Sut mae lles plant mewn gofal maeth yng Nghymru’n cymharu â lles plant eraill yng Nghymru?

Mae lles i fod wrth wraidd gwasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru – ac eto prin yw’r ymchwil ar les plant mewn gofal. Pa mor hapus a bodlon yw plant mewn gofal yng Nghymru – yn enwedig o gymharu â phlant eraill?

Mae’r seminar hon yn adrodd ar ymchwil sy’n cymharu plant mewn gofal â grŵp llawer mwy o blant eraill yng Nghymru i ateb cwestiynau ynghylch pa mor fodlon ydyn nhw ar bywyd a pha ffactorau sy’n dylanwadu ar a ydyn nhw’n hapus neu beidio. Mae’n cymharu lles 22 o blant mewn gofal maeth rhwng 10 a 13 oed â sampl genedlaethol fawr o 2627 o blant eraill.

Dyma, hyd y gwyddom, yr ymchwil gyntaf sy’n gallu gwneud cymhariaeth o’r fath, ac mae’r sampl fawr yn caniatáu inni ymchwilio i ofal ond ar ben hynny mae modd edrych ar effaith ffactorau eraill megis amddifadedd. Roedd y canfyddiadau yn ddiddorol ac yn annisgwyl. Bydd y seminar hon yn cyflwyno’r canfyddiadau cychwynnol ac yna’n agor trafodaeth ynghylch sut y gallen ni helpu i wella lles plant mewn gofal a phwysigrwydd ystyried lles goddrychol ochr yn ochr â mesurau mwy “gwrthrychol” megis cyflawniad addysgol.

Cyflwynwyr: Dr Jen Hampton (WISERD), yr Athro Colette McAuley (CASCADE) Yr Athro Donald Forrester (Cyfarwyddwr CASCADE) Prifysgol Caerdydd 

Dyddiad a Amser: 15fed Medi, 12y.p

Ydy gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywyd plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau hydredol o garfan electronig ôl-weithredol

Nod yr ymchwil arfaethedig yw ymchwilio, dros gyfnod o amser, i ddeilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal (CLA) gan yr  awdurdod lleol (h.y. dan ofal). Mae astudiaethau presennol sy’n defnyddio un pwynt yn unig mewn amser wedi dangos nad yw deilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal cystal o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae profiadau cyn derbyn gofal, megis cam-drin corfforol, afiechyd iechyd meddwl rhieni, a rhieni sy’n camddefnyddio alcohol yn rhesymau cyffredin am ddod yn blant sy’n derbyn gofal. Mae’r profiadau hyn hefyd yn rhagweld deilliannau iechyd, addysg a chymdeithasol gwaeth ymhlith pobl ifanc nad ydyn nhw’n derbyn gofal. Am y rhesymau hyn, mae’n anodd deall a yw deilliannau iechyd ac addysgol gwaeth ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd o ganlyniad i wahaniaethau o ran profiadau cyn derbyn gofal, neu oherwydd y gofal ei hun. 

Am y tro cyntaf, cysylltodd yr ymchwil hon set ddata Cymru gyfan ar addysg ac iechyd â data sy’n cael ei gasglu fel mater o drefn ar gymorth i bobl ifanc gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r ymchwil yn ymchwilio i dri amcan. Yn gyntaf, mae’n mynd i’r afael â’r diffyg astudiaethau ar raddfa fawr yn y DU sy’n ymchwilio’n ystadegol i rôl statws plant sy’n derbyn gofal wrth ragweld deilliannau addysgol ac iechyd dros gyfnod o amser. Yn ail, bydd yn lleihau’r ansicrwydd ynghylch i ba raddau y mae’r deilliannau gwael ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd oherwydd profiadau cyn derbyn gofal neu oherwydd profiadau o fod mewn gofal. Gwneir hyn drwy gymharu plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ond nad ydyn nhw’n blant sy’n derbyn gofal (Plant Mewn Angen, ond nid yn Blant sy’n Derbyn Gofal – NLA). Mae’n debygol y bydd gwahaniaethau rhwng y ddau grŵp hyn sy’n rhagweld pam mae un grŵp yn dod yn blant sy’n derbyn gofal a’r llall ddim, ond mae’r NLA yn debygol o fod yn debycach i blant sy’n derbyn gofal na phlant nad yw’r gwasanaethau yn gwybod amdanyn nhw. Er mwyn ystyried rhai gwahaniaethau pellach rhwng grwpiau, byddwn ni’n addasu hyn yn achos cam-drin corfforol, salwch iechyd meddwl rhieni, rhieni sy’n camddefnyddio alcohol a thrais domestig. Yn drydydd, mae statws plant sy’n derbyn gofal yn aml yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd tynnu pobl ifanc o adfyd yn eu symud tuag at lwybrau bywyd gwell. Yr astudiaeth hon fydd y gyntaf i ymchwilio dros gyfnod o amser i rôl gofal wrth leihau effeithiau profiadau cyn-ofal ar ddeilliannau addysg a gofal iechyd. 

Mae’r ymchwil wedi’i ariannu gan Cyngor Economic and Social Research (ERSC)

Cyflwynydd: Dr Sara Long, DECIPHer, Prifysgol Caerdydd.

Dyddiad a Amser: 14eg Medi, 11y.b

Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd trwy gyfarfodydd cyfranogol

Mae yna sawl model ar gyfer cynnwys aelodau o’r teulu mewn penderfyniadau lle mae pryderon am blentyn, yn hytrach na gwneud penderfyniadau allweddol mewn cynhadledd achos dan arweiniad proffesiynol.

Mae’r modelau hyn yn cynnwys cynadleddau grwpiau teulu, y model a ddefnyddir fwyaf yn y DU. Mae’r gweminar hwn yn cynnwys trosolwg o dystiolaeth ymchwil ryngwladol am gyfarfodydd penderfynu ar y cyd â theuluoedd a chyflwyniad ar sut mae dau awdurdod lleol yn Lloegr wedi ehangu’r defnydd o gyfarfodydd o’r fath yn ddiweddar.

Mae’r trosolwg ymchwil yn cynnwys canfyddiadau adolygiad systematig o dystiolaeth ar ganlyniadau ac adolygiad realistig sy’n canolbwyntio ar sut y gall cyfarfodydd alluogi teuluoedd i gymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae’r cyflwyniad ymarfer yn ymdrin ag enghraifft o sut mae cynadleddau grwpiau teulu a chynadleddau cyfranogol amddiffyn plant wedi disodli cynadleddau achos traddodiadol.

Siaradwyr: Jonathan Scourfield a Lorna Stabler (CASCADE, Prifysgol Caerdydd) a Kathy Nuza, Prif Arweinydd, Gwasanaeth Cynhadledd Grwpiau Teulu Bi Borough (Kensington a Chelsea a San Steffan)

Rhannu prif negeseuon o’r gwerthusiad o gynllun ymyrryd Gwella.

Roedd ‘Gwella’ yn ymyriad llwyddiannus a gafodd ei ddatblygu a’i gynnal gan Barnardo’s Cymru ar draws gogledd a de Cymru rhwng 2017 a 2020.

Crëwyd y cynllun ymyrryd i gefnogi plant rhwng 5 ac 11 oed oedd yn gysylltiedig â’r gwasanaethau cymdeithasol ac wedi cael profiad o drawma a cham-drin. Ei nod oedd cynnig system o weithwyr proffesiynol cefnogol o’u cwmpas oedd yn ymwybodol o faterion trawma, a gwella eu perthynas â’u prif ofalwyr. Cafodd 31 o blant a’u rhieni a’u gofalwyr eu cefnogi drwy’r prosiect hwn. Mae’r sesiwn hon yn rhannu negeseuon allweddol o werthuso’r prosiect.

Roedd hyn yn cynnwys pwyslais amlwg ar ddogfennu profiadau pawb oedd yn gysylltiedig, gan gynnwys tîm Gwella, rhieni a gofalwyr, plant, arbenigwyr ymgynghorol a gweithwyr proffesiynol allanol o feysydd gofal cymdeithasol ac addysg. Mae’r prif negeseuon yn canolbwyntio ar beth oedd cynllun ymyrryd Gwella a sut y gellir ei gyflwyno’n effeithiol, ynghyd â rhannu beth oedd y deilliannau i blant a theuluoedd a sut a pham bod y rhain wedi digwydd.  

Cyflwynir gan

Dr Sophie Hallett, Prifysgol Caerdydd.

Am fwy o wybodaeth, ymwelch a tudalen y prosiect

Cyfres 1 DRILL: Moeseg ymchwil anabledd – Gwersi ar gyfer ymchwil ac ymarfer

Rhwydwaith Cymru gyfan yw ExChange, a’i nod yw dod â gweithwyr, ymchwilwyr a’r rheini sy’n defnyddio gwasanaethau ynghyd i rannu profiadau ac arbenigedd, ac i ddysgu o’i gilydd. Ein nod yw gwella gwaith cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy sbarduno trafodaeth a meithrin perthnasau parhaus rhwng pobl â gwahanol mathau o arbenigedd.

Ein cred yw bod gwaith ymchwil yn cael mwy o effaith pan fo’n rhan o drafodaeth barhaus rhwng ymchwilwyr, ymarferwyr, a’r rhai sydd â phrofiadau uniongyrchol o ddefnyddio gwasanaethau. Rydym felly yn canolbwyntio ar ddod ag ymchwilwyr blaenllaw i gysylltiad uniongyrchol â gweithwyr, rheolwyr, a’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau, er mwyn i ni allu dysgu o’n gilydd. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, rydym yn rhedeg rhaglen o fwy na 20 o ddigwyddiadau ledled Cymru, a hynny’n cynnwys cynadleddau mawr a seminarau bach gydag arbenigwyr blaenllaw.

Sefydlwyd ExChange gan y Ganolfan Cascade ym Mhrifysgol Caerdydd, ond rydym yn cydweithio’n agos â phrifysgolion Abertawe a Bangor, a gobeithiwn wneud hynny â phrifysgolion eraill ledled Cymru hefyd. Mae bron pob awdurdod lleol yng Nghymru yn aelod, yn ogystal ag elusennau allweddol a sefydliadau eraill. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein galluogi i roi amrywiaeth o gyfleoedd i drafod a chydweithio, a hynny gan ganolbwyntio’n barhaus ar sicrhau bod ein gwaith ymchwil yn gwneud gwahaniaeth. Os hoffech ragor o wybodaeth, neu i gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy ebost: contact@exchangewales.org.

Gweminar: Defnyddio llety diogel at ddibenion lles yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Mercher 9fed Medi am 11.30yb

Yn gynharach eleni, oherwydd y cyfnod cloi, nid oeddem yn gallu cynnal ein gweithdy ar Ddefnyddio llety diogel at ddibenion lles yng Nghymru. Bydd ExChange Wales nawr yn cynnal gweminar am ddim yn ei le. Byddwn yn recordio’r weminar hon a bydd ar gael yn fuan ar ôl y digwyddiad byw. Os na allwch ymuno â ni ar y diwrnod, ymwelwch â sianel Cascade i weld y weminar yn dilyn y digwyddiad.

Haniaethol

Cartrefi preswyl yw llety diogel gyda chymeradwyaeth i gyfyngu ar ryddid pobl ifanc rhwng 10 a 17 oed sy’n risg ddifrifol iddynt hwy eu hunain neu i eraill. Er bod pobl ifanc yn aml yn mynd i mewn i lety diogel (neu amgen) trwy’r system cyfiawnder troseddol, mae llawer yn cael eu gosod gan y gwasanaethau cymdeithasol am resymau lles ac nid oes fawr o arwydd bod yr arfer hwn yn lleihau. Cymhlethir y sefyllfa drafferthus hon ymhellach gan brinder lleoliadau diogel yng Nghymru sy’n gweld llawer o bobl ifanc yn cael eu rhoi y tu allan i Gymru neu heb wely mewn gofal diogel oherwydd diffyg argaeledd.

Ar hyn o bryd prin yw’r dystiolaeth ymchwil o’r hyn a arweiniodd at hyn na’r hyn y gellir ei wneud i wella materion. Er mwyn rhoi gwell mewnwelediad, archwiliodd prosiect diweddar a gomisiynwyd gan Social Care Wales ac a gynhaliwyd gan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd brofiadau pobl ifanc o Gymru cyn, yn ystod ac yn dilyn atgyfeiriad i lety diogel. Achosodd llawer o ganfyddiadau bryder dwfn ac arweiniodd at gyfres o argymhellion.

Bydd y gweithdy yn rhoi cyfle i ymarferwyr a rheolwyr glywed am yr astudiaeth a’i chanfyddiadau, a’u defnyddio fel platfform ar gyfer trafodaeth gydweithredol ar

  • Argymhellion yr astudiaeth
  • I ba raddau y mae’r argymhellion yn mapio ar brofiad ymarfer ac a fyddent yn elwa o gael eu diwygio
  • Rhagwelir rhwystrau wrth weithredu’r argymhellion
  • Sut y gellid goresgyn rhwystrau o’r fath

A gyflwynir gan:
CASCADE: Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, Prifysgol Caerdydd

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad

Barod i fynychu digwyddiad? Gwiriwch ein rhestr paratoi at ddigwyddiadau

Dyma rhai ffyrdd o baratoi at ddigwyddiad ExChange Wales. Ymchwiliwch y lleoliad ac amseroedd teithio er mwyn cyrraedd yn gynnar. Edrychwch ar amserlen neu fanylion y darlithydd neu arweinydd y gweithdy i ymgyfarwyddo â’u harbenigedd ac i baratoi cwestiynau. Yn ystod y digwyddiad, cysylltwch ag ymchwilwyr, staff neu ymarferwyr eraill i ehangu meysydd sydd o ddiddordeb i chi. 

Dewch a deunyddiau – beiro a phapur neu declyn ar gyfer cymryd nodiadau. Peidiwch ag anghofio gwneud gwaith ar ôl y gweithdy: efallai y bydd cyflwyniadau, Twitter, neu ddeunyddiau pellach ar gael. Ac yn olaf: edrychwch allan am ein digwyddiad nesaf!

Tra’ch bod yma, archwiliwch adnoddau ExChange Wales:

  • Dilynwch ni ar Twitter i dderbyn cyhoeddiadau byw cyfoes o’n digwyddiadau: Twitter.com/exchangewales
  • Gwelwch ein harchif digwyddiadau
  • Ewch i’n hadran adnoddau i wylio fideos, gwrando ar bodlediadau, a mwy
  • Darganfyddwch fwy am ein hacademyddion, ymchwilwyr, ac aelodau tîm yn CASCADE
  • Archwiliwch feysydd arbenigol ein gwefan: Newyddion, Addysg & Gofal, Teulu & Chymuned
  • Ymgyfarwyddo â’n polisi canslo digwyddiadau:
  • Mae digwyddiadau ExChange yn rhad ac am ddim ac yn cael eu hariannu gan Exchange Wales. Er mwyn i ni allu cynnal digwyddiadau a’u gwneud yn gynaliadwy, rydym yn codi ffi diffyg presenoldeb o £30. Rydym yn gofyn am rybudd deuddydd cyn canslo. Os na chawn ein hysbysu o’ch gohiriad o fewn yr amser yma byddwn yn codi tâl o £30 ar eich cyflogwr.
  • Dysgu pellach: ymwelwch â’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) i weld prosiectau ymchwil cyfredol a chwblhawyd, newyddion cyfredol, a diweddariadau Canolfan What Works

Yn olaf, os yw ein digwyddiad yn ddiddorol neu’n ddefnyddiol i chi, ystyriwch ail-drydar ni @exchangewales. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Book events through the ExChange Wales Eventbrite.