Beth sy’n gwneud bywyd yn dda? Barnau ymadawyr gofal am eu lles

Er 2013, mae rhaglen Bright Spots wedi gweithio gyda phlant mewn gofal ac ymadawyr gofal i archwilio’r hyn sy’n gwneud bywyd yn dda iddynt. Mae eu lles yn cael ei fesur gan yr arolygon Eich Bywyd Eich Gofal a’ch Bywyd y Tu Hwnt i Ofal, a gafodd eu cydgynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc i ddal yr hyn a oedd yn bwysig yn eu barn hwy. Mae’r rhaglen Bright Spots wedi gweithio gyda bron i 60 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, gan gasglu dros 15,000 o ymatebion gan blant a phobl ifanc sydd mewn gofal ac yn ei adael. Gan ddefnyddio’r arolygon, rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall sut mae plant a phobl ifanc yn teimlo am eu bywydau ac wedi nodi enghreifftiau o wella arferion a ddatblygwyd o ganlyniad i’r hyn a ddywedodd pobl ifanc.

Gwnaeth un o’n hadroddiadau diweddaraf, Beth sy’n gwneud bywyd yn dda, barnau ymadawyr gofal am eu lles’, a gyhoeddodd Coram Voice mewn cydweithrediad â Chanolfan Rees, ddangos y dirywiad serth mewn lles ymadawyr gofal. Gan dynnu ar y Rhaglen Bright Spots, archwiliodd yr adroddiad les ymadawyr gofal trwy ddadansoddi 1,804 o ymatebion ymadawyr gofal a gasglwyd rhwng 2017 a 2019 mewn 21 awdurdod lleol yn Lloegr. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno canfyddiadau’r adroddiad ac yn archwilio’r hyn y mae ymadawyr gofal yn ei ddweud sy’n gwneud eu bywydau’n dda a lle mae angen gwaith i wneud y trawsnewid yn haws a’u bywydau yn well. Bydd hefyd yn arddangos rhai o’r ffyrdd y mae’r awdurdodau lleol rydym wedi gweithio gyda nhw wedi ymateb i’w canfyddiadau lleol.

Cyflwynydd: Linda Briheim-Crookall, Pennaeth Datblygu Polisïau ac Arferion, Coram Voice

Mae’r holl wybodaeth am brosiect Brightspots ar gael ar wefan Coram Voice

Mae gwybodaeth i awdurdodau lleol sydd â diddordeb mewn ymuno â phrosiect Brightspots yma

Os hoffech chi ddarllen mwy am ymchwil Coram Voice, mae’r cyhoeddiadau i’w gweld yma:

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.

Gweminarau

 Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth amlygu profiad unigolion o fod mewn gofal.

Sut mae lles plant mewn gofal maeth yng Nghymru’n cymharu â lles plant eraill yng Nghymru?

Mae lles i fod wrth wraidd gwasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru – ac eto prin yw’r ymchwil ar les plant mewn gofal. Pa mor hapus a bodlon yw plant mewn gofal yng Nghymru – yn enwedig o gymharu â phlant eraill?

Mae’r seminar hon yn adrodd ar ymchwil sy’n cymharu plant mewn gofal â grŵp llawer mwy o blant eraill yng Nghymru i ateb cwestiynau ynghylch pa mor fodlon ydyn nhw ar bywyd a pha ffactorau sy’n dylanwadu ar a ydyn nhw’n hapus neu beidio. Mae’n cymharu lles 22 o blant mewn gofal maeth rhwng 10 a 13 oed â sampl genedlaethol fawr o 2627 o blant eraill.

Dyma, hyd y gwyddom, yr ymchwil gyntaf sy’n gallu gwneud cymhariaeth o’r fath, ac mae’r sampl fawr yn caniatáu inni ymchwilio i ofal ond ar ben hynny mae modd edrych ar effaith ffactorau eraill megis amddifadedd. Roedd y canfyddiadau yn ddiddorol ac yn annisgwyl. Bydd y seminar hon yn cyflwyno’r canfyddiadau cychwynnol ac yna’n agor trafodaeth ynghylch sut y gallen ni helpu i wella lles plant mewn gofal a phwysigrwydd ystyried lles goddrychol ochr yn ochr â mesurau mwy “gwrthrychol” megis cyflawniad addysgol.

Cyflwynwyr: Dr Jen Hampton (WISERD), yr Athro Colette McAuley (CASCADE) Yr Athro Donald Forrester (Cyfarwyddwr CASCADE) Prifysgol Caerdydd 

Ydy gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywyd plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau hydredol o garfan electronig ôl-weithredol

Nod yr ymchwil arfaethedig yw ymchwilio, dros gyfnod o amser, i ddeilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal (CLA) gan yr  awdurdod lleol (h.y. dan ofal). Mae astudiaethau presennol sy’n defnyddio un pwynt yn unig mewn amser wedi dangos nad yw deilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal cystal o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae profiadau cyn derbyn gofal, megis cam-drin corfforol, afiechyd iechyd meddwl rhieni, a rhieni sy’n camddefnyddio alcohol yn rhesymau cyffredin am ddod yn blant sy’n derbyn gofal. Mae’r profiadau hyn hefyd yn rhagweld deilliannau iechyd, addysg a chymdeithasol gwaeth ymhlith pobl ifanc nad ydyn nhw’n derbyn gofal. Am y rhesymau hyn, mae’n anodd deall a yw deilliannau iechyd ac addysgol gwaeth ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd o ganlyniad i wahaniaethau o ran profiadau cyn derbyn gofal, neu oherwydd y gofal ei hun. 

Am y tro cyntaf, cysylltodd yr ymchwil hon set ddata Cymru gyfan ar addysg ac iechyd â data sy’n cael ei gasglu fel mater o drefn ar gymorth i bobl ifanc gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r ymchwil yn ymchwilio i dri amcan. Yn gyntaf, mae’n mynd i’r afael â’r diffyg astudiaethau ar raddfa fawr yn y DU sy’n ymchwilio’n ystadegol i rôl statws plant sy’n derbyn gofal wrth ragweld deilliannau addysgol ac iechyd dros gyfnod o amser. Yn ail, bydd yn lleihau’r ansicrwydd ynghylch i ba raddau y mae’r deilliannau gwael ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd oherwydd profiadau cyn derbyn gofal neu oherwydd profiadau o fod mewn gofal. Gwneir hyn drwy gymharu plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ond nad ydyn nhw’n blant sy’n derbyn gofal (Plant Mewn Angen, ond nid yn Blant sy’n Derbyn Gofal – NLA). Mae’n debygol y bydd gwahaniaethau rhwng y ddau grŵp hyn sy’n rhagweld pam mae un grŵp yn dod yn blant sy’n derbyn gofal a’r llall ddim, ond mae’r NLA yn debygol o fod yn debycach i blant sy’n derbyn gofal na phlant nad yw’r gwasanaethau yn gwybod amdanyn nhw. Er mwyn ystyried rhai gwahaniaethau pellach rhwng grwpiau, byddwn ni’n addasu hyn yn achos cam-drin corfforol, salwch iechyd meddwl rhieni, rhieni sy’n camddefnyddio alcohol a thrais domestig. Yn drydydd, mae statws plant sy’n derbyn gofal yn aml yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd tynnu pobl ifanc o adfyd yn eu symud tuag at lwybrau bywyd gwell. Yr astudiaeth hon fydd y gyntaf i ymchwilio dros gyfnod o amser i rôl gofal wrth leihau effeithiau profiadau cyn-ofal ar ddeilliannau addysg a gofal iechyd. 

Mae’r ymchwil wedi’i ariannu gan Cyngor Economic and Social Research (ERSC)

Cyflwynydd: Dr Sara Long, DECIPHer, Prifysgol Caerdydd.

Here2there.me – Ap ar gyfer cynllunio personol a chofnodi deilliannau

Mae H2t.me yng ngham olaf ei ddatblygiad sy’n cynnwys treialon ar draws ystod o wasanaethau yng Nghymru ac mae wedi ennill her SBRI Llywodraeth Genedlaethol Cymru o’r enw Bywydau Gwell yn Nes at y Cartref. Mae wedi cael ei dreialu ynghylch anabledd dysgu, gwasanaethau plant a chymorth yn y gwaith.

Mae’r Ap yn cefnogi unrhyw unigolyn sy’n derbyn cefnogaeth wedi’i thargedu i gymryd llawer mwy o reolaeth dros yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, ynghyd ag ar eu cyfer. Mae hefyd yn caniatáu i’r bobl sy’n eu cefnogi ddangos tystiolaeth effeithiol o effaith eu hymyriadau.

Mae H2t.me yn cefnogi’r unigolyn (ochr yn ochr â Mentor) i:

• Greu proffil sy’n seiliedig ar gryfder o’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’u dyfodol;

• Nodi Cylch Cefnogaeth; unigolion yn eu bywyd sy’n gallu eu cefnogi a’u hannog;

• Nodi set o nodau a chamau gweithredu a fydd yn eu cefnogi i gyflawni’r deilliannau a ddymunir;

• Casglu stori gyfoethog o gyflawniad trwy eiriau a lluniau ar ffôn clyfar neu lechen;

• Adolygu pa mor bell maen nhw wedi symud tuag at bob nod trwy gyfarfodydd rheolaidd.

Mae’r sefydliad cymorth yn gallu cydlynu’r broses gyfan a chofnodi tystiolaeth o gyflawniad yn erbyn nodau’r unigolyn ei hun (yn eu geiriau hwy) ac yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol fel y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Cymru.

Cofnodir gweithgaredd mewn amser real, yn debyg i lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol, ac mae cefnogwyr yn gallu gweld cynnydd a rhoi anogaeth mewn ffordd gysylltiedig.

Bydd y gweminar hwn yn rhoi trosolwg o’r Ap, ei ddefnydd cyfredol a phosibl yn ymarferol, a’r manteision i ddefnyddwyr a darparwyr gwasanaethau.

Cyflwynir gan Roger Rowett, Cyfarwyddwr Here2there.me Ltd.

Cyfweld Ysgogiadol ar gyfer gweithio gyda phlant a theuluoedd – sgwrs

Bellach, mae MI (Cyfweld Ysgogiadol) yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn gwasanaethau plant, gan chwarae rhan allweddol mewn ymyriadau megis Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teulu, y model Diogelu Teuluol a Thimau Cefnogi Teuluoedd Dwys. Yn y sesiwn hon Roedd Steve Rollnick (cyd-grëwr Cyfweld Ysgogiadol) yn siarad â Donald Forrester, David Wilkins a Charlotte Whittaker am eu llyfr sydd ar ddod ar y pwnc hwn.

Mae’r llyfr “Motivational Interviewing for Working with Children and Families: A Practical Guide for Early Intervention and Child Protection” ar gael yma.

Cyflwynwyr: Steve Rollnick cyd-grewr Motivational Interviewing Cyfweliad Ysgogiadol, Donald Forrester and David Wilkins, Prifysgol Caerdydd a Charlotte Whittaker

Anghydraddoldebau iechyd a gofal dementia: beth sy’n bwysig i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd?

Prin iawn yw’r hyn rydym yn ei wybod am brofiadau o dementia a’r heriau ychwanegol sy’n wynebu cymunedau sydd â sawl hunaniaeth sy’n gysylltiedig â chefndir ethnig, rhywioldeb ac anabledd. Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed am brosiect a oedd â’r nod o fynd i’r afael â’r bwlch sylweddol hwn wrth ymgysylltu a deall anghenion cymunedau amrywiol (Bengali, Groegaidd, Somalaidd, Cymraeg ei hiaith, LGBT, Byddar Diwylliannol, byddar, â nam ar eu golwg a gyda Syndrom Down) o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt a’u gofalwyr yng Nghymru. Yn fwy penodol, bydd Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil yn Y Lab, Prifysgol Caerdydd yn trafod y fframwaith ehangach o anghydraddoldebau iechyd mewn gofal dementia gyda ffocws ar iaith a micro-ymosodiadau. Bydd Suzanne Duval BEM, rheolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig yn Diverse Cymru yn trafod ei hymgysylltiad polisi ar ofal dementia ac ethnigrwydd yng Nghymru. Bydd Anne Rees, cyn weithiwr cymdeithasol plant a swyddog gwybodaeth amrywiaeth yng Nghymdeithas Alzheimer Cymru yn trafod effaith deddfwriaeth cydraddoldeb ar ofal dementia.

Cyflwynwyr: Sofia Vougioukalou, Prifysgol Caerdydd, Suzanne Duval from Diverse Cymru and Anne Mears-Rees from Promo Cymru. 

Dadlwythwch y cywflwyniad

Dadlwythwch adroddiad  Dewch inni Drafod Dementia 

 

Adnoddau Ychwanegol

Dementia issues concerning BAME communities

Poster arwyddion cynnar o dementia:

Cymraeg

Saesneg

Hindi

Bengali


Wrth imi gerdded y filter olaf – Casgliad o gyfweliadau yw’r Adroddiad hwn, gyda theuluoedd a all dystio drwy brofiad yr effaith ddinistriol y mae dementia’n ei gael ar eu teuluoedd

Cymraeg

Saesneg

Gofalu am Rwyunâ Dementia

Cymraeg

Saesneg

10,000 o leisiau: Safbwyntiau plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc ynghylch eu lles

Dechreuodd y rhaglen Bright Spots yn 2013, a’i nod oedd deall profiad plant a phobl ifanc o ofal.  Mae’r rhaglen yn defnyddio pedwar arolwg lles ar-lein i geisio safbwyntiau plant sy’n derbyn gofal (rhwng 4 a 7 oed a rhwng 8 a 10 oed), pobl ifanc (rhwng 11 a 18 oed) ac ymadawyr gofal (rhwng 18 a 25 oed).  Yn y cyflwyniad hwn, bydd data arolwg o 10,000 o blant a phobl ifanc (rhwng 4 a 18 oed) yn cael eu defnyddio i ystyried y dangosyddion sy’n gysylltiedig â lles gwael a lles da iawn. Bydd ffocws penodol ar ddau ddangosydd – bod ag oedolyn i allu dibynnu arno a barn am ymddangosiad. 

Cyflwyniad gan Julie Selwyn CBE, Athro Addysg a Mabwysiadu , Canolfan Rees, Prifysgol Rhydychen

Gweithdy Lles BASW Cymru – Gweithredu ‘Pecyn Cymorth Arfer Da Lles ac Amodau Gwaith Gweithwyr Cymdeithasol’ BASW

Yn y gweithdy hwn byddwn yn trin a thrafod beth mae lles yn ei olygu i weithwyr cymdeithasol, gan edrych ar y gwahaniaethau rhwng lles hedonistaidd ac eudaimonic a beth mae hynny’n ei olygu i chi yn ymarferol.

Byddwn yn defnyddio ‘Pecyn Cymorth Arfer Da Lles ac Amodau Gwaith Gweithwyr Cymdeithasol’ BASW https://www.basw.co.uk/social-worker-wellbeing-and-working-conditions fel fframwaith i’ch helpu chi i fod yn fwy gwybodus a grymus i edrych ar ôl eich hun yn well yn y gwaith a chydnabod pryd mae angen cefnogaeth arnoch chi; sut i gael gafael ar gefnogaeth; gwybod eich hawliau a’r hyn y dylech ei ddisgwyl gan eich cyflogwr.

Yn y gweithdy byddwn yn canolbwyntio ar adran 1 y Pecyn Cymorth: Hunanofal; Cyrchu datblygiad proffesiynol parhaus; hunaniaeth gymunedol broffesiynol a hunaniaeth gyfunol; cefnogaeth undebau llafur; gweithredu.

Bydd y gweithdy’n cynnwys strategaethau sy’n cefnogi lles unigolion a’r gweithlu gyda’i gilydd.

Deilliannau lles – eu mesur a’u dehongli

Mae dull sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau wedi cael ei hyrwyddo ers blynyddoedd lawer, ynghyd ag ymdrechion i’w cofnodi’n ystyrlon. Weithiau, mae pwyslais cryf ar ddeilliannau newid sy’n canolbwyntio ar adsefydlu wedi arwain at ddeilliannau dan arweiniad ymarferwyr yn hytrach na deilliannau personol. Mae hefyd wedi arwain at esgeuluso deilliannau pwysig eraill o ran lles, yn enwedig ymhlith pobl hŷn ag anghenion cefnogi uchel, na ellir eu hadsefydlu bob amser. 

Mae diwylliant cyffredinol o brofi, yn hytrach na gwella, wedi’i yrru gan berfformiad, wedi arwain at gyflwyno dulliau rhy gyffredinol o fesur a gormod o bwyslais ar sgoriau. Fodd bynnag, gall recordio canlyniadau gwirioneddol bersonol fod yn dalcen caled. Mae’n ymddangos bod llwyddiant i’w gweld yn fwy amlwg mewn hanesion nag mewn niferoedd. 

Yn y seminar hwn, bydd Nick yn nodi rhai o’r heriau a’r llwyddiannau sy’n gysylltiedig â chofnodi a defnyddio gwybodaeth am ddeilliannau personol mewn gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn cyflwyno canllaw diweddar Gofal Cymdeithasol Cymru ar gofnodi deilliannau personol, ‘Friend not Foe’ (Cyfaill nid Gelyn) y mae wedi bod yn gweithio arno gydag Emma Miller o Brifysgol Strathclyde a Jess Matthews yn Gofal Cymdeithasol Cymru.

Bydd y seminar yn annog trafodaeth fywiog am yr elfennau da drwg yn yr agenda deilliannau.

Gweminar gan Nick Andrews, Prifysgol Abertawe

Adnoddau ychwanegol argymhellir gan y cyflwynwr

What Works Wellbeing

Person-Centred Community Care Inventory (PERCCI)

King’s Fund experienced-based co-design (and Magic / Tragic)

ESRC Meaningful and Measurable Collaborative Action Research project