Roedd y cyflwyniad hwn yn trin a thrafod tystiolaeth a gasglwyd gan yr Astudiaeth Pontio Hydredol: astudiaeth ansoddol hydredol 11 mlynedd sydd wedi dilyn profiadau 80 o bobl ifanc â nam ar eu golwg ar ôl gadael ysgol a’u dilyniant i’r farchnad lafur. Yn ystod y sesiwn hon gwnaethom canolbwyntio ar y gwahanol lwybrau a ddilynir gan y bobl ifanc, gan ystyried y gwahanol ffactorau galluogi a rhwystrau sydd wedi effeithio ar eu teithiau. Yn benodol, roeddwn wedi ystyried pa mor barod yr oedd y bobl ifanc yn teimlo am fywyd ar ôl ysgol, ac am gyflawni eu potensial.
Cynhaliwyd yr Astudiaeth Pontio Hydredol gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Nam ar y Golwg ar gyfer Addysgu ac Ymchwil, Yr Ysgol Addysg, Prifysgol Birmingham. Mae’r astudiaeth wedi’i hariannu gan Ymddiriedolaeth Thomas Pocklington, Sefydliad Nuffield a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB).
Amser: 1yp – 2yp
Dyddiad: 17 Tachwedd 2021
Cyflwynydd: Rachel Hewett, Prifysgol Birmingham
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.