Mae gan bob plentyn a fabwysiadwyd o’r system gofal cyhoeddus yn y DU hanes unigol a chymhleth o adfyd cynnar a all gynnwys profiadau cynnar o gamdriniaeth, esgeulustod neu drafferth yn y cartref. Efallai bod rhai plant wedi bod yn agored i gyffuriau neu alcohol yn y groth. Efallai bod eu risg genetig o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn uwch. Mae unrhyw blentyn sy’n cael ei fabwysiadu’n cael profiad o fod ar wahân i’w rieni biolegol a phrofiad o ansefydlogrwydd yn ystod ei amser mewn gofal. Er bod y teulu mabwysiadol yn ceisio cynnig sefydlogrwydd, diogelwch ac amgylchedd caredig ac ysgogol i blant, gall adfyd cynnar gael effaith ddifrifol ar eu datblygiad.

Er bod tystiolaeth yn awgrymu bod llawer o blant sy’n cael eu mabwysiadau’n gwneud yn dda, mae eu profiadau o adfyd cynnar yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau emosiynol ac ymddygiadol. Yn y gweminar hwn, byddaf yn cyflwyno canfyddiadau Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru (2015-2020). Ein prif nod oedd gwella dealltwriaeth o’r ffactorau a oedd yn helpu i sicrhau canlyniadau llwyddiannus i blant o Gymru a fabwysiadwyd o ofal wrth iddynt fynd o blentyndod cynnar i blentyndod canol. Byddaf yn cyflwyno ein canfyddiadau o ran proffiliau niwroseicolegol ac iechyd meddwl plant o Gymru a fabwysiadwyd o ofal yn 2015. Byddaf hefyd yn ystyried effaith ansawdd perthynas o fewn teulu ar eu hiechyd seicolegol diweddarach.

Cyflwyniad gan: Dr Amy Paine, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd