Galwad i’r holl bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd sy’n berthnasau yn y Deyrnas Unedig: Rhannwch eich profiad gyda fi

Roeddwn am fanteisio ar y cyfle i ddweud diolch i’r holl weithwyr proffesiynol yr wyf wedi cwrdd â nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd yn wir yn gofalu ac yn gweithio’n galed i geisio newid y system ar gyfer teuluoedd sy’n berthnasau.

Mae cynifer o weithwyr proffesiynol wedi dweud wrthyf am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud, beth sy’n gweithio’n dda, a hefyd beth maen nhw’n teimlo ddylai newid. Mae’r holl dystiolaeth anecdotaidd honno wedi llywio fy nealltwriaeth o ofal gan berthnasau ac wedi dangos i mi beth sy’n bosibl pan fydd partneriaeth rhwng gweithwyr proffesiynol a theuluoedd.

Dyma’r hyn rwy’n gofyn amdano… rwy’n gwneud gwaith ymchwil sy’n archwilio teuluoedd sy’n berthnasau sy’n cael eu harwain gan frodyr a chwiorydd. Hoffwn gynnwys profiad a doethineb sy’n deillio o ymarfer yn fy ymchwil PhD. Mae gennym gynifer o ffynonellau ymarfer cyfoethog ar draws y Deyrnas Unedig. Yn aml mae gwahaniaethau enfawr rhwng yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban o’i gymharu â Chymru, neu Lerpwl o’i gymharu â Dyfnaint.

Rwy’n bwriadu cynnwys gweithwyr proffesiynol o bob math yn fy ymchwil PhD mewn sawl ffordd, gan gynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws. Fy man cychwyn ar gyfer hyn yw arolwg. Ynddo, rwy’n gofyn am enghreifftiau o ymarfer gyda theuluoedd sy’n berthnasau sy’n cael eu harwain gan frodyr a chwiorydd, a syniadau ynghylch yr hyn y mae angen i ni ei wneud i sicrhau bod y teuluoedd hyn yn cael eu cefnogi i ffynnu. Does dim angen i chi fod wedi gweithio’n benodol gyda brodyr a chwiorydd sy’n gofalu am berthnasau – bydd eich profiad o weithio gydag unrhyw ofalwyr sy’n berthnasau yn berthnasol iawn.

Mae llawer o’r sgyrsiau a gefais hyd yma wedi codi materion ac ystyriaethau pwysig, yn ogystal ag enghreifftiau gwych o ymarfer sy’n newid bywydau. Felly, os oes gennych ychydig o amser, byddwn i’n ddiolchgar os gallech lenwi’r arolwg hwn, fel bod modd i ni ddechrau dadansoddi beth mae angen i ni ei wneud i sicrhau bod teuluoedd sy’n berthnasau sy’n cael eu harwain gan frodyr a chwiorydd yn cael y gorau o’r hyn sydd gennym i’w gynnig. Gallwch gael mynediad i’r arolwg yma.

Rhannwch ymhell ac agos, os gwelwch yn dda, er mwyn i mi fedru cynnwys yr ystod ehangaf o syniadau a phrofiadau yn y gwaith ymchwil hwn.

Postiad blog gan Lorna Stabler.