Gan Caroline McGregor
British Journal of Social Work, 49(8), tt. 2112-2129.
Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins
Beth yw pwnc y papur hwn?
Mae’r papur trafod hwn yn ystyried a yw fframweithiau damcaniaethol ar gyfer gwaith cymdeithasol yn yr 20fed ganrif yn ddefnyddiol o hyd ar gyfer gwaith cymdeithasol yn yr 21ain ganrif.
Sut aeth yr awdur ati i astudio’r pwnc?
Adolygodd yr awdur waith sawl academydd nodedig ym maes gwaith cymdeithasol, gan gynnwys David Howe a Robert Mullaly.
Beth oedd y canfyddiadau?
O ystyried yr 21ain ganrif, mae’n rhaid i theori gwaith cymdeithasol gydnabod a phwysleisio pwysigrwydd cyd-destunau lleol o dan amgylchiadau byd-eang, symud i ffwrdd o oruchafiaeth syniadau ‘Gorllewinol’, adnabod yr hyn sy’n gyffredin rhwng gwaith cymdeithasol sy’n cael ei ymarfer yn fyd-eang o dan amgylchiadau gwahanol, a chydnabod pwysigrwydd myfyrio’n feirniadol. Yn benodol, mae’r erthygl yn amlinellu fframwaith sylfaen er mwyn deall mathau gwahanol o ddamcaniaethau, gan awgrymu bod modd eu deall ar hyd sawl continwwm, gan gynnwys fframweithiau sy’n drawsnewidiol, yn ddiwygiadol, yn unigolyddol ac yn gyfunolaidd eu natur (gweler y ffigur).
Beth yw’r goblygiadau?
Mae angen fframweithiau damcaniaethol ar gyfer proffesiwn gwaith cymdeithasol yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol, a hynny er mwyn creu sylfaen i allu gofyn cwestiynau, adnabod heriau a hwyluso deialog rhwng defnyddwyr y gwasanaethau, yr ymarferwyr, yr addysgwyr a’r sawl sy’n llunio polisïau. Gwrthddywediad yw gwaith cymdeithasol nad yw’n ddamcaniaethol.
Ysgrifennwyd yr adolygiad