gan Thomas Mackrill ac Idamarie Leth Svendsen

Child and Adolescent Social Work Journal, doi: 10.1007/s10560-020-00734-9 

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?

Mae’r papur hwn yn adrodd ar astudiaeth o Ddenmarc, lle bu un gwasanaeth yn defnyddio’r mesur canlyniadau rheolaidd. Caiff mesurau o’r fath eu defnyddio’n aml mewn gwasanaethau cwnsela ond maent yn llai cyffredin o lawer mewn gwaith cymdeithasol. 

Yn yr achos hwn gofynnwyd i weithwyr cymdeithasol gasglu dau fath o adborth bob tro roedden nhw’n cwrdd ag aelod o’r teulu. Ar ddechrau pob sesiwn, cwblhaodd y gweithiwr Raddfa Sgorio Canlyniadau, i fonitro llesiant, ac ar ddiwedd pob sesiwn, Graddfa Sgorio Sesiwn, i gael adborth ar sut aeth y cyfarfod. Gallwch wylio fideo byr 1 munud yn dangos sut y defnyddiwyd y graddfeydd hyn yn ymarferol yma (mae’r fideo mewn Daneg gydag is-deitlau Saesneg). 

Sut aethon nhw ati i astudio hyn?

Bu’r astudiaeth ar waith am ddwy flynedd. Bu’r ymchwilwyr yn arsylwi sesiynau hyfforddi a goruchwylio gan helpu i ddatblygu llawlyfr ar gyfer gweithredu’r dull newydd. Hefyd cyfwelwyd â gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr am eu canfyddiad o’r buddion a’r heriau ynghlwm â mesur canlyniadau fel hyn.  

Beth oedd eu canfyddiadau?

Canfuwyd bod gweithwyr cymdeithasol yn fwy cyfarwydd â meddwl amdanyn nhw eu hunain fel rheolwyr achos yn hytrach nag ystyried sut y gallai eu cysylltiadau â’r teulu fod yn ffordd bwysig o hwyluso newid. Drwy gael adborth rheolaidd, daw gweithwyr yn fwy ymwybodol o’u hymarfer, eu cryfderau a meysydd ar gyfer gwella. Canfu gweithwyr hefyd eu bod yn cael mwy o sgyrsiau gydag aelodau’r teulu yn trafod a oedd pethau’n gwella i’r plentyn ai peidio. 

Roedd rhai gweithwyr yn poeni y gallai holi rhieni’n uniongyrchol ac yn fwy aml am eu barn danseilio eu hawdurdod statudol.  Roedd rhai hefyd yn pryderu pe bai’r mesurau canlyniadau’n dangos nad oedd pethau’n gwella i’r plentyn, y byddai hynny’n adlewyrchu’n wael arnyn nhw ac ar y gwasanaeth yn ehangach. Roedd gweithwyr hefyd yn teimlo bod y mesurau canlyniadau’n rhy syml i fesur cymhlethdod bywyd teuluol yn gywir, ac y gallent dynnu oddi wrth ffocws ar risg ac ar broblemau strwythurol fel tlodi. 

Beth yw’r goblygiadau?

Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos buddion posibl cyflwyno monitro canlyniadau rheolaidd mewn gwaith cymdeithasol, a rhai o’r heriau. Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos nad yw gwneud newidiadau ‘syml’ o’r math hwn bob amser yn ddidrafferth ac y gall arwain at ganlyniadau anfwriadol hefyd. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr David Wilkins