Gan Rosemary Furey a Jean Harris-Evans (Prifysgol Sheffield Hallam)

Gwaith Cymdeithasol Plant a Theuluoedd, doi: 10.1111 / cfs.12822 

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?

Mae’r papur hwn yn adrodd am safbwyntiau ymadawyr gofal mewn perthynas â sicrhau cyflogaeth ac annibyniaeth ar ôl gadael gofal. Mae’n edrych yn benodol ar gynllun mewn un awdurdod lleol i gefnogi ymadawyr gofal trwy ddarparu interniaeth oddi mewn i wahanol adrannau’r cyngor. 

Sut aethon nhw ati i astudio hyn?

Bu oedolion ifanc oedd â phrofiad o ofal (n = 6) yn cymryd rhan mewn cyfweliadau, a mynychodd goruchwylwyr gweithle’r rhaglen interniaeth (n = 6) grŵp ffocws. Cynhaliwyd cyfweliad ag un goruchwyliwr ychwanegol, gan nad oedd yn gallu mynychu’r grŵp ffocws. Cafodd recordiad sain o’r cyfweliadau a’r grŵp ffocws ei greu a’i drawsgrifio.  Yna defnyddiwyd dadansoddiad thematig i archwilio safbwyntiau’r cyfranogwyr a nodi themâu cyffredin ar draws y data. 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Soniodd yr ymadawyr gofal am bwysigrwydd gwneud cyfraniad gwirioneddol trwy’r interniaethau, ond hefyd bod angen amgylchedd gwaith sy’n gefnogol yn emosiynol. Roedd goruchwylwyr y gweithle hefyd yn ymwybodol bod angen cefnogaeth emosiynol ychwanegol ar rai o’r ymadawyr gofal, o gymharu ag aelodau eraill o staff, ac roedd y mwyafrif yn teimlo y gallent ddarparu hyn – ond nid pawb, gan fod rhai yn teimlo nad oedd ganddynt yr wybodaeth arbenigol angenrheidiol. Oddi mewn i’r rhaglen interniaeth ehangach, gallai ymadawyr gofal hefyd gael eu cefnogi gan weithiwr cymorth addysg, gweithiwr penodedig, a hefyd gan oruchwyliwr fyddai’n helpu i’w cefnogi ac roedd ymgynghorydd personol statudol ganddynt o hyd. I rai, achosodd hyn ddryswch o ran rolau ac nid oedd ymadawyr gofal bob amser yn siŵr at bwy i droi am help. 

Beth yw’r goblygiadau?

Llwyddodd pob un o’r ymadawyr gofal yn yr astudiaeth hon i gwblhau’r rhaglen interniaeth ac roeddent am barhau mewn addysg neu hyfforddiant wedi hynny. Er mai astudiaeth ar raddfa fach yw hon, mae’n dangos bod potensial i raglenni interniaeth helpu i hwyluso gweithgareddau cysylltiedig â chyflogaeth yn y dyfodol a hybu annibyniaeth ymadawyr gofal. Mae hefyd yn dangos y gall cefnogi oedolion sydd â phrofiad o ofal i gael gwaith ymwneud llawn cymaint â darparu cefnogaeth emosiynol ag â chymorth yn y gweithle fel y cyfryw.   


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr David Wilkins