Mae yna sawl model ar gyfer cynnwys aelodau o’r teulu mewn penderfyniadau lle mae pryderon am blentyn, yn hytrach na gwneud penderfyniadau allweddol mewn cynhadledd achos dan arweiniad proffesiynol.
Mae’r modelau hyn yn cynnwys cynadleddau grwpiau teulu, y model a ddefnyddir fwyaf yn y DU. Mae’r gweminar hwn yn cynnwys trosolwg o dystiolaeth ymchwil ryngwladol am gyfarfodydd penderfynu ar y cyd â theuluoedd a chyflwyniad ar sut mae dau awdurdod lleol yn Lloegr wedi ehangu’r defnydd o gyfarfodydd o’r fath yn ddiweddar.
Mae’r trosolwg ymchwil yn cynnwys canfyddiadau adolygiad systematig o dystiolaeth ar ganlyniadau ac adolygiad realistig sy’n canolbwyntio ar sut y gall cyfarfodydd alluogi teuluoedd i gymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae’r cyflwyniad ymarfer yn ymdrin ag enghraifft o sut mae cynadleddau grwpiau teulu a chynadleddau cyfranogol amddiffyn plant wedi disodli cynadleddau achos traddodiadol.
Siaradwyr: Jonathan Scourfield a Lorna Stabler (CASCADE, Prifysgol Caerdydd) a Kathy Nuza, Prif Arweinydd, Gwasanaeth Cynhadledd Grwpiau Teulu Bi Borough (Kensington a Chelsea a San Steffan)