleoliad pwysig ar gyfer cefnogi iechyd meddwl a lles pob plentyn a pherson ifanc, ond prin yw’r ymyriadau yn yr ysgol sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi myfyrwyr sydd wedi cael profiad o ofal, ac ychydig a wyddys am sut mae ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach (AB) yng Nghymru yn diwallu anghenion y grŵp hwn. Nod yr Astudiaeth Lles mewn Ysgolion a Cholegau (WiSC) yw mynd i’r afael â’r bwlch hwn.
Beth yw nodau’r astudiaeth?
Mae’r astudiaeth wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac mae’n archwilio anghenion iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal maeth, gofal gan berthnasau, gofal preswyl, Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig neu fabwysiadu, a sut mae eu hanghenion yn cael eu cefnogi gan ysgolion uwchradd a cholegau AB. Yn benodol, mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar anghenion a chymorth adeg trosglwyddo o’r ysgol uwchradd i’r coleg.
Beth yw’r dulliau ymchwil?
Mae’r astudiaeth ar y gweill ac mae’n defnyddio cynllun dulliau cymysg, gan gynnwys dadansoddi data o arolygon ysgolion, ymgynghoriadau ac astudiaethau achos y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, a gynhelir bob dwy flynedd.
Cynhaliwyd cyfres o ymgynghoriadau ar ddechrau’r astudiaeth i helpu’r tîm ymchwil i ddeall rhai o’r materion a allai godi yn ystod yr astudiaethau achos ac i lywio’r cwestiynau a’r pynciau y byddem yn eu gofyn yn y cyfweliadau astudiaethau achos. Ymgynghorwyd â phobl ifanc, gyda chymorth Voices from Care Cymru, rhieni a gofalwyr sy’n mabwysiadu, gyda chymorth gan y Rhwydwaith Maethu a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a chydag ymarferwyr o addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd. Roedd yr ymgynghoriadau’n hynod addysgiadol a rhoesant gipolwg gwerthfawr i’r tîm ymchwil ar brofiadau pobl o roi a derbyn cymorth iechyd meddwl a lles yn yr ysgol ac yn y coleg.
Soniodd y bobl ifanc, er enghraifft, am y straen o ddewis eu hopsiynau TGAU pan oedd cymaint arall yn digwydd yn eu bywydau, a phwysau i dyfu i fyny yn rhy gyflym wrth iddynt nesáu at ddiwedd Blwyddyn 11. Soniodd rhieni a gofalwyr mabwysiadol am yr angen am fwy o ymwybyddiaeth o effaith trawma ac roeddent yn disgrifio’r ffaith nad oeddent yn ymwybodol o anawsterau eu plant yn y coleg oherwydd ymrwymiad colegau i feithrin annibyniaeth yn eu myfyrwyr.
Mae’r materion a drafodwyd yn yr ymgynghoriadau yn cael eu harchwilio’n fanylach ar hyn o bryd yn yr astudiaethau achos. Mae’r astudiaethau achos mewn pedair ardal amrywiol yng Nghymru ac maent yn cynnwys ysgolion uwchradd, colegau AB, timau gofal cymdeithasol a thimau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed. Yn y lleoliadau hyn, rydym yn cyfweld â phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr sy’n mabwysiadu, staff bugeiliol ac addysgu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth, ac ymarferwyr iechyd meddwl.
Y camau nesaf
Byddwn yn treulio’r ychydig fisoedd nesaf yn cwblhau cyfweliadau’r astudiaeth achos ac yn dadansoddi’r data ohonynt a’r ymgynghoriadau. Yna byddwn yn llunio rhai argymhellion ar gyfer llunwyr polisi ac ymarferwyr mewn addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd ac yn mynd â’r argymhellion drafft hyn yn ôl i’n grwpiau ymgynghori gwreiddiol a grŵp o lunwyr polisi i weld beth yw eu barn amdanynt.
Yna byddwn yn symud ymlaen i’r cam olaf a phwysicaf, sef lledaenu ein hargymhellion wedi’u mireinio i ysgolion, colegau, timau gofal cymdeithasol a thimau iechyd meddwl, ac i eraill sydd â diddordeb ym maes iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal, neu gyfrifoldeb amdano.