Gan: S. Bekaert, E. Paavilainen, H. Scheke, A. Baldacchino, E. Jouet, L. Zablocka-Zytka, B. Bachi, F. Bartoli, G. Carra, RM. Cioni, C. Crocamo, JV. Appleton
Children and Youth Services Review (2021)
Ysgrifennwyd yr adolygiad gan: Dr Nina Maxwell
Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?
Mae’r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad o astudiaethau sydd wedi archwilio persbectifau gwahanol aelodau o’r teulu mewn perthynas â’u profiadau o ymwneud ag amddiffyn plant. Yn benodol, mae’r papur yn canolbwyntio ar farn aelodau o’r teulu am y gweithiwr cymdeithasol, eu perthynas â’r gweithiwr cymdeithasol a chanfyddiad y gweithiwr cymdeithasol ohonynt, yn eu barn nhw. Wrth wneud hynny, mae’r papur yn ystyried tasg gymhleth gwaith cymdeithasol amddiffyn plant, lle mae’n rhaid i ymarferwyr weithio mewn partneriaeth â theuluoedd, ochr yn ochr ag amddiffyn plant rhag niwed difrifol.
Sut buon nhw’n astudio hyn?
Dechreuodd yr astudiaeth ag adolygiad systematig o’r llenyddiaeth i ddod o hyd i astudiaethau a gynhaliwyd rhwng 1999 a 2020. Mabwysiadodd yr astudiaeth feini prawf chwilio eang, a nododd gyfanswm o 45 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid. Adolygwyd pob erthygl gan ddefnyddio’r offeryn rhaglen sgiliau arfarnu critigol ar gyfer astudiaethau ansoddol. Yn dilyn yr adolygiad hwn, cafodd 10 erthygl eu heithrio. Cynhaliwyd meta-synthesis, lle caiff canfyddiadau eu hadolygu a’u hintegreiddio, ar y 35 astudiaeth oedd yn weddill.
Beth oedd eu canfyddiadau?
Canfu’r astudiaeth fod aelodau o’r teulu yn aml yn profi diffyg pŵer mewn perthynas â gwasanaethau amddiffyn plant. Roedd tuedd bod gan weithwyr syniadau rhagdybiedig am wahanol sefyllfaoedd, megis rhai oedd yn ymwneud â thrais domestig neu gamddefnyddio sylweddau, a disgwyliadau gwahanol o ran mamau a thadau mewn perthynas â gofal plant. Roedd gweithwyr hefyd yn disgwyl i blant hŷn arfer llawer mwy o ymreolaeth na phlant iau. Mae’r awduron yn tynnu sylw at yr angen am fwy o gydweithio rhwng gweithwyr a theuluoedd, er mwyn cadw plant yn ddiogel. Mae hyn yn galw am gydbwysedd rhwng atebolrwydd a chyfrifoldeb gweithwyr a mabwysiadu dull optimistaidd er mwyn annog newid.
Beth yw’r goblygiadau?
Mae’r astudiaeth yn pwysleisio’r angen i weithwyr cymdeithasol feithrin perthynas sy’n llawn parch ac ymddiriedaeth gyda theuluoedd drwy gyfathrebu gonest a thryloyw. Mae hyn yn cynnwys cefnogi pob aelod o’r teulu i gael hyd i ffordd drwy’r system amddiffyn plant, er enghraifft ag adnoddau ysgrifenedig oed-briodol i blant. Mae angen cefnogi gweithwyr i fyfyrio’n feirniadol ynghylch yr anghydbwysedd pŵer rhyngddyn nhw a’r teulu, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu cydberthynas. Mae’r awduron yn argymell bod angen gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar weithwyr i helpu i warchod rhag disgwyliadau rhagdybiedig a mabwysiadu modelau diffyg ar gyfer asesu ac ymyrryd. Yn olaf, mae’r astudiaeth yn pwysleisio’r angen am newid systemig i liniaru effaith trosiant staff, megis ffurfioli trosglwyddo achosion a meddu ar amserlenni clir.
Ysgrifennwyd yr adolygiad gan