Mae prinder ymchwil am ofalwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig.  Ychydig iawn rydyn ni’n ei wybod am brofiadau’r grŵp hwn, y gefnogaeth ffurfiol ac anffurfiol sydd ar gael ar eu cyfer, ac a ydynt yn manteisio arni. 

Nod yr astudiaeth PhD hon oedd pontio’r bwlch hwn trwy gyfweld â gofalwyr Ethnig Du a Lleiafrifoedd, yng Nghymru a Lloegr.  Trwy gyfweliadau manwl ansoddol, roedd yn bosibl edrych ar eu profiadau o gefnogaeth ffurfiol ac anffurfiol, a chefnogaeth oedd yn fuddiol iddyn nhw a’u teulu.  

Er mai ymchwil gyda rhieni gofalwyr plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd oedd hon, mae’r canfyddiadau’n berthnasol ar draws gofal cymdeithasol (ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant), o ran cynnig cefnogaeth i ofalwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig. Cafwyd cipolwg defnyddiol ar brofiadau’r grŵp hwn.  

Mae’r cyflwyniad yn canolbwyntio ar y cyferbyniad rhwng yr hyn a gredwyd yn flaenorol am y gefnogaeth deuluol a chymunedol sydd ar gael ar gyfer y grŵp hwn o deuluoedd, a datganiad y gofalwyr eu hunain. Mae’r pynciau a drafodwyd yn y cyfweliadau yn cynnwys gofalwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn disgrifio eu profiadau o ofalu, cefnogaeth gan deulu a ffrindiau, rôl crefydd, yn ogystal â’u profiadau o wasanaethau gan y GIG, hosbisau, gofal cymdeithasol ac addysg. 

Cyflwynydd: Dr Wahida Kent, Darlithydd Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol De Cymru.