Prosiect tair blynedd gan Rwydwaith Maethu Cymru a ddechreuodd yn 2020 yw Pennau’n Uchel (Walking Tall). Mae’n gweithio gyda phlant ysgol gynradd mewn gofal maeth ac fe’i comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen Cymunedau Maethu. Gan ddefnyddio gweithgareddau rhyngweithiol, roedd Cam Un yn annog staff a hwyluswyr i feddwl sut y gallant fabwysiadu dull mwy cyfranogol wrth weithio gyda phlant a thynnu sylw at bwysigrwydd cyd-gynhyrchu – gweithio ochr yn ochr â phlant, i’w grymuso i rannu eu barn.

Defnyddiodd Cam Dau argymhellion gwerthusiad Cam Un (Boffey et al 2021). Fe ddychwelodd at blant mewn gofal maeth a’u gofalwyr maeth a oedd wedi cymryd rhan yng Ngham Un i fireinio’r detholiad o weithgareddau. Awgrymodd y grŵp cynghori plant hwn weithgareddau creadigol newydd a rhoi cynnig ar deganau a thasgau myfyriol cysylltiedig. Yn sgil adborth gan ofalwyr maeth a phlant roedd tîm y prosiect yn gwybod pa weithgareddau a oedd wedi llwyddo. Roedd y profiad o weithio gyda’r arbenigwyr hyn yn golygu eu bod wedi osgoi math o ymgynghori ffug a gwag ond yn hytrach, roedd wedi arwain at enghreifftiau o ymgysylltu a chreu ar y cyd a oedd yn cynnwys pawb.

Yna anfonodd tîm y prosiect y detholiad diwygiedig o weithgareddau at blant mewn gofal maeth a’u gofalwyr maeth. Mewn sgyrsiau ar-lein gyda thîm y prosiect, bu plant a gofalwyr maeth yn trafod pob gweithgaredd ac yn eu gwerthuso o ran faint y gwnaethon nhw fwynhau, y sgiliau sydd eu hangen wrth wneud y gweithgareddau, beth wnaethon nhw gyda’r eitemau, a oeddent yn credu y byddai plant eraill yn hoffi’r gweithgareddau, a pha weithgareddau eraill y gellid eu cyflwyno wrth symud ymlaen gyda’r Prosiect Pennau’n Uchel. Roedd sylwadau’r plant ar y gweithgareddau yn cynnwys ‘hapus a phwyllog… O’n i’n teimlo’n gynnes’ ond hefyd ‘o’n i’n teimlo braidd yn rhwystredig’. Roedd y broses werthuso agored hon yn bwysig er mwyn sicrhau y gallai barn plant lywio ac arwain gwaith y Prosiect Pennau’n Uchel yn y dyfodol.

Darllenwch fwy yn adroddiad y prosiect:

Walking Tall: Gwerthusiad Cam Dau

Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru @tfn_Wales wales@fostering.net

Boffey, M., Mannay, D, Vaughan, R. a Wooders, C. 2021. The Fostering Communities Programme – Walking Tall: Stage One Evaluation. Caerdydd: Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru.

Boffey, M., Mannay, D, Vaughan, R. a Wooders, C. 2021. The Fostering Communities Programme – Walking Tall: Gwerthusiad Cam Dau Caerdydd: Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru.